Drafft Ymgynghorol Methodoleg Asesu Safleoedd Ymgeisiol
Methodoleg Asesu Safleoedd Ymgeisiol Drafft Ymgynghori Medi 2022
1. Cyflwyniad
1.1.1 Ar ôl cyhoeddi'r Cytundeb Cyflawni ym mis Gorffennaf 2022, yr Alwad am Safleoedd Ymgeisiol yw'r cam ffurfiol cyntaf ar gyfer paratoi Cynllun Datblygu Lleol Newydd Powys (CDLl Newydd) 2022-2037. Mae'r broses yn galluogi pawb sydd â buddiant i gyflwyno safleoedd posibl i'w cynnwys yn y cynllun i Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) Powys. Yna bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn asesu pob safle a phenderfynu a ydyn nhw'n addas, neu beidio, i'w cynnwys yn y CDLl Newydd.
1.1.2 Diben y ddogfen hon yw nodi'r broses a'r fethodoleg sydd i'w defnyddio ar gyfer asesu addasrwydd safleoedd datblygu posibl (Safleoedd Ymgeisiol) i'w cynnwys o fewn CDLl Newydd Powys. Mae'r fethodoleg yn adlewyrchu darpariaethau deddfwriaethol o fewn y Polisi Cynllunio Cenedlaethol (Polisi Cynllunio Cymru: Rhifyn 11 (2021) a Cymru'r Dyfodol: y Cynllun Cenedlaethol 2040 (2021)) ynghyd â'r gofynion a nodir yng nghanllaw Llywodraeth Cymru ar gyfer paratoi CDLlau fel y nodir yn y Llawlyfr Cynlluniau Datblygu (Argraffiad 3 Mawrth 2020).
1.1.3 Fel y nodir yn y Llawlyfr Cynlluniau Datblygu (Argraffiad 3) mae cyflawnadwyedd safleoedd yn ystyriaeth bwysig wrth ddewis safleoedd addas a bydd yn hanfodol wrth nodi safleoedd i'w cynnwys o fewn y CDLl Newydd. Felly, bydd y broses asesu'n cael ei defnyddio ar gyfer yr holl safleoedd a gyflwynir i'w hystyried yng ngham Galwad am Safleoedd Ymgeisiol, gan gynnwys Safleoedd Ymgeisiol a gyflwynir ar safleoedd a ddyrannwyd sydd heb eu datblygu i CDLl Mabwysiedig Powys (2011 – 2026), ac unrhyw safleoedd eraill a ystyrir yn briodol trwy'r sail dystiolaeth. Bydd gwerthuso safleoedd yn tynnu ar ystod o wybodaeth a gedwir gan y Cyngor, tystiolaeth ategol gan gynigwyr safleoedd a phan fo'n berthnasol, bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal gyda chyrff ymgynghori penodol i alluogi'r gwaith o ystyried safleoedd yn fanwl (gweler paragraff 5.3).
1.1.4 Yr Alwad am Safleoedd Ymgeisiol yw'r amser priodol i gynigwyr safle gyflwyno safleoedd ar gyfer eu cynnwys o bosibl yn y CDLl Newydd. Bydd gan safleoedd a gynigir ar ôl y cam Strategaeth a Ffefrir lai o siawns o gael eu hystyried yn addas i'w cynnwys yn y cynllun.
1.1.5 Hefyd, dylai cynigwyr safleoedd fod yn ymwybodol y gall peidio â chyflwyno gwybodaeth digon manwl fel y gofynnwyd amdani gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol olygu na chaiff y safle ei ystyried ymhellach.
1.1.6 Yn cyd-fynd â'r ddogfen hon bydd 'Nodyn Cyfarwyddyd' a fydd yn cynorthwyo cynigwyr safleoedd i gwblhau'r 'Ffurflen Safleoedd Ymgeisiol'. Bydd y Nodyn Cyfarwyddyd yn esbonio'r derminoleg yn y Fethodoleg Asesu Safleoedd Ymgeisiol yn fanylach a bydd yn cyfeirio cynigwyr safleoedd at le i ddod o hyd i wybodaeth ychwanegol (yn enwedig o ran cyfyngiadau).
1.1.7 Ar 17 Rhagfyr 2020, anfonodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) lythyr i Bowys, gan dynnu sylw bod ardaloedd afonol dynodedig o Ardaloedd Cadwraeth Arbenig (ACA) yn (ACA) Afon Gwy yn methu â chyrraedd terfynau ffosfforws oedd wedi'u tynhau yn 2016 gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC). Dilynwyd hyn gan lythyr arall ar 20 Ionawr 2021 yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad ar statws cyflwr y SACS afonol eraill yng Nghymru gan gynnwys yr Wysg, Dyfrdwy a Thywi, sef y dalgylchoedd sy'n effeithio ar ardal CDLl Powys. Cyhoeddwyd Cyngor Cynllunio Dros Dro gan Gyngor Naturiol Cymru ym mis Rhagfyr 2020 a oedd yn gofyn am ddatblygiad newydd o fewn dalgylchoedd SAC i sicrhau niwtraliaeth ffosffad neu wellhad. Mae gan hyn y potensial i gyfyngu ar ddatblygiadau i'r Safleoedd Ymgeisiol hynny yn unig sy'n gallu cysylltu â gwaith trin dŵr gwastraff sydd ag offer stripio ffosffad wedi'i osod. Mae paragraffau 4.2.12 – 4.2.14 yn darparu gwybodaeth ar sut y bydd y cyfyngiad hwn yn cael ei ystyried yn y broses asesu Safleoedd Ymgeisiol.
1.1.8 Bydd Safleoedd Ymgeisiol yn chwarae rhan bwysig wrth lunio a gweithredu'r CDLl Newydd yn llwyddiannus, dyma'r brif ffordd o adnabod safleoedd i ddiwallu anghenion y Sir yn y dyfodol. Fodd bynnag, dylid cydnabod y bydd safleoedd eraill a ganiateir trwy bolisïau Cenedlaethol a CDLl hefyd yn cyfrannu at gyflawni'r CDLl Newydd.