Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol

Daeth i ben ar 7 Hydref 2024

Rhagarweiniad

Yn unol â Chytundeb Cyflawni cytun (Gorffennaf 2022) Awdurdod Cynllunio Lleol Powys (ACLl), agorodd yr Alwad ar gyfer Safleoedd Ymgeisiol am chwe wythnos rhwng Tachwedd a Rhagfyr 2022. Roedd y broses wedi galluogi pawb oedd â diddordeb (perchnogion tir, cynghorau cymuned, sefydliadau lleol ac ati) i gyflwyno safleoedd potensial er mwyn i ACLl Powys ystyried eu cynnwys yng Nghynllun Datblygu Lleol Newydd Powys (CDLl) (2022 - 2037).

Mae’r Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol yn gofnod o’r holl safleoedd hynny a gyflwynwyd yn ffurfiol i ACLl Powys ac mae’n rhan hanfodol o’r broses o baratoi’r CDLl Newydd i’w chyhoeddi ochr yn ochr â’r Strategaeth a Ffefrir.

Mae’r Gofrestr ei hun yn nodi map o leoliad y safle, ynghyd â gwybodaeth gyfyngedig sy’n cynnwys cyfeirnod y Safle Ymgeisiol, enw’r safle, ardal y safle mewn hectarau, enw’r anheddiad, defnydd(iau) tir presennol ac arfaethedig, ardal y Cyngor Cymuned a dwyreiniadau/gogleddiadau

Mae fideos 'Sut i' wedi cael eu paratoi i gynorthwyo gyda defnyddio’r map rhyngweithiol: Cynllun Datblygu Lleol Newydd - Safleoedd Ymgeisiol - Cyngor Sir Powys

Cliciwch ar y ddolen 'Gweld Pob Safle' isod i weld map rhyngweithiol sy’n dangos yr holl Safleoedd Ymgeisiol a gyflwynwyd.

Gellir gwneud sylwadau ar bob safle a nodir yn y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol, edrychwch ar yr Hidlo Safleoedd Cychwynnol i wneud sylw ar safle

Mae’r Safleoedd Ymgeisiol wedi cael eu grwpio yn ôl 13 Ardal Leol Powys (Ardaloedd y Farchnad Dai).

Mae’r Safleoedd Ymgeisiol wedi cael eu grwpio yn ôl 13 Ardal Leol Powys

Trwy glicio ar flwch ardal isod, byddwch yn gweld yr holl Safleoedd Ymgeisiol a gyflwynwyd yn yr ardal honno.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig