Drafft Ymgynghorol Methodoleg Asesu Safleoedd Ymgeisiol
6. Asesiad manwl o'r Safleoedd / Cam Asesu ISA
6.0.1 Cynhelir asesiad manylach o'r safle ar gyfer yr holl Safleoedd Ymgeisiol sydd wedi mynd drwy'r cam hidlo safleoedd cychwynnol, bydd hyn yn cynnwys eu hasesu o'u cymharu ag amcanion ISA yr Awdurdod Cynllunio Lleol (Gweler Atodiad 1). Mae'n ofynnol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ddatblygu methodoleg asesu gynhwysfawr a systematig i asesu Safleoedd Ymgeisiol yn llawn er mwyn penderfynu a ydynt yn gynaliadwy, yn hyfyw ac y gellir eu cyflawni. Bydd hyn yn cael ei wneud yn dilyn yr Ymgynghoriad Strategol ac yn ystyried sylwadau ymgyngoreion ac unrhyw sylwadau a geir.
6.0.2 I ddangos bod y CDLl Newydd yn gadarn wrth gael ei archwilio, bydd yn rhaid i'r Awdurdod Cynllunio Lleol gyfiawnhau'r meini prawf a ddefnyddir i asesu cynigion Safleoedd Ymgeisiol ac asesiadau o safleoedd cysylltiedig. Mae'r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu (Argraffiad 3) yn ei gwneud yn ofynnol fod y meini prawf a ddefnyddir yn unol ag egwyddorion datblygu a gwneud lleoedd cynaliadwy fel y nodir ym Mholisi Cynllunio Cymru (Rhifyn 11).
6.0.3 Bydd yr ISA hefyd yn darparu dogfennau a chofnod o asesiadau o safleoedd gan gynnwys cyfiawnhad rhesymedig dros statws safle (wedi'i wrthod, dewis arall rhesymol neu a ffefrir). Bydd y Safleoedd Ymgeisiol yn cael eu gwrthod os nad oes ganddynt botensial i fod naill ai'n safle arfaethedig, neu'n ddewis arall rhesymol.
6.1 Asesiad Manwl o'r Safleoedd
6.1.1 Bydd y cam asesiad manwl o safleoedd yn y broses Safleoedd Ymgeisiol yn dechrau ar ôl yr ymgynghoriad ar Strategaeth a Ffefrir y CDLl Newydd ym mis Mai/Mehefin 2023 a bydd yn ystyried unrhyw sylwadau a ddaw i law. Ni fydd unrhyw safleoedd a gyflwynwyd ac a gafodd eu gwrthod fel rhan o'r hidlo safleoedd cychwynnol yn destun asesiad manwl o'r safleoedd ac ni fyddant yn cael eu hystyried i'w cynnwys yn y CDLl Newydd.
6.1.2 Mae'r meini prawf asesu yn adlewyrchu'r wybodaeth y gofynnir amdani ar ffurflen Safleoedd Ymgeisiol, a thrwy hynny yn galluogi cynigwyr safleoedd i nodi a effeithir ar safle gan un neu ragor o gyfyngiadau/dynodiadau. Mae'n ofynnol i gynigwyr safleoedd ddarparu gwybodaeth ategol sy'n egluro sut y gall y safleoedd ymdrin ag unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r safle. Gall yr ACLl ofyn am wybodaeth ychwanegol oddi wrth gynigwyr safleoedd pan fo angen.
6.1.3 Bydd yr wybodaeth a ddarperir gan bob cynigydd safleoedd yn cael ei dilysu gan y tîm polisi cynllunio, mewn ymgynghoriad â meysydd gwasanaeth eraill y Cyngor a phan fo angen, â sefydliadau allanol (megis: Priffyrdd Llywodraeth Cymru, CNC, Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys (YACP), darparwyr seilwaith ac ati).
6.1.4 Mae meini prawf yr asesiad manwl o safleoedd yn cael eu rhannu i'r categorïau canlynol:
- Lleoliad a hygyrchedd
- Cyd-destun a chymeriad safle
- Hygyrchedd a chapasiti priffyrdd
- Effaith Amgylcheddol a thirwedd
- Perygl lifogydd
- Ardaloedd/Clustogfeydd Diogelu Mwynau
- Capasiti seilwaith
- Cyflawni a hyfywedd
- Newid hinsawdd, gwneud lleoedd a gwella bioamrywiaeth
6.1.5 Bydd system sgorio 'goleuadau traffig' yn cael ei defnyddio i nodi pa safleoedd sy'n fwy dymunol o'u cymharu â meini prawf asesiad manwl o safleoedd a'r safleoedd hynny sy'n llai dymunol, gweler Tabl 1.
Tabl 1. System Sgorio Asesiad Manwl o Safleoedd.
System Sgorio |
Disgrifiad |
Gwyrdd |
Cadarnhaol |
Oren |
Angen mwy o ystyriaeth |
Coch |
Negyddol |
Llwyd |
Ddim yn berthnasol neu ddim digon o wybodaeth (ond nid yw'n gweithredu i eithrio'r Safle Ymgeisiol o'r broses). |
6.2 Meini Prawf Asesiad Manwl o Safleoedd
Lleoliad a Hygyrchedd
6.2.1 Yn dilyn yr ymgynghoriad ar Strategaeth a Ffefrir y CDLl Newydd a gan ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd, bydd y CDLl Newydd yn cynnwys Strategaeth Dwf a Gofodol a Hierarchaeth Aneddiadau.
6.2.2 Yn gyffredinol, mae aneddiadau trefn uwch yn yr Hierarchaeth Aneddiadau yn darparu'r lleoliadau mwyaf cynaliadwy ar gyfer twf, oherwydd eu bod yn cynnig gwell mynediad at wasanaethau a chyfleusterau. Mae aneddiadau yn yr haenau isaf ac yn y cefn gwlad agored yn debygol o fod â llai o fynediad at wasanaethau a chyfleusterau, bydd y Strategaeth Ofodol a'r Hierarchaeth Aneddiadau yn rhoi arweiniad ynghylch lle y dylid dosbarthu twf datblygu gan flaenoriaethu twf yn y lleoliadau mwyaf cynaliadwy (aneddiadau sy'n uwch i fyny'r hierarchaeth aneddiadau) yn y lle cyntaf.
6.2.3 Mae Polisi Cynllunio Cymru (Rhifyn 11) yn datgan, mewn ardaloedd gwledig, "dylai awdurdodau lleol ddynodi canolfannau gwasanaethau lleol, neu glystyrau o aneddiadau llai lle gellir dangos cysylltiad swyddogaethol cynaliadwy a'u nodi fel y lleoliadau a ffefrir ar gyfer y rhan fwyaf o ddatblygiadau newydd gan gynnwys darpariaeth tai a chyflogaeth". Bydd y Strategaeth a Ffefrir yn ystyried y gofyniad hwn. Yn y cyfamser, rhoddir pwysigrwydd i aneddiadau ymylol llai ar lwybrau trafnidiaeth gyhoeddus lle mae cyswllt swyddogaethol clir ag anheddiad mwy sy'n gweithredu fel canolfan wasanaeth.
Tabl 2. Maen Prawf 1: Strategaeth a Ffefrir a Hierarchaeth Aneddiadau - Tai
System Sgorio |
Disgrifiad |
Gwyrdd |
Mae'r safle o fewn, neu y byddai'n ffurfio estyniad rhesymegol i anheddiad sy'n cael ei nodi fel un sy'n addas ar gyfer marchnad agored fawr* a safleoedd tai fforddiadwy yn Hierarchaeth Aneddiadau'r CDLl Newydd. |
Oren |
Mae'r safle o fewn neu'n ffinio ag anheddiad nas nodwyd ar gyfer safleoedd tai marchnad agored mawr ond sy'n ffafrio safleoedd eithriedig tai fforddiadwy. |
Coch |
Lleolir y safle yn y cefn gwlad agored, neu anheddiad haen is, nas nodwyd ar gyfer datblygiadau tai mawr. |
* Diffinnir safle mawr o fewn y CDLl Newydd fel pum annedd neu fwy.
Tabl 3. Maen Prawf 2: Strategaeth a Ffefrir a Hierarchaeth Aneddiadau – Cyflogaeth / Manwerthu
System Sgorio |
Disgrifiad |
Gwyrdd |
Mae'r safle o fewn anheddiad a nodwyd ar gyfer cyflogaeth neu dwf manwerthu yn Hierarchaeth Aneddiadau CDLl Newydd. |
Oren |
Mae'r safle o fewn neu'n ffinio â safle cyflogaeth / manwerthu presennol neu wedi ei nodi ym Margen Dwf Canolbarth Cymru. |
Coch |
Mae'r safle wedi ei leoli yn y cefn gwlad agored, neu anheddiad haen is nas nodwyd ar gyfer cyflogaeth neu dwf manwerthu yn y CDLl Newydd / Bargen Dwf ac mae'n groes i bolisi Cenedlaethol. |
Tabl 4. Maen Prawf 3: Perthynas â Gwasanaethau Cymunedol / Cyfleusterau sydd â'r Capasiti i Gefnogi Twf.
System Sgorio |
Disgrifiad |
Gwyrdd |
Mae'r safle ymgeisiol o fewn 800 metr* o ganol anheddiad sydd ag ystod o wasanaethau a chyfleusterau cymunedol+ (sydd â'r gallu i gefnogi twf). |
Oren |
Mae'r safle ymgeisiol o fewn, ond yn bellach na 800 metr, o ganol anheddiad sydd ag amrywiaeth o wasanaethau a chyfleusterau cymunedol (sydd â'r gallu i gefnogi twf). Neu Mae'r safle o fewn anheddiad llai gyda nifer cyfyngedig o gyfleusterau, ond ceir anheddiad mwy sy'n cynnal ystod o wasanaethau a chyfleusterau cymunedol (sydd â'r gallu i gefnogi twf) ac sydd â gwasanaethau bws / trên aml (sy'n cysylltu'r anheddiad mwy hyd at bellter o fewn 800 metr o'r safle ymgeisiol). |
Coch |
Mae un gwasanaeth / cyfleuster cymunedol neu ddim un o fewn 800 metr i'r safle ymgeisiol. Nid oes gwasanaeth bws / trên aml i anheddiad mwy sy'n cynnal amrywiaeth o gyfleusterau o'r fath (sy'n cysylltu'r anheddiad mwy hyd at bellter o fewn 800 metr i'r safle ymgeisiol). |
* Mae 800 metr yn cyfateb i ddeng munud o gerdded.
+ Mae gwasanaethau a chyfleusterau cymunedol yn cynnwys ond heb eu cyfyngu i: ysgolion, meddygfeydd, deintyddion, archfarchnadoedd, siopau lleol, banciau / cymdeithasau adeiladu, fferyllfeydd, gorsafoedd petrol, neuaddau pentref, canolfannau cymunedol, eglwysi, tafarndai, canolfannau hamdden ac ati...
Cymeriad a Chyd-destun y Safleoedd
6.2.4 Mae'r adran hon yn ystyried cymeriad a chyd-destun y safle sy'n cynnwys ystyried a yw'r Safle Ymgeisiol ar dir sydd wedi'i ddatblygu eisoes neu ar dir glas (fel y'i diffinnir ym Mholisi Cynllunio Cymru (Rhifyn 11). Mae Polisi Cynllunio Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i ACLlau ddilyn y Prawf Cymalog ac ystyried safleoedd tir a/neu safleoedd sydd wedi'u tanddefnyddio o'r blaen ac wedi'u lleoli o fewn aneddiadau presennol yn y lle cyntaf, gyda safleoedd ar gyrion aneddiadau yn cael eu hystyried wedi hynny. Os nad oes tir sydd wedi'i ddatblygu o'r blaen ar gael, yna dim ond bryd hynny dylid ystyried safleoedd tir glas addas a chynaliadwy o fewn neu ar ymyl aneddiadau.
6.2.5 Mae cymeriad a chyd-destun hefyd yn ystyried ffactorau megis a all nodweddion topograffig neu ddatblygiad ffisegol ar y safle rwystro datblygiad, pa un a allai defnyddiau tir cyfagos gael effaith andwyol bosibl ar y saflegyda'r posibilrwydd o halogi tir neu beidio.
Tabl 5. Maen Prawf 4: Tir a ddatblygwyd o'r blaen / Tir Glas*.
System Sgorio |
Disgrifiad |
Gwyrdd |
Tir a ddatblygwyd o'r blaen o fewn neu ar ymyl aneddiadau |
Oren |
Tir glas o fewn neu ar ymyl aneddiadau |
Coch |
Tir glas yn y Cefn Gwlad Agored |
* Noder: Bydd y Prawf Cymalog o ran blaenoriaethu'r defnydd o dir a ddatblygwyd o'r blaen yn hytrach na defnyddio safleoedd tir glas yn cael ei ddilyn.
Tabl 6. Maen Prawf 5: Nodweddion Topograffig* neu Ddatblygu Ffisegol+ ar y Safle a Allai Rwystro Datblygiad.
System Sgorio |
Disgrifiad |
Gwyrdd |
Nid oes nodweddion topograffig (megis graddiannau serth) na datblygiad ffisegol (megis adeiledd, gwaith pibau) ar y safle a allai rwystro datblygiad. |
Oren |
Mae nodweddion topograffig neu ddatblygiadau ffisegol ar y safle a allai rwystro datblygiad, serch hynny gallai mesurau lliniaru fod yn bosibl, mae angen mwy o ymchwili a gwybodaeth. |
Coch |
Mae nodweddion topograffig neu ddatblygiadau ffisegol ar y safle a fydd yn cyfyngu ar gyflawnadwyedd a hyfywedd datblygiad. |
* Mae nodweddion topograffig yn cynnwys graddiannau serth a thir ansefydlog (bydd yn ofynnol i gyflwyniadau mewn ardaloedd o etifeddiaeth mwyngloddio glo ystyried gwybodaeth mwyngloddio glo, efallai bydd angen mesurau lliniaru (darperir rhagor o wybodaeth mewn nodyn cyfarwyddyd).
+ Mae datblygiad ffisegol yn cynnwys adeileddau presennol, nwy o'r prif gyflenwad neu linellau pŵer neu linellau pŵer uwchben.
Tabl 7. Maen Prawf 6: Effaith Andwyol ar Amwynder (Sŵn, Arogl, Llygredd Golau neu Lwch) sy'n Deillio o Ddefnyddiau Tir Cyfagos a Allai Fod yn Wrthdrawiadol*
System Sgorio |
Disgrifiad |
Gwyrdd |
Dim effaith andwyol ar amwynder, nid oes unrhyw ddefnydd tir cyfagos sy'n wrthdrawiadol. |
Oren |
Effaith andwyol bosibl ar amwynder yn deillio o ddefnyddiau tir cyfagos a allai fod yn wrthdrawiadol, fodd bynnag efallai bod mesurau lliniaru'n bosibl, mae angen mwy o ymchwil a gwybodaeth. |
Coch |
Byddai, fe fyddai effaith andwyol ar amwynder yn deillio o ddefnyddiau tir gwrthdrawiadol sy'n annhebygol o gael ei liniaru'n foddhaol. |
* Mae'r egwyddor cyfrwng y newid (a nodir ym Mholisi Cynllunio Cymru Pennod 6) yn dweud mai'r busnes neu'r person sy'n gyfrifol am gyflwyno newid sy'n gyfrifol am reoli'r newid hwnnw. Mae hynny'n golygu y byddai'n rhaid i gynigydd safle sicrhau y ceir hyd i atebion i fynd i'r afael ag ansawdd aer neu sŵn o seilwaith, busnesau neu neuaddau cyfagos a'u rhoi ar waith i sicrhau bod datblygiad yn dderbyniol.
Tabl 8. Maen Prawf 7: Tir Halogedig
System Sgorio |
Disgrifiad |
Gwyrdd |
Nid yw'r safle wedi'i halogi. |
Oren |
Mae rhan neu'r safle i gyd wedi ei halogi ond mae tystiolaeth wedi ei roi i ddangos y byddai gwaith adfer yn bosibl ac yn hyfyw. |
Coch |
Mae halogiad yn gyfyngiad sylweddol ar y safle, nid oes digon o dystiolaeth wedi'i darparu, neu nid yw tystiolaeth wedi gallu dangos y gellir cyflawni gwaith adfer boddhaol a/neu y byddai'n hyfyw. |
Hygyrchedd a Chapasiti Priffyrdd
6.2.6 Mae polisi cenedlaethol yn tynnu sylw at bwysigrwydd gwneud lleoedd cynaliadwy gan sicrhau bod datblygiadau newydd â mynediad at ystod o wasanaethau / cyfleusterau drwy amrywiaeth o ffyrdd yn enwedig drwy gerdded a beicio ("Teithio Llesol"). O ganlyniad, mae'r pellter cymharol i'r cyfleusterau presennol, trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys lefel ac amlder trafnidiaeth gyhoeddus yn ffactorau pwysig wrth benderfynu addasrwydd y safle.
6.2.7 Fodd bynnag, mae polisi cenedlaethol hefyd yn cydnabod bod y cyfleoedd ar gyfer lleihau'r defnydd o geir a chynyddu'r defnydd o gerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus yn fwy cyfyngedig nag mewn ardaloedd trefol. Mae paragraff 3.39 o Bolisi Cynllunio Cymru (Rhifyn 11) yn dweud "mewn ardaloedd gwledig dylid lleoli'r mwyafrif o ddatblygiadau newydd yn yr aneddiadau y gellir eu cyrraedd yn gymharol dda drwy ddulliau di-gar o'u cymharu â'r ardal wledig yn gyffredinol. Dylai datblygiad yn yr ardaloedd hyn barhau i fabwysiadu canlyniadau cenedlaethol creu lleoedd cynaliadwy a chynnig cysylltiadau teithio llesol da i ganol aneddiadau i leihau'r angen i deithio mewn car ar gyfer teithiau lleol".
6.2.8 Fel y sonnir amdano ym mharagraff 6.2.3, mae Polisi Cynllunio Cymru (Rhifyn 11) hefyd yn nodi (paragraff 3.40), mewn ardaloedd gwledig "Dylai awdurdodau lleol ddynodi canolfannau gwasanaethau lleol, neu glystyrau o aneddiadau llai lle gellir dangos cysylltiad swyddogaethol cynaliadwy a'u nodi fel y lleoliadau a ffefrir ar gyfer y rhan fwyaf o ddatblygiadau newydd gan gynnwys darpariaeth tai a chyflogaeth". Felly, bydd y Maen Prawf yn yr asesiad safle hwn yn asesu safleoedd mewn aneddiadau llai i ddechrau ar sail bod ganddynt gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus ag aneddiadau mwy sy'n gweithredu fel canolfannau gwasanaeth. Efallai y bydd hyn ac unrhyw faen prawf cysylltiedig yn destun newid wrth i'r Strategaeth a Ffefrir gael ei datblygu.
Tabl 9. Maen Prawf 8: Cysylltiadau Teithio Llesol i Ganol Aneddiadau
System Sgorio |
Disgrifiad |
Gwyrdd |
Mae'r safle o fewn 400 metr i Lwybr Teithio Llesol sy'n bodoli eisoes neu wedi'i gynllunio. |
Oren |
Nid yw'r safle o fewn 400 metr i Lwybr Teithio Llesol sy'n bodoli eisoes neu wedi'i gynllunio ond mae llwybrau cerdded a beicio i ganol yr anheddiad ar gael. |
Coch |
Nid oes llwybrau Teithio Llesol na llwybrau cerdded a beicio ar gael. |
Tabl 10. Maen Prawf 9: Mynediad i'r Ardal Ehangach ar Droed
System Sgorio |
Disgrifiad |
Gwyrdd |
Mae'r safle yn hygyrch iawn ar droed (ceir rhwydwaith o balmentydd di-dor o ansawdd da sydd â goleuadau stryd sy'n hybu cerdded). |
Oren |
Mae angen mwy o ymchwil i'r safle o ran mynediad ar droed (efallai y bydd angen rhai gwelliannau megis gwelliannau i doriadau yn y rhwydwaith palmant a goleuadau, ond mae'r rhain yn ymddangos yn ymarferol a gellir mynd i'r afael â nhw). |
Coch |
Nid oes gan y safle fynediad hyfyw ar droed (mae'r safle mewn lleoliad ynysig, lle mae mynediad ar droed yn anodd iawn, os nad yn amhosibl). |
Tabl 11. Maen Prawf 10: Lleoliad o fewn Pellter Cerdded (h.y. 800 metr) o Safle Bws neu Orsaf Reilffordd Bresennol.
System Sgorio |
Disgrifiad |
Gwyrdd |
Mae'r safle o fewn 800 metr i drafnidiaeth gyhoeddus aml (o leiaf bob dwy awr) sy'n cysylltu'r safle ag o leiaf un anheddiad mwy (sy'n gweithredu fel canolfan wasanaethau) sy'n cynnig amrywiaeth o gyfleusterau. |
Oren |
Mae gan y safle rywfaint o fynediad at drafnidiaeth gyhoeddus (nid o fewn 800 metr ond o fewn pellter 'rhesymol') a/neu mae'r amledd yn fwy na phob dwy awr, ond mae yn cysylltu'r safle ag o leiaf un anheddiad mwy (sy'n gweithredu fel canolfan wasanaethau) sy'n cynnig amrywiaeth o gyfleusterau. |
Coch |
Nid oes trafnidiaeth gyhoeddus ar gael o fewn pellter 'rhesymol' i'r safle ac nid yw'r cynigydd y safle wedi rhoi tystiolaeth i ddangos sut mae modd datblygu'r safle yn unol â'r hierarchaeth drafnidiaeth fel y nodir ym Mholisi Cynllunio Cymru. |
Llwyd |
Nid oes trafnidiaeth gyhoeddus ar gael o fewn pellter 'rhesymol' i'r safle, ond mae cynigydd y safle wedi dangos sut y gellir datblygu'r safle yn unol â'r hierarchaeth drafnidiaeth fel y nodir ym Mholisi Cynllunio Cymru. |
Tabl 12. Maen Prawf 11: Addasrwydd Mynediad i Gerbydau i mewn ac allan o'r Safle a'r Effaith ar y Briffordd.
System Sgorio |
Disgrifiad |
Gwyrdd |
Dim cyfyngiadau ar fynediad i'r briffordd, gall y safle ddarparu mynediad diogel gyda mân welliannau i'r briffordd. |
Oren |
Mân gyfyngiadau ar fynediad i'r briffordd y gellir eu lliniaru'n rhesymol. |
Coch |
Gwrthwynebiad o'r adran briffyrdd, nid yw'r safle'n gallu cyrraedd safonau priffyrdd, nid yw mesurau lliniaru yn ymarferol neu maent yn debygol o wneud cynigion datblygu yn anhyfyw. |
Tabl 13. Maen Prawf 12: Capasiti'r Rhwydwaith Priffyrdd
System Sgorio |
Disgrifiad |
Gwyrdd |
Mae gan y rhwydwaith presennol y capasiti i ddygymod â symudiadau cerbydau ychwanegol a grëir gan y datblygiad arfaethedig (gan gynnwys y cyfnod adeiladu). |
Oren |
Mae gan y rhwydwaith presennol gapasiti cyfyngedig i ddygymod â symudiadau cerbydau ychwanegol a grëir gan y datblygiad arfaethedig (gan gynnwys y cyfnod adeiladu), ond gellir datrys hyn gyda gwelliannau i'r briffordd. Mae angen ymchwilio ymhellach i ddangos ei bod yn bosibl cyflawni'r gwelliannau a'u bod yn hyfyw. |
Coch |
Dim capasiti o fewn y rhwydwaith priffyrdd presennol i ddygymod â chynnydd mewn symudiadau cerbydau, ni ellir cyflawni unrhyw fesurau lliniaru ac maent yn anhyfyw. |
Tirwedd ac Effaith Amgylcheddol
6.2.9 Ystyrir yr effaith y gallai datblygu'r Safle Ymgeisiol ei gael ar y canlynol
Dynodiadau treftadaeth naturiol megis
- Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA).
- Ardaloedd Gwarchod Arbennig (AGA).
- Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).
- Safleoedd Ramsar.
- Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol (GNG).
- Gwarchodfeydd Natur Lleol.
- Coetiroedd Hynafol.
- ac unrhyw ddynodiadau/safleoedd anstatudol rhanbarthol neu leol.
- Rhywogaethau sydd wedi'u gwarchod.
Dynodiadau'r Amgylchedd Hanesyddol megis
- Tirweddau Hanesyddol Cofrestredig
- Henebion Cofrestredig
- Adeiladau Rhestredig
- Ardaloedd Cadwraeth
- Parciau a Gerddi Hanesyddol Cofrestredig
- ac unrhyw ddynodiadau/safleoedd anstatudol lleol (Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol).
Tirlun
- Parciau Cenedlaethol cyfagos
- Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) cyfagos
- Nodweddion a phriodweddau gwerthfawr tirwedd Powys.
Tir Amaethyddol
- Tir a ddynodwyd y Gorau a Mwyaf Amlbwrpas categorïau 3a ac uwch.
Tabl 14. Maen Prawf 13: Effaith ar Safleoedd Dynodedig Treftadaeth Naturiol.
System Sgorio |
Disgrifiad |
Gwyrdd |
Dim effaith andwyol ar ddynodiad/safle treftadaeth naturiol. |
Oren |
Posibilrwydd o effaith andwyol ar ddynodiad/safle treftadaeth naturiol ond gellir rhoi mesurau lliniaru a gwella priodol ar waith. Mae angen rhagor o wybodaeth ac asesu er mwyn dangos bod modd lliniaru. |
Coch |
Posibilrwydd o effaith andwyol ar ddynodiad/safle treftadaeth naturiol yn bosibl, ac nid yw lliniaru yn bosibl, byddai niwed annerbyniol i nodweddion y safle dynodedig. |
Tabl 15. Maen Prawf 14: Effaith ar Rywogaethau Gwarchodedig.
System Sgorio |
Disgrifiad |
Gwyrdd |
Dim effaith andwyol ar rywogaeth a warchodir. |
Oren |
Posibilrwydd o effaith andwyol ar safle rhywogaethau a warchodir ond gellir rhoi mesurau lliniaru a gwella priodol ar waith. Mae angen mwy o wybodaeth ac asesu i ddangos y gellir cyflawni mesurau lliniaru. |
Coch |
Posibilrwydd o effaith andwyol ar rywogaethau a warchodir ac nid yw lliniaru yn bosibl. |
Tabl 16. Maen Prawf 15: Effaith ar Safleoedd Dynodedig yr Amgylchedd Hanesyddol (a'u Lleoliadau lle bo hynny'n Briodol)
System Sgorio |
Disgrifiad |
Gwyrdd |
Dim effaith andwyol ar ddynodiad/safle'r amgylchedd hanesyddol na'i leoliad. |
Oren |
Effaith bosibl ar ddynodiad/safle'r amgylchedd hanesyddol – mae angen mwy o wybodaeth ac asesu i ddangos y gellir cyflawni mesurau lliniaru. |
Coch |
Mae gan y safle, neu mae'n agos iawn at ddynodiad/safle'r amgylchedd hanesyddol (a/neu ei leoliad) ac fe fyddai'n arwain at niwed i arwyddocâd y dynodiad neu fe fyddai mesurau lliniaru priodol yn annhebygol o gael eu cyflawni. |
Tabl 17. Maen Prawf 16: Effaith ar Dirwedd.
System Sgorio |
Disgrifiad |
Gwyrdd |
Dim effaith andwyol ar dirwedd unrhyw Barciau Cenedlaethol* neu AHNE. Dim effaith andwyol ar nodweddion nac ar briodweddau a sensitifrwydd tirwedd Powys a nodir yn yr Asesiad Cymeriad Tirwedd Lleol+ ar gyfer ardal CDLl Powys. |
Oren |
Dim effaith andwyol ar dirwedd unrhyw Barciau Cenedlaethol neu AHNE. Effaith debygol ar y nodweddion, priodweddau a sensitifrwydd allweddol tirwedd a nodir yn yr Asesiad Cymeriad Tirwedd Lleol ar gyfer ardal CDLl Powys, ond mae'n bosibl y gellir lliniaru yn unol â'r canllawiau o fewn yr asesiad. Mae angen mwy o wybodaeth ac asesu i ganfod yr effeithiau ac i ddangos y gellir cyflawni mesurau lliniaru. |
Coch |
Bydd y safle'n cael effaith andwyol ar dirwedd Parc Cenedlaethol neu AHNE a/neu eu lleoliad. Bydd y safle a'r cynnig yn cael effaith andwyol ar y nodweddion, priodweddau a sensitifrwydd allweddol tirwedd a nodir yn Asesiad Cymeriad Tirwedd Lleol ar gyfer ardal CDLl Powys ac sy'n gwrthdaro â'r canllawiau sydd ynddo. |
* Rhaid i'r Awdurdod Cynllunio Lleol roi sylw i ddibenion a dyletswydd Parciau Cenedlaethol.
+ Mae'r Asesiad Cymeriad Tirwedd Lleol ar gyfer ardal CDLl Powys wedi rhoi sylw i haenau ac ardaloedd agwedd LANDMAP, byddwn yn cyfeirio ymhellach at LANDMAP wrth ystyried Safleoedd Ymgeisiol.
Tabl 18. Maen Prawf 17: Effaith ar Dir Amaethyddol Gorau a Mwyaf Amlbwrpas (BMV)
System Sgorio |
Disgrifiad |
Gwyrdd |
Mae'r safle yn dir sydd wedi'i ddatblygu o'r blaen neu ni fyddai'n arwain at golli graddau 1, 2 neu 3a BMV tir amaethyddol . |
Oren |
Mae'r safle ar dir amaethyddol Gradd 3a BMV ac nid yw tir sydd wedi'i ddatblygu o'r blaen neu dir yn y graddau amaethyddol is ar gael. |
Coch |
Byddai'r safle'n arwain at golli tir Gradd 1 neu Radd 2 BMV, neu Radd 3a lle mae safleoedd eraill naill ai ar dir sydd wedi'i ddatblygu o'r blaen neu dir yn y graddau amaethyddol is ar gael. |
Perygl llifogydd
6.2.10 Cyngor presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer perygl lifogydd yw Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 15: Datblygu a Pherygl Llifogydd (2004), cefnogir y canllawiau hyn gan Fapiau Cynghori Datblygu sy'n dangos ardaloedd lle mae perygl lifogydd wedi'u categoreiddio yn C1 ac C2.
Diffinnir y rhain fel a ganlyn:
- C1: "ardaloedd o'r gorlifdir sydd wedi eu datblygu ac sy'n cael eu gwasanaethu gan isadeiledd sylweddol, gan gynnwys amddiffynfeydd rhag llifogydd".
- C2: "Ardaloedd o'r gorlifdir sydd heb isadeiledd sylweddol i amddiffyn rhag llifogydd."
6.2.11 Mae TAN 15 yn y broses o gael ei ddiwygio gyda'r fersiwn ddiweddaraf i'w chyhoeddi ym Mis Mehefin 2023. Cefnogir y TAN 15 diwygiedig gan set wahanol o fapiau perygl llifogydd a elwir ar y cyd yn Fap Llifogydd ar gyfer Cynllunio (FMfP). Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:
Parthau Wedi'u Hamddiffyn - Ardaloedd lle mae isadeiledd rheoli perygl llifogydd yn darparu isafswm safon diogelwch yn erbyn llifogydd o afonydd 1:100 ac yn erbyn llifogydd o'r môr o 1:200 (ynghyd â newid hinsawdd a bwrdd rhydd).
Parth Llifogydd 2 Afonydd – Posibilrwydd o lifogydd yn llai na 1 o bob 100 (1%) ond yn fwy na 1 o bob 1000 (0.1%) mewn blwyddyn benodol, gan gynnwys newid hinsawdd.
Parth Llifogydd 3 Afonydd - Posibilrwydd o lifogydd dros 1 o bob 100 (1%) mewn blwyddyn benodol, gan gynnwys newid hinsawdd.
Parth Llifogydd 2 Môr – Posibilrwydd o lifogydd yn llai na 1 o bob 200 (0.5%) ond yn fwy na 1 o bob 1000 (0.1%) mewn blwyddyn benodol, gan gynnwys newid hinsawdd
Parth Llifogydd 3 Môr - Posibilrwydd o lifogydd dros 1 o bob 200 (0.5%) mewn blwyddyn benodol, gan gynnwys newid hinsawdd.
Parth Llifogydd 2 Dŵr Wyneb a Chyrsiau Dŵr Bach – Posibilrwydd o lifogydd yn llai na 1 o bob 100 (1%) ond yn fwy na 1 o bob 1000 (0.1%) mewn blwyddyn benodol, gan gynnwys newid hinsawdd.
Parth Llifogydd 3 Dŵr Wyneb a Chyrsiau Dŵr Bach – Posibilrwydd o lifogydd dros 1 o bob 100 (1%) mewn blwyddyn benodol, gan gynnwys newid hinsawdd.
6.2.12 Mae Llywodraeth Cymru mewn llythyr at ACLlau, dyddiedig 15 Rhagfyr 2021, ynghylch Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 15 yn datgan "Pan fo cynlluniau yn cael eu hadolygu, rhaid i'r ystyriaethau risg llifogydd sy'n bwydo i'r strategaeth anheddu a dyraniadau safle fod yn unol â'r TAN 15 newydd a'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio". Felly, bydd y mapiau perygl llifogydd sy'n ffurfio'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio (FMfP) yn cael eu defnyddio i asesu addasrwydd Safleoedd Ymgeisiol o ran perygl llifogydd. Rhoddir ystyriaeth i'r polisïau yn y TAN 15 diwygiedig sydd i ddod (a gyhoeddir Mehefin 2023) ac Asesiad Canlyniadau Llifogydd Strategol Rhanbarthol Canolbarth Cymru (2022) (i'w gyhoeddi erbyn Tachwedd 2022).
6.2.13 Bydd safleoedd sydd wedi'u lleoli o fewn Parthau 2 neu 3 y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio (FMfP) (gan gynnwys mewn Ardaloedd wedi'u Hamddiffyn), na fyddant yn bodloni'r profion cyfiawnhad a derbyn meini prawf canlyniadau (o ran defnyddiau a thir eisoes wedi'i ddatblygu a fyddai o dan fygythiad) yn cael ei hidlo allan yn gynnar (cam hidlo safle cychwynnol) yn y broses asesu safleoedd ymgeisiol, mae hyn yn cynnwys cynigion ar gyfer datblygiadau hynod agored i niwed fel tai ym Mharthau 3 Llifogydd Afonydd a Môr yr FMfP a safleoedd nad ydynt ar dir a ddatblygwyd o'r blaen ym Mharthau 2 Llifogydd Afonydd a Môr yr FMfP.
Tabl 19. Maen Prawf 18: Datblygiad Hynod Agored i Niwed* mewn Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio (FMfP) parthau Afonydd a Môr 2 a 3
System Sgorio |
Disgrifiad |
Gwyrdd |
Nid yw'r safle mewn ardal a nodwyd fel un â pherygl llifogydd afon neu arfordirol yn y FMfP |
Oren |
Mae'r safle ar gyfer datblygiad hynod agored i niwed o fewn Ardal wedi'i Hamddiffyn a/neu Barth 2, ar dir a ddatblygwyd o'r blaen ac mae'n cael ei gefnogi gan Asesiad Canlyniadau Llifogydd sy'n dangos y gwelir bod canlyniadau posibl digwyddiad lifogydd ar gyfer y datblygiad a gynigir yn dderbyniol yn unol â'r meini prawf a gynhwysir yn adran 11 o TAN 15 (2021). |
Coch |
Mae'r safle ar gyfer datblygiad hynod agored i niwed o fewn Parth 3, neu mewn Ardal wedi'i Hamddiffyn neu Barth 2, ar dir glas neu mewn Ardal wedi'i Hamddiffyn neu Barth 2, ar dir a ddatblygwyd o'r blaen ond heb ei gefnogi gan Asesiad Canlyniadau Llifogydd sy'n dangos cydweddiad â'r meini prawf a gynhwysir yn adran 11 o TAN 15 (2021). |
*Yn cynnwys: pob safle preswyl (gan gynnwys safleoedd Sipsiwn a Theithwyr) datblygiadau twristiaeth, ysgolion, sefydliadau gofal plant, cyfleusterau meddygol, safleoedd gwaredu gwastraff, planhigion cemegol, llosgyddion, gwasanaethau brys. Gweler TAN 15 (Rhagfyr 2021) am restr lawn.
Tabl 20. Maen Prawf 19: Datblygiad Llai Agored i Niwed* ym mharthau Afonydd a Môr 2 a 3 Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio (FMfP).
System Sgorio |
Disgrifiad |
Gwyrdd |
Nid yw'r safle mewn ardal a nodwyd fel un â pherygl llifogydd afon neu arfordirol yn FMfP |
Oren |
Mae'r safle ar gyfer datblygiad llai agored i niwed o fewn Parth 3 neu Barth 2 (gan gynnwys Ardaloedd wedi'u Hamddiffyn), ar dir a ddatblygwyd o'r blaen ac mae'n cael ei gefnogi gan Asesiad Canlyniadau Llifogydd sy'n dangos y gwelir bod canlyniadau posibl digwyddiad llifogydd ar gyfer y datblygiad a gynigir yn dderbyniol yn unol â'r meini prawf a gynhwysir yn adran 11 o TAN 15 (2021). |
Coch |
Mae'r safle ar gyfer datblygiad llai agored i niwed o fewn Parth 3 neu Barth 2 (gan gynnwys Ardaloedd wedi'i Hamddiffyn) ar dir glas a/neu nid yw'n cael ei gefnogi gan Asesiad Canlyniadau Llifogydd. |
* Yn cynnwys: datblygiad diwydiannol cyffredinol, cyflogaeth, datblygu masnachol a manwerthu, seilwaith trafnidiaeth a chyfleustodau, adeiladau cyhoeddus, addoldai. Gweler TAN 15 (Rhagfyr 2021) am restr lawn.
Tabl 21. Maen Prawf 20: Datblygiad mewn Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio (FMfP) Llifogydd Dŵr Arwyneb.
System Sgorio |
Disgrifiad |
Gwyrdd |
Nid yw'r safle mewn ardal a nodwyd fel un â pherygl llifogydd dŵr wyneb yn FMfP. |
Oren |
Nodir bod y safle o fewn Parthau 2 neu 3 Llifogydd Dŵr Arwyneb FMfP ac mae ganddo Asesiad Canlyniadau Llifogydd (CDLl) sy'n dangos bod lliniaru yn ymarferol. |
Coch |
Nodir bod y safle o fewn Parthau Llifogydd Dŵr Arwyneb FMfP 2 neu 3 ac nid yw'n cynnwys CDLl sy'n dangos bod lliniaru yn ymarferol. |
Ardaloedd Diogelu/Clustogfeydd Mwynau
6.2.14 Nid yw diogelu adnoddau mwynau a chynnwys tir o fewn Ardal Diogelu Mwynau yn rhoi rhagdybiaeth i ddatblygiad gwaith mwynau gael ei ganiatáu ond mae'n galluogi ardaloedd i gael eu diogelu fel nad yw adnoddau mwynau'n cael eu sterileiddio gan ddatblygiad a'u bod yn parhau i fod yn hygyrch i genedlaethau'r dyfodol. Dylid ystyried ardaloedd Diogelu Mwynau fel math o gyfyngiadau i sicrhau bod presenoldeb adnoddau mwynau yn cael ei ystyried yn ddigonol ac yn effeithiol mewn cynigion datblygu.
6.2.15 Mae angen clustogfeydd mwynau o gwmpas safleoedd echdynnu mwynau a ganiateir ac a ddyrannwyd. O fewn y glustogfa, ni ddylid dyrannu unrhyw ddatblygiad sensitif newydd nac echdynnu mwynau. Mae datblygiad sensitif yn unrhyw adeilad sy'n cael ei feddiannu gan bobl yn rheolaidd ac mae'n cynnwys cynigion datblygu megis preswyl, twristiaeth, a chyfleusterau cymunedol lle dylid disgwyl safon amwynder derbyniol. Dim ond mewn clustogfa y gellir ystyried dyraniadau lle na fyddai'r defnydd arfaethedig yn niweidiol i weithrediad y safle echdynnu mwynau.
Tabl 22. Maen Prawf 21: Ardaloedd/Clustogfeydd Diogelu Mwynau.
System Sgorio |
Disgrifiad |
Gwyrdd |
Nid yw'r safle o fewn ardal diogelu mwynau, neu ni fyddai'r cynnig yn sterileiddio adnodd mwynau a ddiogelir yn ddiangen. Nid yw'r safle o fewn clustogfa mwynau neu nid yw'n cael ei ddosbarthu fel defnydd sensitif o fewn clustogfa. |
Oren |
Mae'r safle o fewn ardal diogelu mwynau, ond mae rhagor o wybodaeth wedi'i darparu i gyfiawnhau un neu fwy o'r meini prawf isod:
Mae'r safle o fewn clustogfa mwynau, ond ni fydd datblygiad yn niweidiol i weithrediad y safle echdynnu mwynau. |
Coch |
Mae'r safle o fewn ardal diogelu mwynau a byddai'n arwain at sterileiddio yr adnodd mwynau'n ddi-angen. Neu Mae'r safle yn cynnig defnydd sensitif o fewn Clustogfa Mwynau. |
Seilwaith / Capasiti Cyfleustodau
6.2.16 Ystyrir a oes digon o gapasiti yn y seilwaith lleol i wasanaethu'r datblygiad arfaethedig. Lle bwriedir gwneud gwelliannau er mwyn cynyddu capasiti, bydd angen darparu manylion ar sut y caiff gwelliannau eu hariannu, pryd y bydd y gwelliannau yn digwydd, sut bydd hyn yn effeithio ar gyflawni'r safle a sut y gellir cyflawni'r datblygiad o fewn cyfnod y CDLl Newydd (2022-2037).
Mae seilwaith i'w ystyried o fewn y maen prawf hwn yn cynnwys:
- Dŵr
- Gwaith Trin Carthion
- Trydan
- Nwy
- Darpariaeth band eang
6.2.17 Bydd Safleoedd Ymgeisiol sydd mewn Dalgylchoedd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Afonol Sensitif i Ffosffad yn cael eu hasesu yn gynnar yn y cam hidlo safleoedd cychwynnol (paragraffau 4.2.12 – 4.2.14) i fesur y gallu i gysylltu â gwaith trin carthion sydd â phroses tynnu ffosffad (gyda thrwydded gyfoes) mewn modd amserol i alluogi cyflawni o fewn y Cyfnod CDLl Newydd.
6.2.18 Bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn casglu rhywfaint o wybodaeth, ar lefel aneddiadau, ar gapasiti seilwaith a gwelliannau sydd wedi'u cynllunio, bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi mewn Cynllun Seilwaith ochr yn ochr â Strategaeth a Ffefrir y CDLl Newydd. Pan fydd diffygion yn cael eu nodi o fewn y Cynllun Seilwaith, gofynnir i gynigwyr safleoedd ddarparu rhagor o dystiolaeth i ddangos y gellir cyflawni'r Safle.
Tabl 23. Maen prawf 22: Capasiti Seilwaith.
System Sgorio |
Disgrifiad |
Gwyrdd |
Mae gan y seilwaith y capasiti i wasanaethu'r datblygiad. |
Oren |
Mae gan y seilwaith gapasiti cyfyngedig; fodd bynnag, bwriedir i welliannau gynyddu'r ddarpariaeth gan ddarparwr y seilwaith neu gan hyrwyddwr y safle. Mae angen rhagor o wybodaeth i ddangos sut a phryd y bydd gwelliannau'n digwydd, bod y datblygiad hwnnw'n hyfyw ac y gellir ei gyflawni o fewn cyfnod y cynllun. |
Coch |
Diffyg mewn capasiti seilwaith, yn annhebygol yr ymdrinnir ag ef heb effeithio ar hyfywedd y datblygiad a/neu gyfyngu ar y gallu i'r datblygiad gael ei gyflawni o fewn cyfnod y cynllun. |
Cyflawni a Hyfywedd
6.2.19 Wrth benderfynu pa mor addas yw Safleoedd Ymgeisiol, un o amcanion allweddol yr Awdurdod Cynllunio Lleol fydd sefydlu a oes gan gynigydd safle fwriad o ddifri i ddatblygu'r safle ac a all wneud hynny o fewn amserlen y CDLl Newydd. Mae hyn yn cysylltu'n uniongyrchol â'r prawf cadernid 'A fydd y cynllun yn cyflawni?' Bydd disgwyl i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ddangos hyn yn yr Archwiliad Cyhoeddus.
6.2.20 Efallai na fydd safle sy'n gyflawnadwy yn hyfyw yn ariannol, ac i'r gwrthwyneb. Yn ystod y cam asesu'r Safleoedd Ymgeisiol mae'n rhaid ystyried y ddwy elfen eu cyfanrwydd, mewn modd eang a chymesur, ynghyd ag egwyddorion datblygu cynaliadwy.
6.2.21 Dylai Safleoedd Ymgeisiol fod yn gynaliadwy, yn gyflawnadwy ac yn hyfyw yn ariannol er mwyn cael eu hystyried ar gyfer eu cynnwys yn y cynllun gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Dylai pob safle fodloni'r paramedrau a'r wybodaeth eang a gaiff eu cyhoeddi gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol a bod â digon o hyblygrwydd ariannol i fodloni holl ofynion polisi'r CDLlau Newydd (e.e. tai fforddiadwy, mannau agored ac ati).
6.2.22 Ystyrir yn gynnar yn y broses asesu yn ystod y cam hidlo safleoedd cychwynnol, unrhyw rwystrau rhag cyflawni'r safleoedd drwy naill ai bresenoldeb cyfyngiadau ffisegol mawr ar y safle, hanes cynllunio (e.e. gwrthodiadau), cyfyngiadau cyfreithiol neu gyfamodau sy'n cyfyngu'r safle rhag cael ei gyflwyno yng nghyfnod y Cynllun. Gweler paragraff 4.2.15.
Tabl 24. Maen Prawf 23: Perchnogaeth ac Ystyriaethau Cyfreithiol – Tir Cyhoeddus.
System Sgorio |
Disgrifiad |
Gwyrdd |
Mae'r safle'n dir cyhoeddus ond fe'i nodir mewn strategaeth waredu gyhoeddedig a/neu drwy benderfyniad y Cyngor os bwriedir i'r tir gael ei gadw/neu ei werthu gan y Cyngor. |
Oren |
Mae'r safle'n dir cyhoeddus ond nid yw wedi ei nodi eto mewn strategaeth waredu gyhoeddedig a/neu drwy benderfyniad y Cyngor os bwriedir i'r tir gael ei gadw/neu ei werthu gan y Cyngor. Fodd bynnag, mae'n cael ei ystyried ar gyfer cynhwysiant / penderfyniad o fewn y chwe mis nesaf. |
Coch |
Nid yw'r safle'n cael ei ystyried ar gyfer ei gynnwys o fewn strategaeth waredu gyhoeddedig na drwy benderfyniad y Cyngor os bwriedir i'r tir gael ei gadw/neu ei werthu gan y Cyngor. |
Tabl 25. Maen Prawf 24: Perchnogaeth ac Ystyriaethau Cyfreithiol – Tirfeddiannaeth.
System Sgorio |
Disgrifiad |
Gwyrdd |
Mae'r safle yn eiddo i un tirfeddiannwr, gyda thystiolaeth wedi ei chyflwyno i ddangos ei fod yn cefnogi cynnig y safle neu os yw'n eiddo i fwy nag un person, bod tystiolaeth o gytundeb ynghylch cynnig y safle. |
Oren |
Mae'r safle yn eiddo i nifer o dirfeddianwyr heb unrhyw dystiolaeth o gytundeb i gydweithio. Mae angen rhagor o wybodaeth. |
Coch |
Mae ansicrwydd ynghylch perchnogaeth y safle cyfan neu ran ohono a/neu ddim tystiolaeth i ddangos bod y tirfeddiannwr/tirfeddianwyr yn cefnogi cynnig y safle. |
Tabl 26. Maen Prawf 25: Perchnogaeth ac Ystyriaethau Cyfreithiol – Buddiannau Datblygwyr.
System Sgorio |
Disgrifiad |
Gwyrdd |
Mae tystiolaeth o fuddiant datblygwyr. |
Oren |
Does dim buddiant datblygwyr yn cael ei nodi ar hyn o bryd, ond mae'r safle yn cael ei farchnata. |
Llwyd |
Ni fydd y ffaith nad oes buddiant datblygwyr yn eithrio'r safle o reidrwydd . |
Tabl 27. Maen Prawf 26: Cyflawnadwyedd - Safleoedd a Ddyrannwyd Presennol yn y CDLl Mabwysiedig (2011-2026)
System Sgorio |
Disgrifiad |
Gwyrdd |
Mae'r safle yn safle sydd wedi ei ddyrannu yn y CDLl Mabwysiedig sydd heb ei gyflwyno, ond mae cais cynllunio wedi ei gyflwyno sy'n disgwyl penderfyniad* neu'n disgwyl llofnod ar gytundeb Adran 106. |
Oren |
Mae'r safle yn safle sydd wedi ei ddyrannu yn y CDLl Mabwysiedig sydd heb ei gyflwyno, ond mae digon o dystiolaeth wedi ei gyflwyno i ddangos sut mae rhwystrau rhag cyflawni wedi'u datrys ac y bydd modd i'r safle gael ei gyflwyno yng nghyfnod y CDLl Newydd. |
Coch |
Mae'r safle yn safle a ddyrannwyd yn y CDLl Mabwysiedig sydd heb ei gyflwyno, ni chyflwynwyd tystiolaeth neu yr oedd yn annigonol i ddangos y byddai'r safle'n cael ei gyflwyno a'i gyflawni yng nghyfnod y CDLl Newydd. |
* Bydd safleoedd sydd wedi cael caniatâd ac sy'n cyd-fynd â Strategaeth Ofodol y CDLl Newydd yn cael eu dangos fel safleoedd yr ymrwymir iddynt yn y CDLl Newydd.
Tabl 28. Maen prawf 27: Argaeledd Safleoedd.
System Sgorio |
Disgrifiad |
Gwyrdd |
Ar gael i'w ddatblygu yn y tymor byr (o fewn 5 mlynedd) |
Oren |
Ar gael i'w ddatblygu yn y tymor canolig (5-10 mlynedd) |
Coch |
Ar gael i'w ddatblygu yn y tymor hir (10 mlynedd neu fwy) |
Tabl 29. Maen Prawf 28: Hyfywedd.
System Sgorio |
Disgrifiad |
Gwyrdd |
Cyflwynwyd Asesiad Hyfywedd manwl sy'n bodloni'r gofynion a osodwyd gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Mae'r dystiolaeth yn dangos bod y datblygiad yn un hyfyw. Neu Mae dulliau eraill o ariannu ar waith lle dangoswyd cyflawnadwyedd er mwyn sicrhau cyllid (e.e. Grant Tai Cymdeithasol, Bargen Dwf Canolbarth Cymru). |
Oren |
Cyflwynwyd Asesiad Hyfywedd manwl neu dystiolaeth ar fecanweithiau ariannu eraill ond mae angen mwy o wybodaeth. |
Coch |
Nid oes digon o dystiolaeth ar hyfywedd / mecanweithiau ariannu eraill wedi'u cyflwyno. Neu Mae tystiolaeth hyfywedd wedi'i sicrhau sy'n dangos nad yw hyfywedd y safle yn ddigonol i ddangos bod modd cyflawni'r safle a'i fod yn gallu bodloni gofynion tai fforddiadwy y Cynllun a gofynion polisi cynllunio angenrheidiol eraill. |
6.2.23 Bydd yr wybodaeth Asesu Hyfywedd cychwynnol a ddarparwyd yn ystod y cam hidlo safleoedd cychwynnol yn destun gwiriad gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Bydd angen Asesiad Hyfywedd mwy manwl yn y cam asesu safleoedd manwl hwn, lle gofynnir am wybodaeth ac asesiadau ychwanegol i ddangos y gall y safle fodloni gofynion polisi'r CDLl Newydd a pharhau i fod yn hyfyw a chyflawnadwy. Darperir rhagor o wybodaeth ynghylch gofynion Asesu Hyfywedd yn y Nodyn Cyfarwyddyd.
6.2.24 Pan fo datblygiad i'w ariannu trwy fecanweithiau eraill megis grant tai cymdeithasol neu Fargen Canolbarth Cymru bydd angen darparu tystiolaeth amgen i ddangos cyflawnadwyedd.
Tabl 30. Maen Prawf 29: Arfarnu Safle*.
System Sgorio |
Disgrifiad |
Gwyrdd |
Mae'r safle'n edrych fel un y gellid ei ddatblygu'n realistig ac mae'n wirioneddol addas i'w ddatblygu. |
Oren |
Mae'r safle'n edrych fel un sydd â photensial i gael ei ddatblygu'n realistig a'i fod yn addas i'w ddatblygu, ond bod angen rhagor o wybodaeth. |
Coch |
Nid yw'r safle yn edrych fel un y gellid ei ddatblygu'n realistig a/neu nid yw'n addas i'w ddatblygu o fewn cyfnod y CDLl Newydd. |
*Bydd y maen prawf arfarnu safle yn ystyried canlyniad meini prawf cam asesu safleoedd manwl blaenorol, ynghyd ag arsylwadau Swyddog Polisi Cynllunio ac ymweliad â'r safle.
Newid Hinsawdd, Gwneud Lleoedd a Gwella Bioamrywiaeth
6.2.25 Mae Polisi Cynllunio Cymru (Rhifyn 11) paragraff 5.8.1 yn nodi, "Dylai'r system gynllunio gefnogi datblygiad newydd sy'n defnyddio ynni'n effeithiol iawn, yn cefnogi datgarboneiddio, yn mynd i'r afael ag achosion newid yn yr hinsawdd ac yn addasu i effeithiau yr argyfwng hinsawdd nawr ac i'r dyfodol trwy ymgorffori mesurau lliniaru ac addasu effeithiol"
6.2.26 Mae Creu Lleoedd yn ffordd holistig o fynd ati i gynllunio a dylunio datblygiadau a lleoedd sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau positif. Mae'n tynnu ar botensial ardal i greu datblygiadau a mannau cyhoeddus o ansawdd uchel sy'n hyrwyddo ffyniant, iechyd, hapusrwydd a llesiant pobl yn eu hystyr ehangaf. Mae "creu lleoedd" yn ystyried y cyd-destun, y swyddogaeth a'r berthynas rhwng safle'r datblygiad a'i gyffiniau.
6.2.27 Er mwyn ymgorffori creu lleoedd mae Polisi Cynllunio Cymru (Rhifyn 11) yn ei gwneud yn ofynnol bod cynlluniau datblygu a chynigion datblygu yn ceisio sicrhau datblygiadau sy'n mynd i'r afael â Chanlyniadau Cenedlaethol Creu Lleoedd Cynaliadwy, sef:
- Creu a Chynnal Cymunedau
- Gwneud y Defnydd Gorau o Adnoddau
- Helpu Ein Heconomi i Dyfu mewn Ffordd Gynaliadwy
- Amddiffyn yr Amgylchedd a Chyfyngu ar yr Effeithiau ar yr Amgylchedd
- Hwyluso Amgylcheddau Hygyrch ac Iach
6.2.28 Yn unol â Rhan 1 Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae'n rhaid i ACLlau gynnal a gwella bioamrywiaeth wrth arfer eu swyddogaethau, gan gynnwys trwy'r broses gynllunio, ac wrth wneud hynny hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau. Felly, mae angen i gynigwyr safleoedd ystyried sut y gall cynigion Safleoedd Ymgeisiol ddarparu gwelliannau bioamrywiaeth sy'n cefnogi cydnerthedd ecosystemau.
Tabl 31. Maen Prawf 30: Mynd i'r afael ag Achosion yr Argyfwng Hinsawdd*
System Sgorio |
Disgrifiad |
Gwyrdd |
Mae cynigydd y safle wedi rhoi manylion ynghylch sut y bydd y datblygiad yn cyflawni carbon sero net. |
Oren |
Bydd y datblygiad yn ymgorffori mesurau lleihau carbon a/neu ffynonellau ynni sy'n fwy na'r hyn sy'n ofynnol gan Reoliadau Adeiladu. |
Coch |
Mae'r cynnig yn ystyried peidio ag ymgorffori mesurau lleihau carbon a/neu ffynonellau ynni sy'n fwy na'r hyn sy'n ofynnol gan Reoliadau Adeiladu. |
* Rhagor o wybodaeth i'w darparu yn y Nodyn Cyfarwyddyd ynghylch yr hyn y disgwylir i gynigwyr safle ei gyflwyno i ddangos cydweddiad â'r maen prawf hwn.
Tabl 32. Maen prawf 31: Creu Lleoedd Cynaliadwy*
System Sgorio |
Disgrifiad |
Gwyrdd |
Mae cynigydd y safle wedi darparu gwybodaeth sy'n dangos sut y byddant yn ymdrin â'r Canlyniadau Cenedlaethol Creu Lleoedd Cynaliadwy ym Mholisi Cynllunio Cymru (Rhifyn 11) |
Oren |
Mae gan y cynnig y potensial i ymdrin â holl Ganlyniadau Cenedlaethol Creu Lleoedd Cynaliadwy Polisi Cynllunio Cymru (Rhifyn 11), ond mae angen rhagor o wybodaeth. |
Coch |
Nid yw'r cynnig yn gallu ymdrin â Chanlyniadau Cenedlaethol Creu Lleoedd Cynaliadwy Polisi Cynllunio Cymru (Rhifyn 11) / nid oes digon o wybodaeth wedi'i darparu gan gynigydd y safle. |
* Rhagor o wybodaeth i'w darparu yn y Nodyn Cyfarwyddyd ynghylch yr hyn y disgwylir i gynigwyr safle ei gyflwyno i ddangos cydweddiad â'r maen prawf hwn.
Tabl 33. Maen prawf 32: Gwelliannau Bioamrywiaeth
System Sgorio |
Disgrifiad |
Gwyrdd |
Mae cynigydd y safle wedi darparu gwybodaeth sy'n dangos y bydd y safle yn darparu gwelliannau bioamrywiaeth sy'n cefnogi cydnerthedd ecosystemau. |
Oren |
Mae gan y cynnig y potensial i allu darparu gwelliannau bioamrywiaeth sy'n cefnogi cydnerthedd ecosystemau, ond mae angen rhagor o wybodaeth. |
Coch |
Dim digon o dystiolaeth wedi'i darparu i ddangos y gall y safle ddarparu gwelliannau bioamrywiaeth sy'n cefnogi cydnerthedd ecosystemau. |