Drafft Ymgynghorol Methodoleg Asesu Safleoedd Ymgeisiol
Atodiad 1 – Fframwaith Arfaethedig ar gyfer Gwerthuso Safleoedd ACI
Rhagarweiniad
Mae'r fframwaith arfaethedig i werthuso safleoedd Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ACI) isod yn rhan o asesiad safle ehangach sy'n cynnwys proses hidlo fydd yn eithrio'r safleoedd hynny sy'n methu bodloni'r meini prawf sylfaenol megis risg o lifogydd, problemau gyda phriffyrdd neu lle mae gwrthdaro amlwg o safbwynt asedau bioamrywiaeth. Mae Llawlyfr Cynlluniau Datblygu (Rhifyn 3) Mawrth 2020 yn awgrymu y dylai'r broses fel cyfanwaith alluogi ateb y cwestiynau canlynol:
- Ydy'r safle mewn lleoliad cynaliadwy yn unol â'r drefn chwilio safle a amlinellir ym Mholisi Cynllunio Cymru 11 (PCC)?
- Ar y cyfan, ydy'r safle'n rhydd rhag cyfyngiadau corfforol, megis perchnogaeth tir, seilwaith, mynediad, cyflwr y ddaear, bioamrywiaeth, tirwedd, treftadaeth, problemau o ran risg o lifogydd a llygredd?
- A fydd yn bosibl cyflawni ar y safle (hynny yw, a yw'n bosibl datblygu'r safle o fewn cyfnod y cynllun, neu fel arall gwneud cynnydd sylweddol)?
- Ydy datblygiad y safle'n hyfyw o safbwynt ariannol? Sef, ydy'r safle'n ddeniadol i'r farchnad (boed yn breifat a/neu sector cyhoeddus), a fydd y safle'n gallu cyflawni'r lefelau cyffredinol o ran tai fforddiadwy, gofynion polisi eraill / Adran 106 a chostau seilwaith a bennir gan yr ACLl ac ar yr un pryd, darparu elw digonol i'r datblygwr / perchennog y tir?
Byddai safleoedd sy'n bodloni'r meini prawf didoli cychwynnol yn destun asesiad yn erbyn fframwaith gwerthuso safleoedd ACI. Bydd yr wybodaeth a gesglir yn ystod y broses o asesu safleoedd ymgeisiol, ynghyd â ffynonellau tystiolaeth eraill, yn hysbysu'n uniongyrchol yr ACI ar y safleoedd hynny. Mae'n debyg y caiff safleoedd sy'n perfformio'n isel yn erbyn y fframwaith ACI eu heithrio rhag cael eu hystyried ymhellach.
Defnyddir arfau SGDd i gynnal gwerthusiad o opsiynau safleoedd yn dibynnu ar y nodweddion a'r mesuriadau sydd eu hangen, trwy:
1. Fesur y pellter mewn llinell syth, o nodwedd i opsiwn safle ac i ba raddau mae'n gorgyffwrdd ag unrhyw nodweddion o fewn opsiwn safle, trwy ddefnyddio mesuriadau a gymerir o ffin agosaf yr opsiwn safle a'r nodwedd dan sylw.
Neu
2. Pellterau o safle at ffyrdd a llwybrau troed, trwy fesur o ffin y safle lle bydd o fewn 20 metr i'r rhwydwaith ffyrdd/llwybrau troed ac felly ystyrir fod mynediad yn bodoli.
Mae tabl A0 yn nodi'r system sgorio fydd yn cael ei ddefnyddio ar y cyd â meini prawf gwerthuso sy'n benodol i'r gwrthrych, fel yr amlinellir yn Nhablau A1 - A15 isod.
Tabl A0 System Sgorio wrth Asesu Safle ACI
Symbol |
Sgôr |
Disgrifiad |
Cam gweithredu |
++ |
Effaith gadarnhaol arwyddocaol |
Mae'r cynnig yn gwneud cyfraniad arwyddocaol at wireddu'r amcan. |
Dd/B |
+ |
Mân effaith gadarnhaol |
Mae'r cynnig yn cyfrannu at wireddu'r amcan, ond nid i raddau arwyddocaol. |
Ystyried unrhyw fesurau cyfoethogi pellach. |
0 |
Niwtral/dim effaith |
Nid yw'r cynnig yn cael unrhyw effaith ar wireddu'r amcan. |
Ystyried a fyddai ymyrraeth yn gallu arwain at effaith gadarnhaol. |
- |
Mân effaith negyddol |
Mae'r cynnig yn tynnu oddi ar wireddu'r amcan, ond nid i raddau arwyddocaol. |
Ystyried mesurau lliniaru priodol a chyfleoedd cyfoethogi. |
-- |
Effaith negyddol arwyddocaol |
Mae'r cynnig yn tynnu oddi ar wireddu'r amcan i raddau arwyddocaol. |
Asesu dichonolrwydd (o safbwynt ymarferoldeb a chost) mesurau lliniaru i leihau difrifoldeb yr effaith Os nad yw mesurau lliniaru digonol yn hyfyw, ail-ystyried y cynnig. |
? |
Effaith ansicr |
Mae gan y cynnig gysylltiad ansicr â'r amcan, neu mae'r cysylltiad yn dibynnu ar y ffordd y caiff yr agwedd ei rheoli. Yn ogystal, hwyrach nad oes digon o wybodaeth ar gael i alluogi cyflawni gwerthusiad. |
Cynnig awgrymiadau o safbwynt cyflawni. Mae angen gwybodaeth bellach. |
Fframwaith Arfaethedig ar gyfer Gwerthuso Safleoedd ACI
ACI Amcan 1 - Darparu cartrefi a seilwaith cymunedol o ansawdd da i fodloni anghenion a nodwyd
Cwestiynau Gwerthuso'r Safle
- Ydy'r cynnig ar gyfer y datblygiad arfaethedig yn cefnogi darparu tai, gan gynnwys tai fforddiadwy?
- Oes cysylltiad corfforol rhwng y lleoliad arfaethedig ac anheddiad sy'n bodoli eisoes, sy'n gallu cael ei wasanaethu gan unrhyw seilwaith angenrheidiol (e.e. trwy uwchraddio)?
- Oes gan y safle/datblygiad arfaethedig y potensial i gyflenwi cyfleusterau i'r gymuned?
Tabl A1 ACI Amcan 1 Meini Prawf Gwerthuso Safle
Sgôr |
Meini Prawf |
++ |
Mae gan y safle gapasiti (dros 5 anheddle), yn amodol ar yr hierarchaeth anheddiad) i gyflenwi cartrefi newydd, gyda chysylltiadau corfforol da ag anheddiad sy'n bodoli eisoes, a gall cyflenwi cyfleusterau i'r gymuned (yn ôl yr hierarchaeth anheddiad a meini prawf dangosol yn y troednodyn*) |
+ |
Mae gan y safle gapasiti (dros 5 anheddle), yn amodol ar yr hierarchaeth anheddiad) i gyflenwi cartrefi newydd, gyda chysylltiad da ag anheddiad sy'n bodoli eisoes (yn ôl yr hierarchaeth anheddiad a meini prawf dangosol yn y troednodyn) |
0 |
Gall y safle gyflenwi cartrefi a gwasanaethau newydd heb unrhyw rinweddau eraill |
- |
Gall y safle gyflenwi cartrefi a gwasanaethau newydd; fodd bynnag, does dim cysylltiad corfforol da ag anheddiad arall sy'n bodoli eisoes (yn ôl yr hierarchaeth anheddiad a meini prawf dangosol yn y troednodyn) |
-- |
Nid oes cysylltiad da rhwng y safle ac anheddiad sy'n bodoli eisoes, nid oes gwasanaethau i'w wasanaethu ac ni fyddai'n darparu cyfleusterau i'r gymuned (yn ôl yr hierarchaeth anheddiad a meini prawf dangosol yn y troednodyn) |
? |
Effaith ansicr |
*Gweler Troednodyn Tabl: Meini Prawf Hygyrchedd Dangosol ar gyfer y troednodyn.
ACI Amcan 2 – Creu a chefnogi economi a gweithlu cadarn, amrywiol a gwydn
Cwestiynau Gwerthuso'r Safle
- A fydd y cynnig yn cynnig cyfleusterau cyflogaeth a/neu'n cefnogi anghenion busnesau i ehangu, adleoli, arallgyfeirio ac ati?
- Ydy'r cynigion yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth a/neu'r potensial i uwchsgilio'r gweithlu lleol?
Tabl A2 ACI Amcan 2 Meini Prawf Gwerthuso'r Safle
Sgôr |
Meini Prawf |
++ |
Bydd y safle'n darparu ystod o gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant fydd o fudd i'r ardal leol, ac yn cyflenwi darpariaeth bresennol |
+ |
Bydd y safle'n cynnig ystod o gyfleoedd cyflogaeth |
0 |
Ni fydd y cynnig yn cyfrannu at, nac yn tynnu oddi ar, yr amcan |
- |
Bydd datblygu'r safle'n arwain at golli tir a ddynodir ar gyfer cyflogaeth |
-- |
Bydd datblygu'r safle'n arwain at golli tir a ddynodir ar gyfer cyflogaeth a busnesau yn yr ardal |
? |
Effaith ansicr |
ACI Amcan 3 – Lleihau tlodi ac anghydraddoldeb;trechu allgáu cymdeithasol a hyrwyddo cydlyniant cymunedol
Cwestiynau Gwerthuso'r Safle
- A fydd datblygu'r safle hwn yn cynnig cyfle penodol i feithrin cymuned fwy cynaliadwy? (e.e. a yw'n bosibl sicrhau gwelliannau i seilwaith corfforol neu gymdeithasol)
- Ydy Cyngor y Dref/y Cyngor Cymuned yn cefnogi'r cynnig?
Tabl A3 ACI Amcan 3 Meini Prawf Gwerthuso'r Safle
Sgôr |
Meini Prawf |
++ |
Mae'r datblygiad yn debygol o arwain at welliant sylweddol o ran darpariaeth o a/neu fynediad at ddarpariaeth cyflogaeth / addysg / gwasanaethau e.e. trwy gyfleusterau cymunedol newydd |
+ |
Mae gan y datblygiad botensial i wella darpariaeth o a/neu fynediad at ddarpariaeth cyflogaeth / addysg / gwasanaethau e.e. trwy gyfleusterau cymunedol newydd |
0 |
Ni fydd y cynnig yn cyfrannu at, nac yn tynnu oddi ar, yr amcan |
- |
Does dim cyfleoedd i wella darpariaeth o a/neu fynediad at ddarpariaeth cyflogaeth / addysg / gwasanaethau |
-- |
Byddai'r datblygiad yn arwain at golli cyfleusterau cymunedol |
? |
Effaith ansicr |
ACI Amcan 4 – Diogelu, hyrwyddo a chyfoethogi'r Gymraeg a diwylliant Cymreig Cwestiynau'r Gwerthusiad
- Ydy'r cynnig wedi'i leoli mewn Ardal sy'n Sensitif o Safbwynt Y Gymraeg?
- Oes gan y lleoliad a/neu faint y cynnig botensial i gael effaith niweidiol ar ddefnydd o'r Gymraeg?
- Ydy'r cynnig yn bodloni ystod o fathau gwahanol o dai a deiliadaethau i ddiwallu anghenion lleol, yn benodol darparu tai fforddiadwy a chartrefi arbenigol?
- Ydy'r cynnig yn bodloni gofynion o safbwynt anghenion gwaith lleol?
- Fydd y cynnig yn cynyddu neu'n lleihau'r cyfleoedd i bobl i ddefnyddio'r Gymraeg mewn sefyllfaoedd cymdeithasol neu yn y gweithle?
- Pa gyfleoedd sy'n deillio o'r cynnig o safbwynt datblygu sgiliau Iaith Gymraeg ac yn hyrwyddo defnydd o'r Gymraeg o fewn y gymuned?
- Ydy'r cynnig yn golygu cyfleuster neu wasanaeth newydd yn y gymuned, neu'n gwella mynediad at gyfleusterau neu wasanaethau cymunedol sy'n bodoli eisoes?
Tabl A4 ACI Amcan 4 Meini Prawf Gwerthuso'r Safle
Sgôr |
Meini Prawf |
++ |
Mae datblygu'r safle'n golygu cynnwys mesurau priodol i ddiogelu, hyrwyddo a gwella defnydd o'r Gymraeg, ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfleuster neu wasanaeth cymunedol newydd neu'n gwella mynediad at gyfleusterau neu wasanaethau cymunedol sy'n bodoli eisoes. |
+ |
Mae datblygiad o'r safle'n cynnwys mesurau priodol i ddiogelu, hyrwyddo a gwella defnydd o'r Gymraeg. |
0 |
Nid yw'r safle mewn Ardal sy'n Sensitif o Safbwynt y Gymraeg |
- |
Mae gan y safle gapasiti ar gyfer mwy na 5 anheddle a llai na 25 anheddle, neu ar gyfer mathau eraill o ddatblygiad, byddai arwynebedd llawr yr adeilad yn 1,000 metr sgwâr neu fwy, a llai na 2,000 metr sgwâr neu byddai'n cynnwys safle gydag ardal o 1 hectar neu fwy a llai na 2 hectar ac sydd o fewn Ardal sy'n Sensitif o Safbwynt y Gymraeg. |
-- |
Mae gan y safle gapasiti ar gyfer 25 anheddle neu fwy, neu ar gyfer mathau eraill o ddatblygiad, byddai gan yr adeilad arwynebedd llawr o 2,000 metr sgwar neu fwy, neu byddai'n rhan o safle o fewn ardal o 2 hectar neu fwy, ac o fewn Ardal sy'n Sensitif o Safbwynt y Gymraeg |
? |
Effaith ansicr |
ACI Amcan 5 – Gwella iechyd a llesiant pob sector o gymdeithas
Cwestiynau Gwerthuso'r Safle
- Ydy'r safle mewn lleoliad sy'n annog iechyd a llesiant, gan gynnwys mynediad at ofal iechyd, gweithgareddau corfforol a theithio llesol a rhyngweithio ac ymgysylltiad â'r gymuned?
- Gall y safle cyfrannu at ddarparu cyfleusterau sy'n hyrwyddo iechyd a llesiant?
Tabl A5 ACI Amcan 5 Meini Prawf Gwerthuso'r Safle
Sgôr |
Meini Prawf |
++ |
O fewn 1,000 metr i Feddygfa |
+ |
Heb ei ddefnyddio |
0 |
Rhwng 1,000 metr a 2,000 metr i Feddygfa |
- |
Heb ei ddefnyddio |
-- |
Dros 2,000 metr i Feddygfa |
? |
Effaith ansicr |
ACI Amcan 6 – Gwneud y defnydd gorau o dir a ddatblygwyd eisoes ac adeiladau presennol a diogelu tir amaethyddol graddfa uwch
Cwestiwn Gwerthuso'r Safle
- Fydd datblygu'r safle hwn yn osgoi colli tir amaethyddol Gorau a Mwyaf Amlbwrpas (GMA)?
Tabl A6 ACI Amcan 6 Meini Prawf Gwerthuso'r Safle
Sgôr |
Meini Prawf |
++ |
Safle tir llwyd yn gyfan gwbl yw hwn, ac o fewn neu ar ymyl anheddiad sy'n bodoli eisoes |
+ |
Safle tir llwyd rhannol yw hwn o fewn neu ar ymyl anheddiad (> 50%) ac sy'n cynnwys tir amaethyddol isel ei ansawdd (Graddfa 3b, 4, trefol) |
0 |
Safle tir glas rhannol yw hwn (> 50%) ac sy'n cynnwys tir amaethyddol isel ei ansawdd (Graddfa 3b, 4, trefol) |
- |
Safle tir glas rhannol yw hwn (> 50%) gyda thir amaethyddol uchel ei ansawdd (Graddfa 1, 2 a 3a) |
-- |
Safle tir glas yn gyfan gwbl yw hwn, sy'n cynnwys tir amaethyddol uchel ei ansawdd (Graddfa 1, 2 a 3a) |
? |
Effaith ansicr |
ACI Amcan 7 –Gwarchod, diogelu a gwella ansawdd dŵr ac adnoddau dŵr
Cwestiwn Gwerthuso'r Safle
- Oes disgwyl y gellir datblygu'r safle heb effaith niweidiol ar adnoddau dŵr neu ansawdd dŵr?
Tabl A7 ACI Amcan 7 Meini Prawf Gwerthuso'r Safle
Sgôr |
Meini Prawf |
++ |
Heb ei ddefnyddio |
+ |
Gall y cynnig gyfrannu at gyfoethogi ansawdd dŵr, e.e. trwy ymgorffori mesurau oddi ar y safle |
0 |
Ni fydd y cynnig yn cyfrannu at, nac yn tynnu oddi ar, yr amcan |
- |
Gall y cynnig gael effaith niweidiol ar ansawdd dŵr e.e. trwy'r potensial ar gyfer gollyngiadau |
-- |
Heb ei ddefnyddio |
? |
Effaith ansicr |
ACI Amcan 8 – Lleihau cymaint â phosibl neu leihau ffynonellau ac effaith llygredd aer
Cwestiwn Gwerthuso'r Safle
- Fydd y cynigion datblygu'n annog siwrneiau drwy ddull cynaliadwy (teithio llesol a/neu gludiant cyhoeddus) yn unol â'r hierarchaeth teithio cenedlaethol?
Tabl A8 ACI Amcan 8 Meini Prawf Gwerthuso'r Safle
Sgôr |
Meini Prawf |
++ |
Heb ei ddefnyddio |
+ |
Cyfleoedd i hyrwyddo teithio cynaliadwy a gwireddu'r hierarchaeth teithio cenedlaethol |
0 |
Ni fydd y cynnig yn cyfrannu at, nac yn tynnu oddi ar, yr amcan |
- |
Ni fydd datblygu'r safle yn cyfrannu tuag at wireddu'r hierarchaeth teithio cenedlaethol |
-- |
Heb ei ddefnyddio |
? |
Effaith ansicr |
ACI Amcan 9 – Lleihau'r gwastraff a gynhyrchir, annog ail-ddefnyddio ac ailgylchu, a hyrwyddo defnydd effeithlon o adnoddau mwynau
Cwestiwn Gwerthuso'r Safle
Ni fu'n bosibl adnabod meini prawf penodol o ran lefel y safle ar gyfer yr Amcan ACI yma.
Tabl A9 ACI Amcan 9 Meini Prawf Gwerthuso'r Safle
Sgôr |
Meini Prawf |
++ |
Heb ei ddefnyddio |
+ |
Heb ei ddefnyddio |
0 |
Ystyrir fod hyn yn niwtral ar draws prosiectau, oherwydd gall pob prosiect gyfrannu at yr amcan hwn i raddau. Byddai gwastraff cartrefi'n cael ei reoli'n unol â'r system sy'n bodoli eisoes ar gyfer casgliadau ochr y ffordd. |
- |
Heb ei ddefnyddio |
-- |
Heb ei ddefnyddio |
? |
Heb ei ddefnyddio |
ACI Amcan 10 – Cefnogi gwydnwch Powys o ran effaith botensial newid hinsawdd, gan gynnwys llifogydd a digwyddiadau eithriadol eraill
Cwestiwn Gwerthuso'r Safle
- Ydy'r safle'n rhydd rhag risg o lifogydd, neu a brofwyd y gellir rheoli unrhyw risg o lifogydd mewn ffordd dderbyniol?
Tabl A10 ACI Amcan 10 Meini Prawf Gwerthuso'r Safle
Sgôr |
Meini Prawf |
++ |
Byddai datblygu'r safle'n lleihau'r risg o lifogydd |
+ |
Nid yw'r safle mewn ardal lle mae risg uchel o lifogydd (parth llifogydd 2 a 3) |
0 |
Mae'r safle'n rhannol mewn ardal lle mae risg uchel o lifogydd (parth llifogydd 2 a 3) |
- |
Mae'r safle'n gorgyffwrdd ag ardal lle mae risg o lifogydd (parth llifogydd 2 a 3) |
-- |
Mae'r safle cyfan mewn parth llifogydd 2 neu 3. |
? |
Effaith ansicr |
ACI Amcan 11 - Lleihau'r cyfraniad at newid hinsawdd oherwydd allyriadau nwyon tŷ gwydr
Cwestiwn Gwerthuso'r Safle
- Ydy'r safle'n galluogi cyd-leoli defnydd masnachol a phreswyl er mwyn cynnig cyfle ar gyfer darpariaeth lleihau ynni/ynni adnewyddadwy (e.e. cynlluniau gwresogi ardal a chynhyrchu gwres)
Tabl A11 ACI Amcan 11 Meini Prawf Gwerthuso'r Safle
Sgôr |
Meini Prawf |
++ |
Byddai datblygu'r safle'n gwneud cyfraniad arwyddocaol at gynhyrchu ynni adnewyddadwy a/neu'n hyrwyddo mesurau cynaliadwyedd ehangach, e.e. trwy allforio ynni a gynhyrchir i'r grid. |
+ |
Byddai datblygu'r safle'n cyfrannu at gynhyrchu ynni adnewyddadwy a/neu fesurau cynaliadwyedd ehangach |
0 |
Ni fyddai'r cynnig yn cyfrannu at, nac yn tynnu oddi ar, yr amcan |
- |
Heb ei ddefnyddio |
-- |
Heb ei ddefnyddio |
? |
Effaith ansicr |
ACI Amcan 12 - Hyrwyddo defnydd o gludiant cynaliadwy a lleihau'r angen i deithio
Cwestiwn Gwerthuso'r Safle
- Ydy lleoliad y safle yn annog newid i ddefnyddio dulliau teithio mwy cynaliadwy (e.e. a yw'n ganolog ac yn hygyrch i wasanaethau lleol a/neu'r rhwydwaith cludiant cyhoeddus heb rwystrau corfforol o safbwynt mynediad diogel trwy gerdded neu feicio)?
Tabl A12 ACI Amcan 12 Meini Prawf Gwerthuso'r Safle
Sgôr |
Meini Prawf |
++ |
Mae gan y safle fynediad rhagorol (<800m) at gludiant cyhoeddus, cyfleusterau cymunedol a llwybr teithio llesol (yn ôl yr hierarchaeth anheddiad a meini prawf dangosol y troednodyn) |
+ |
Mae'r safle o fewn pellter cerdded (800m) i gludiant cyhoeddus, cyfleusterau cymunedol a llwybr teithio llesol (yn ôl yr hierarchaeth anheddiad a meini prawf dangosol y troednodyn) |
0 |
Ni fydd y cynnig yn cyfrannu at, nac yn tynnu oddi ar, yr amcan |
- |
Nid yw'r safle o fewn pellter cerdded at gludiant cyhoeddus, cyfleusterau cymunedol a llwybr teithio llesol (yn ôl yr hierarchaeth anheddiad a meini prawf dangosol y troednodyn) |
-- |
Mae'r safle >800m o gludiant cyhoeddus, cyfleusterau cymunedol a llwybr teithio llesol (yn ôl yr hierarchaeth anheddiad a meini prawf dangosol y troednodyn) |
? |
Effaith ansicr |
ACI Amcan 13 – Gwarchod a chyfoethogi adnoddau treftadaeth Powys, gan gynnwys asedau adeiledig ac archeolegol
Cwestiwn Gwerthuso'r Safle
- Ydy'r datblygiad yn debygol o gael effaith gadarnhaol ar ddiwylliant, hynodrwydd lleol a'r naws am le, gan gynnwys gwarchod asedau archeolegol ac asedau treftadaeth adeiledig?
Tabl A13 ACI Amcan 13 Meini Prawf Gwerthuso'r Safle
Sgôr |
Meini Prawf |
++ |
Bydd datblygu'r safle'n arwain at warchod a chyfoethogi asedau treftadaeth, e.e. trwy ddarparu defnydd buddiol ar gyfer ased sy'n bodoli |
+ |
Mae potensial i ddatblygu'r safle gyfoethogi ased hanesyddol, e.e. trwy ei leoliad |
0 |
Ni fydd y cynnig yn cyfrannu at, nac yn tynnu oddi ar, yr amcan |
- |
Mae'r safle'n cynnwys neu mae o fewn nodwedd treftadaeth o bwysigrwydd lleol / rhanbarthol (gan gynnwys Ardaloedd Cadwraeth ac asedau heb eu dynodi) |
-- |
Mae'r safle'n cynnwys ased treftadaeth o bwysigrwydd cenedlaethol (Graddfa I, II* ac II, adeiladau rhestredig graddfa I, II* ac II, a pharciau a gerddi cofrestredig neu henebion cofrestredig) |
? |
Mae'r safle o fewn 500 metr i ased treftadaeth a does dim sicrwydd ynghylch effaith yr ased treftadaeth ar y lleoliad |
ACI Amcan 14 - Gwarchod a chyfoethogi bioamrywiaeth a geoamrywiaeth a hyrwyddo gwelliannau i'r rhwydwaith seilwaith gwyrdd amlddefnydd
Cwestiynau Gwerthuso'r Safle
- Ydy'r safle'n rhydd rhag cyfyngiadau / sensitifrwydd amgylcheddol megis cynefinoedd a rhywogaethau bregus, neu'n agos at y rhain?
- Oes cyfleoedd penodol ar gyfer buddion ecolegol neu o ran bioamrywiaeth neu gwelliannau geoamrywiaeth ar y safle hwn (e.e. potensial i greu mannau gwyrdd, coridorau cynefinoedd ac ati, neu botensial i wella ansawdd dŵr, aer neu bridd?)
Tabl A14 ACI Amcan 14 Meini Prawf Gwerthuso'r Safle
Sgôr |
Meini Prawf |
++ |
Mae'r safle'n rhydd rhag cyfyngiadau bioamrywiaeth / geoamrywiaeth a bydd yn gwneud cyfraniad arwyddocaol o safbwynt cyfoethogi bioamrywiaeth / geoamrywiaeth ar y safle ac yn yr ardal gyfagos |
+ |
Mae'r safle'n rhydd rhag cyfyngiadau bioamrywiaeth / geoamrywiaeth a bydd yn cyfrannu at gyfoethogi bioamrywiaeth / geoamrywiaeth ar y safle ac yn yr ardal gyfagos |
0 |
Nid yw'r safle'n gorgyffwrdd ac nid yw o fewn 1cilometr i unrhyw safleoedd dynodedig. |
- |
Mae'r safle'n gorgyffwrdd neu gerllaw safle dynodedig rhanbarthol neu leol (RIGS, Gwarchodfa Natur Leol a SINC) a/neu gynefinoedd/rhywogaethau blaenoriaeth |
-- |
Mae'r safle'n gorgyffwrdd neu gerllaw safle dynodedig rhyngwladol (ACA, AGA, Ramsar) neu genedlaethol (SODdGA, Coetir Hynafol). |
? |
Effaith ansicr |
ACI Amcan 15 – Diogelu ansawdd ac amrywiaeth tirluniau a threfluniau'r Sir
Cwestiwn Gwerthuso'r Safle
- A yw'n bosibl cynnwys y cynigion datblygu yn y dirwedd a'r amgylchedd lleol mewn ffordd sympathetig heb niweidio cymeriad a naws yr ardal? (yn enwedig wrth ystyried safle i'w ddatblygu ar dir glas a/neu ar ymyl anheddiad lle bydd y datblygiad yn ymestyn i gefn gwlad agored).
Tabl A15 ACI Amcan 15 Meini Prawf Gwerthuso'r Safle
Sgôr |
Meini Prawf |
++ |
Mae datblygu'r safle'n diogelu ac yn cyfoethogi'r dirwedd leol / cymeriad yr anheddiad, yn unol â meini prawf LANDMAP |
+ |
Mae potensial i ddatblygu'r safle gyfoethogi'r dirwedd / cymeriad yr anheddiad yn unol â meini prawf LANDMAP |
0 |
Ni fydd y cynnig yn cyfrannu at, nac yn tynnu oddi ar, yr amcan |
- |
Byddai datblygu'r safle'n peryglu'r dirwedd/cymeriad yr anheddiad yn unol â meini prawf LANDMAP |
-- |
Byddai datblygu'r safle'n effeithio ar Dirwedd Warchodedig |
? |
Effaith ansicr |
Troednodyn: Meini Prawf Hygyrchedd Dangosol
Cyfleusterau |
Safonau Hygyrchedd Rhesymol (Uchafswm) |
Ysgol Gynradd |
600 metr |
Ysgol Uwchradd |
2000 metr |
Gwasanaethau Iechyd |
1000 metr |
Cludiant Cyhoeddus |
800 metr |
Meysydd Chwaraeon / Caeau Chwarae / Canolfannau Hamdden |
1000 metr |
Siopau - siopau sy'n gwerthu nwyddau sylfaenol i fodloni anghenion dyddiol (tref, canolfannau lleol / bro) |
1000 metr - 2000 metr |
Gwaith - y pellter i safleoedd / dyraniadau gwaith lleol presennol |
Hyd at 5000 metr |
Addasiad o Sustainable Settlements: A Guide for Planners, Designers and Developers (Barton, Davis and Guise, 1995) a Shaping Neighbourhoods - for local health and global sustainability (2010)