Drafft Ymgynghorol Methodoleg Asesu Safleoedd Ymgeisiol

Daeth i ben ar 10 Hydref 2022
Os ydych chi’n cael trafferth defnyddio’r system, rhowch gynnig ar ein canllaw cymorth.

4. Cam Cychwynnol Hidlo Safleoedd

4.1 Hidlo Safleoedd Cychwynnol

4.1.1 Bydd safleoedd sy'n cael eu cynnig ar gyfer datblygu adeiledig (e.e. tai a chyflogaeth) i gyd yn destun asesiad hidlo cychwynnol safleoedd fel y'i disgrifir yn Adran 4.2. Os bydd safleoedd yn cael eu cyflwyno ar gyfer eu diogelu, bydd y rhain yn destun asesiad ar wahân fel bo'n berthnasol, er enghraifft, drwy gael eu hystyried yn rhan o'r asesiad seilwaith gwyrdd.

4.1.2 Bydd yr hidlo safleoedd cychwynnol yn cynnwys asesiad lefel uchel a fydd yn nodi ac yn gwrthod safleoedd anaddas yn gynnar yn broses. Tynnir safleoedd allan o'r broses os ystyrir nad ydynt yn addas fel dyraniadau yn y CDLl Newydd. Dylid nodi nad yw hyn o reidrwydd yn golygu na fyddai safleoedd yn cael caniatâd cynllunio o dan bolisïau CDLl Mabwysiedig neu Newydd pe bai cais yn cael ei gyflwyno.

4.1.3 Bydd ffiniau aneddiadau yn cael eu hadolygu yn unol â'r hierarchaeth aneddiadau (gweler paragraff 2.3.2) gan ystyried cyflwyniadau Safleoedd Ymgeisiol. Gall rhai Safleoedd Ymgeisiol gael eu cynnwys orau o fewn y CDLl Newydd drwy gynnwys y safle o fewn ffin anheddiad yn hytrach nag fel 'Safle Penodedig'. Bydd rhagor o wybodaeth am sut y bydd Safleoedd Ymgeisiol yn llywio'r adolygiad o ffiniau aneddiadau yn cael ei darparu yn y Nodiadau Cyfarwyddyd sydd gyda'r ffurflen gyflwyno Safleoedd Ymgeisiol.

4.1.4 Nodwch, pan fo gwybodaeth annigonol wedi'i chyflwyno gan gynigwyr safleoedd i ddangos bod y safle'n gallu bodloni ystyriaethau hidlo cychwynnol y safle, fe ellir eithrio'r safle.

4.2 Ystyriaethau Hidlo Safleoedd Cychwynnol:

Trothwy Safleoedd

4.2.1 Ar gyfer safleoedd preswyl ceir trothwy maint lleiaf y safle o 0.25 hectar neu bum annedd, gyda dwysedd lleiaf o 25 annedd yr hectar [net]. Sylwch fod y polisi dwysedd tai yn y CDLl Mabwysiedig i'w adolygu, mae'r union ofyniad dwysedd wedi'i gadw ar gyfer cyfnod diweddarach yn y broses.

4.2.2 Ar gyfer cynigion ar gyfer datblygiad di-breswyl mae'n rhaid i adeilad fod ag isafswm arwynebedd llawr o 1,000m² neu mae'n rhaid i'r safle fod ag isafswm arwynebedd safle gros o un hectar.

Bydd safleoedd sy'n llai na'r trothwyon hyn yn cael eu hidlo allan ac ni fyddant yn mynd ymlaen i'r cam asesiad manwl o safleoedd.

Perthynas â'r Anheddiad Presennol

4.2.3 A yw'r safle o fewn, ar ymyl, neu y tu allan i anheddiad? Os yw'r safle y tu allan neu heb berthynas agos ag anheddiad ar gyfer defnydd tir cyflogaeth, tai neu fanwerthu mae'n annhebygol iawn o symud ymlaen oherwydd byddai'n groes i bolisi cynllunio cenedlaethol h.y. datblygiad anghynaladwy yn y cefn gwlad agored.

4.2.4 Mae rhai defnyddiau y gellir eu hystyried yn dderbyniol ar gyfer datblygu yn y cefn gwlad agored (e.e. ynni adnewyddadwy, twristiaeth ac ati), ni fydd y rhain yn cael eu heithrio ar sail y berthynas ag anheddiad presennol.

Perygl llifogydd

4.2.5 Bydd safleoedd sydd wedi'u lleoli o fewn Parthau 2 neu 3 y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio (FMfP) (gan gynnwys mewn Ardaloedd wedi'u Hamddiffyn), na fyddant yn bodloni'r profion cyfiawnhad a derbyn meini prawf canlyniadau (o ran defnyddiau a thir eisoes wedi'i ddatblygu a fyddai o dan fygythiad) yn cael ei hidlo allan. Mae hyn yn cynnwys cynigion ar gyfer datblygiadau hynod agored i niwed fel tai ym Mharth 3 Llifogydd Afonydd a Môr yr FMfP a safleoedd nad ydynt ar dir a ddatblygwyd o'r blaen ym Mharthau 3 a 2 Llifogydd Afonydd a Môr yr FMfP. Gweler paragraffau 6.2.10 - 6.2.13) am ragor o wybodaeth.

4.2.6 Rhoddir ystyriaeth i'r TAN 15 (Rhagfyr 2021) sydd ar ddod ac a gyhoeddir ym mis Mehefin 2023 ac Asesiadau Strategol o Ganlyniadau Llifogydd Rhanbarthol Canolbarth Cymru (2022).

Asesiad o Hyfywedd

4.2.7 Bydd yn rhaid i gynigion ar gyfer datblygu adeiledig (tai, cyflogaeth) gynnwys Asesiad o Hyfywedd. Os nad oes gan y safle asesiad o hyfywedd mae'n annhebygol y caiff fynd ymlaen i'r cam nesaf o asesu.

4.2.8 Nid oes angen asesiad o hyfywedd ar gynigion ar gyfer diogelu safleoedd (e.e. seilwaith gwyrdd). (mae'r safleoedd hyn cael eu trin ar wahân gweler paragraff 4.1.1).

4.2.9 Bwriad y Cyngor yw bod y Model Hyfywedd Datblygu a ddatblygwyd yn rhanbarthol yn cael ei ddefnyddio gan hyrwyddwyr safleoedd i asesu hyfywedd unrhyw Safleoedd Ymgeisiol sydd i'w cyflwyno. Bydd y model ar gael i hyrwyddwyr safleoedd ar gais i gynnal 'Asesiad o Hyfywedd Cychwynnol'. Bydd canllawiau pellach yn cael eu darparu yn y cam galw am safleoedd.

4.2.10 Dylai cynigwyr safleoedd nodi y bydd angen 'Asesiad o Hyfywedd manylach' ar y cam asesiad manwl o safleoedd. Bydd angen cyflwyno gwybodaeth a thystiolaeth ychwanegol er mwyn cefnogi'r cynnig Safleoedd Ymgeisiol. Codir tâl am fynediad at y model hyfywedd yn yr ail gam hwn, a fydd hefyd yn cwmpasu adolygiad manwl o'r model gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol.

4.2.11 Nid oes angen i gynigion Safleoedd Ymgeisiol sydd i'w hariannu trwy ddulliau eraill megis Grant Tai Cymdeithasol neu Fargen Dwf Canolbarth Cymru ddarparu asesiad o hyfywedd ond bydd angen iddynt ddangos bod y cyllid ar waith er mwyn gallu datblygu o fewn cyfnod y CDLl Newydd (2022-2037).

Dalgylchoedd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Afonol Sensitif i Ffosffad

4.2.12 Bydd cynigion sydd wedi'u lleoli yn nalgylchoedd ardaloedd cadwraeth arbennig afonol sensitif i ffosffad yn cael eu hidlo allan oni bai eu bod yn gallu dangos y gallant gyflawni niwtraliaeth ffosffad neu welliant, yn unol â'r canllawiau diweddaraf gan CNC.

4.2.13 Er mwyn i gynigion tai allu dangos y gallant gyflawni, bydd yn golygu rhyddhau dŵr gwastraff i Waith Trin Carthion gyda phroses o dynnu ffosffad (gan gynnwys trwydded gyfoes) ar waith. Dim ond pan fo proses tynnu ffosffad ar waith neu pan fo gwelliannau wedi'u cynllunio mewn Rhaglen Rheoli Asedau (AMP) y derbynnir cynigion. Bydd angen i gynigion mewn ardaloedd sydd â gwelliannau i brosesau tynnu ffosffad wedi'u cynllunio ar eu cyfer sicrhau bod amseriad gwelliannau o'r fath yn caniatau digon o amser i gyflawni'r datblygiad o fewn cyfnod y CDLl Newydd (2022-2037).

4.2.14 Bydd angen i gynigion nad ydynt yn rhai tai ddangos niwtraliaeth ffosffad neu welliant gan gyfeirio at gyngor diweddaraf CNC, a byddant yn cael eu hystyried fesul achos.

Materion Cyflawnadwyedd

4.2.15 Rhoddir ystyriaeth i gyflawnadwyedd safleoedd drwy naill ai bresenoldeb cyfyngiadau ffisegol mawr ar y safleoedd, hanes cynllunio (e.e. gwrthodiadau), cyfyngiadau cyfreithiol neu gyfamodau sy'n rhwystro'r safle rhag cael ei gyflwyno yng nghyfnod y CDLl Newydd.

Ystyriaethau Polisi

4.2.16 Gellir hidlo Safleoedd Ymgeisiol allan os gellir darparu ar gyfer natur y cynnig o fewn polisïau Cenedlaethol neu bolisïau CDLl Newydd yn hytrach nag fel safle a ddyrannwyd.

Os ydych chi’n cael trafferth defnyddio’r system, rhowch gynnig ar ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig