Drafft Ymgynghorol Methodoleg Asesu Safleoedd Ymgeisiol
8. Archwilio – Cam Mabwysiadu
8.0.1 Yn dilyn ymgynghoriad y Cynllun Adnau, bydd y CDLl Newydd a'i dystiolaeth ategol yn cael ei gyflwyno ar gyfer Archwiliad cyhoeddus. Yna bydd Arolygydd(ion) yn cael eu penodi ar ran Gweinidogion Cymru i gynnal Archwiliad annibynnol o'r cynllun. Bydd yr Archwiliad yn asesu a yw gofynion paratoi'r cynllun wedi'u bodloni ac a yw'r CDLl yn bodloni'r tri phrawf 'cadernid' a nodir ym Mhennod 6 y Llawlyfr Cynlluniau Datblygu (Rhifyn 3).
8.0.2 Bydd yr Arolygydd(ion) yn ceisio sicrhau bod y CDLl Newydd yn 'gadarn' a bod pob pryder wedi cael ei ystyried. Bydd hyn yn cynnwys ystyried a yw'r safleoedd a ddyrannwyd yn y cynllun yn gynaliadwy, yn gyflawnadwy, ac yn hyfyw.
8.0.3 Bydd yr Arolygydd hefyd yn ystyried y sylwadau sy'n cael eu cyflwyno ar y Cynllun Adnau sy'n ymwneud â dyraniadau'r safle. Bydd hyn yn cynnwys sylwadau ar gyfer diwygio ffiniau dyraniad, i gynnig dileu safle, neu ar gyfer ychwanegu safleoedd newydd. Pan fo Arolygydd(ion) yn penderfynu y dylid dileu safle o'r CDLl Newydd yna efallai y bydd 'Safle Wrth Gefn' yn cael ei ddewis yn ei le.
8.0.4 Ar ddiwedd gwrandawiadau'r Archwiliad, bydd yr Arolygydd(ion) yn paratoi adroddiad ar 'gadernid' y cynllun a gyflwynwyd. Bydd yr adroddiad yn cynnwys unrhyw newidiadau i'r CDLl a'r rheswm dros y newidiadau hyn. Bydd canfyddiadau Adroddiad yr Arolygwyr yn rhwymo'r Awdurdod Cynllunio Lleol i wneud y newidiadau a argymhellir. Yna rhaid i'r Awdurdod Cynllunio Lleol benderfynu a ddylid derbyn y newidiadau a mabwysiadu'r CDLl o fewn wyth wythnos ar ôl derbyn Adroddiad yr Arolygwyr.
8.0.5 Dim ond ar ôl i'r CDLl gael ei fabwysiadu y bydd modd defnyddio'r CDLl Newydd wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio. Dyma pryd y bydd Safleoedd Ymgeisiol a gyflwynwyd ac sydd wedi llwyddo i symud ymlaen drwy'r broses yn cael eu hystyried yn 'safleoedd a ddyrannwyd'.