Cyflwyniad i'r Broses Asesu Rheoliadau Cynefinoedd

Daeth i ben ar 10 Hydref 2022
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

Cyflwyniad i Broses yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA)

Rydym yn croesawu eich barn ynglŷn ag unryw agwedd o’r ddogfen hon.

Cefndir

Bydd Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Newydd Powys yn cynllunio ar gyfer anghenion ardal CDLl Powys (Sir Powys ac eithrio'r ardal o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog) dros y cyfnod 2022 i 2037. Mae'n bwysig fod CDLl Newydd Powys yn cyfrannu at ddatblygiad cynaliadwy cymunedau, economi ac amgylchedd yr ardal. Er mwyn bodloni'r gofyniad hwn, mae'r Cyngor wedi penodi Wood Group UK Limited (Wood) i gynorthwyo ei asesiad o GDLl Newydd Powys. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys cynnal Arfarniad o Gynaliadwyedd Integredig y mae rhan ohono yn Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar wahân.

Mae'r ddogfen hon yn rhoi cyflwyniad i broses yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd a fydd yn rhan o baratoi CDLl Newydd Powys. Mae cyflwyniad ar wahân ar gael sy'n esbonio proses yr Arfarniad o Gynaliadwyedd Integredig.

Beth yw Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA)?

Mae Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn broses i benderfynu a fydd unrhyw 'effeithiau sylweddol tebygol' ar unrhyw safleoedd cadwraeth natur dynodedig Ewropeaidd (a elwir bellach yn safleoedd Rhwydwaith Safleoedd Cenedlaethol) o ganlyniad i'r CDLl Newydd. Bydd hyn yn asesu effeithiau Cynllun Datblygu Lleol Newydd Powys ar: Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA), Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) a safleoedd Ramsar.

Dull a Materion Allweddol

Mae canllawiau ac arfer sefydledig mewn achosion yn awgrymu proses pedwar cam ar gyfer bodloni profion deddfwriaethol perthnasol y Rheoliadau Cynefinoedd, er na fydd angen pob cam o reidrwydd gan y gellir dod o hyd i ddewisiadau amgen i bolisïau neu gynigion penodol yn aml.

Cam 1: Sgrinio polisïau a chynigion am effeithiau sylweddol tebygol ar nodweddion cymhwysol safleoedd y Rhwydwaith Safleoedd Cenedlaethol. Cam 2: Lle mae effeithiau sylweddol yn debygol neu'n ansicr, Asesiad Priodol i sefydlu a fydd unrhyw effeithiau niweidiol ar gyfanrwydd y safle. Cam 3: Lle nad oes modd sicrhau na fydd effeithiau niweidiol yn digwydd, bydd angen ymdrin â'r rhain drwy atebion amgen (drwy newidiadau neu gamau lliniaru). Cam 4: Os nad oes unrhyw atebion amgen, yr unig ffordd y gellir mabwysiadu'r cynllum yw o ganlyniad i Resymau Hanfodol sef er Budd Cyhoeddus Tra Phwysig a chyda Mesurau Digolledu.

Data Ardal yr Astudiaeth a Safle Rhwydwaith y Safleoedd Cenedlaethol

Mae tua 63 o safleoedd wedi'u nodi fel rhai sy'n dod o fewn Powys, sydd o fewn 15km i ffin y Sir neu aberoedd i lawr yr afon sydd wedi'u cysylltu'n hydrolegol ag afonydd yn ardal CDLl Powys. Bydd data am y safleoedd Ewropeaidd a'u nodweddion diddordeb (h.y. cynefinoedd a/neu rywogaethau) yn cael eu casglu i gynnwys gwybodaeth am briodweddau'r safleoedd Ewropeaidd sy'n cyfrannu at ac yn diffinio eu cyfanrwydd, eu statws cadwraeth presennol, a sensitifrwydd penodol y safle, yn arbennig:

  • ffiniau'r safle a ffiniau'r Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig cyfansoddol;
  • yr amcanion cadwraeth;
  • cyflwr, gwendidau a sensitifrwydd y safleoedd a'u nodweddion o ddiddordeb;
  • y pwysau a'r bygythiadau presennol i'r safleoedd; a
  • lleoliadau bras y nodweddion o ddiddordeb o fewn pob safle (os rhoddwyd gwybod amdanynt); a 'chynefinoedd gweithredol' dynodedig neu heb eu dynodi (os ydynt wedi cael eu nodi).

Materion Posibl yn ymwneud â HRA ar gyfer CDLl Newydd Powys

Ansawdd aer, pwysau ymwelwyr ac ansawdd dŵr yw'r tri phrif fater i'w hystyried fel rhan o'r broses o ymdrin â'r broses HRA wrth lunio a gweithredu'r cynllun.

Ansawdd Aer

Newidiadau i ansawdd yr aer a allai fod yn gysylltiedig â maint y twf datblygu a gynigir, yn bennaf yn ymwneud ag ystyried effeithiau cynnydd mewn traffig, yn ogystal ag effeithiau 'mewn cyfuniad' sy'n gysylltiedig â chynigion cynlluniau eraill.

Mynediad Cyhoeddus / Pwysau Ymwelwyr

Mae gan fynediad cyhoeddus y potensial i gael effaith andwyol ar safleoedd sensitif, yn enwedig y rhai sydd â dalgylchoedd ymwelwyr sylweddol ac amrywiaeth o ymddygiadau ymwelwyr. Gallai'r effeithiau hyn gynnwys materion fel ansawdd aer (sy'n gysylltiedig â thraffig ceir), aflonyddwch a difrod i gynefinoedd.

Ansawdd Dŵr a Niwtraliaeth Maetholion

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi nodi'r safleoedd canlynol yn y Rhwydwaith Safleoedd Cenedlaethol sy'n sensitif i ollyngiadau ffosffad ac sydd â dalgylchoedd yn rhannol ym Mhowys:

  • ACA Afon Tywi
  • ACA Afon Dyfrdwy a Llyn Tegid
  • ACA Afon Wysg
  • ACA Afon Gwy

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn mynnu bod sylw arbennig yn cael ei roi i effeithiau tebygol cynigion datblygu ar safleoedd sy'n sensitif i ffosffadau, yn benodol sut y byddant yn cyflawni niwtraliaeth neu welliant o ran ffosffadau, er enghraifft trwy drin dŵr.

Y camau nesaf

Mae ymgysylltu parhaus yn digwydd â Chyfoeth Naturiol Cymru a chyrff eraill i gytuno ar union gwmpas a chynnwys yr HRA. Bydd Adroddiad HRA cychwynnol yn cael ei gynhyrchu ar gam y Strategaeth a Ffefrir a bydd yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'r Strategaeth a Ffefrir ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Mai 2023.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig