Y Strategaeth a Ffefrir
1. Cyflwyniad
Mae'r ddogfen hon yn nodi'r Strategaeth a Ffefrir ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Newydd Powys ar gyfer cyfnod cynllun 2022–2037. Dyma'r cam statudol cyntaf wrth baratoi'r CDLl Newydd ar gyfer ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Powys sy'n cynnwys Powys gyfan y tu allan i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Ar ôl ei fabwysiadu, bydd y CDLl Newydd a'i bolisïau a'i gynigion yn dod yn lle CDLl Powys a fabwysiadwyd yn gynharach (2011–2026) a bydd yn cael ei ddefnyddio ochr yn ochr â Cymru'r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040 Llywodraeth Cymru i gyflawni datblygu cynaliadwy ac i wneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio.
1.1 Beth yw Strategaeth a Ffefrir y CDLl Newydd?
Y Strategaeth a Ffefrir yw'r cam statudol cyntaf wrth baratoi CDLl Newydd ac yn unol â Rheoliadau y CDLl mae'n ddarostyngedig i gyfnod ymgynghori cyhoeddus statudol o chwe wythnos o leiaf.
Mae'n nodi Materion Allweddol, Gweledigaeth ac Amcanion ar gyfer cyfnod cynllun y CDLl Newydd hyd at 2037.
Mae'n ystyried Dewisiadau Twf Strategol ar gyfer lefel a swm y twf-tai, tir cyflogaeth ac adwerthu-a Dewisiadau Gofodol Strategol ar gyfer lle y dylid dosbarthu'r twf hwn ar draws ardal y cynllun.
Gan ddefnyddio'r dewisiadau Twf a Gofodol sy'n cael eu llywio gan Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig Cychwynnol, cynigir Strategaeth a Ffefrir. Cefnogir hyn gan Ddiagram Allweddol a set o Bolisïau Strategol arfaethedig ar gyfer cyflawni'r Strategaeth.
1.2 Sut i wneud sylwadau ar Strategaeth a Ffefrir y CDLl Newydd?
Ar ôl cymeradwyo'r Strategaeth a Ffefrir, mae'r Cyngor yn croesawu sylwadau am y Strategaeth a Ffefrir.
Mae papurau cefndir a thystiolaeth a ddefnyddiwyd i lywio'r gwaith o baratoi'r Strategaeth a Ffefrir wedi eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor a dylid eu darllen ochr yn ochr â'r Strategaeth a Ffefrir.
Mae Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol hefyd wedi ei chyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad a bydd sylwadau ar y safleoedd yn cael eu defnyddio i lywio dyraniad safleoedd yn y Cynllun Adnau (y cam statudol nesaf). Ceir cyflwyno ceisiadau safle ymgeisiol newydd yn ystod y cyfnod ymgynghori hefyd.
Sut i gyflwyno sylwadau: I wneud sylw, cliciwch ar y.
Cyfnod Ymgynghori: 19 Awst – 7 Hydref 2024 (5yh).
Sylwadau Hwyr - Ni dderbynnir sylwadau a ddaw i law ar ôl cau'r Cyfnod Ymgynghori.
1.3 Beth sy'n Digwydd Nesaf?
Ar ôl i'r cyfnod ymgynghori ddod i ben, bydd y Cyngor yn dadansoddi ac yn ystyried y sylwadau a wnaed am y Strategaeth a Ffefrir. Pan ystyrir hynny'n briodol, bydd y sylwadau'n cael eu defnyddio i fireinio Strategaeth y CDLl ac i baratoi'r Cynllun Adnau.
Bydd y Cynllun Adnau yn cynnwys Strategaeth a pholisïau cynllunio manylach at ddibenion rheoli datblygu, polisïau a dyraniadau safle, a fframwaith monitro. Fe'i cyhoeddir am gyfnod statudol o chwe wythnos o ymgynghori cyhoeddus o leiaf. Nodir rhagor o wybodaeth am yr amserlen a'r camau ar gyfer paratoi'r CDLl Newydd yn y Cytundeb Cyflawni cymeradwy sydd ar gael i'w weld ar wefan y Cyngor.