Y Strategaeth a Ffefrir

Daeth i ben ar 7 Hydref 2024

2. Nodweddion Powys

2.1 Cyflwyniad

Mae'r adran hon yn rhoi cyflwyniad cyffredinol i Bowys a'i nodweddion ac yn gosod cyd-destun ar gyfer y CDLl Newydd.

2.2 Lleoliad a Thopograffeg

Lleolir Powys yn ganolog yng nghanolbarth Cymru. Yn ddaearyddol, Powys yw'r awdurdod mwyaf yng Nghymru ac mae'n cwmpasu oddeutu chwarter Cymru. Mae'n ffinio â deg ACLl arall, gan gynnwys wyth yng Nghymru a Swydd Henffordd a Swydd Amwythig yn Lloegr, fel y dangosir yn Ffigur 1.

Ffigur 1 - Map o Bowys a'r Awdurdodau Lleol Cyfagos

Map yn dangos amlinelliad o ardal awdurdod lleol Powys ac awdurdodau lleol cyfagos

Mae Powys yn helaeth ei natur gan fod yn sir ucheldirol a gwledig iawn i raddau helaeth sy'n cwmpasu dros 5,000 cilometr sgwâr. Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ne'r sir sy'n ACLl yn ei rinwedd ei hun, sy'n cwmpasu oddeutu 16% o ardal Powys. Bydd angen i'r CDLl Newydd ystyried Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Pharc Cenedlaethol Eryri (i'r gogledd-orllewin) fel dynodiadau tirwedd cenedlaethol.

Mae Ffigur 2 yn dangos topograffeg Powys a sut y croestorrir Powys gydag ardaloedd ucheldirol rhwng y cymoedd. Mae'r ardaloedd ucheldirol yn cynnwys y Berwyn yn y gogledd, Mynyddoedd Cambria yn y gorllewin, Bryniau Maesyfed yn y dwyrain a'r Epynt yn y de. Mae'r afonydd sy'n dyrannu lloriau'r dyffryn yn cynnwys afonydd Hafren, Efyrnwy, Tanat, Gwy, Wysg, Irfon, Ieithon, Dyfi, Tefeidiad, Tawe a Llugwy.

Ffigur 2 - Map sy'n Dangos Topograffeg Powys

Map yn dangos topograffeg Powys

2.3 Aneddiadau a Lleoedd

Mae topograffeg Powys wedi golygu, yn hanesyddol, fod nifer mawr o aneddiadau a phrif lwybrau trafnidiaeth s leolir mewn dyffrynnoedd ar groesfannau afonydd pwysig ac, o ganlyniad i hyn, mae perygl o lifogydd yn cyfyngu ar nifer yr aneddiadau, fel y dangosir yn Ffigur 3.

Ffigur 3 - Prif Aneddiadau a Pherygl o Lifogydd Afon a Môr

Map o Bowys yn dangos y prif aneddiadau a pherygl llifogydd afonydd a môr

Mae cyfanswm o 14 tref yn ardal ACLl Powys, a dim ond un ohonynt, y Drenewydd, sydd â phoblogaeth o dros 10,000 o bobl. Mae ganddi nifer o bentrefi ac aneddiadau gwledig hefyd ynghyd ag anheddau mwy anghysbell a leolir mewn cefn gwlad agored. Mae lefelau amrywiol o ryngweithio cymdeithasol ac economaidd sy'n digwydd rhwng yr aneddiadau ac ag aneddiadau y tu allan i ffiniau ardal ACLl Powys.

2.4 Yr Amgylchedd

Mae pensaernïaeth Powys mor amrywiol â'i thirwedd, ac mae gan y mwyafrif o'i threfi a'i haneddiadau nodweddion amlwg o ran ffurfiau adeiladau neu aneddiadau sy'n eu gwneud yn rhwydd eu hadnabod. Mae'r cyfoeth o hanes pensaernïol yn ymestyn drwy bob cyfnod a phob math o adeilad.

Adlewyrchir ansawdd yr amgylchedd hanesyddol yn y nifer mawr o ddynodiadau amgylchedd hanesyddol sydd yn ardal ACLl Powys. Mae hyn yn cynnwys cyfanswm o 55 o ardaloedd cadwraeth, 10 tirwedd hanesyddol cofrestredig, 37 o barciau a gerddi cofrestredig, 3,938 o adeiladau rhestredig a 723 o henebion cofrestredig.[1]

Gan ei fod yn ACLl gwledig yn bennaf, mae cyfoeth o fioamrywiaeth, geoamrywiaeth ac adnoddau cadwraeth. Cydnabyddir nifer o'r rhain yn rhyngwladol ac yn genedlaethol gan gynnwys 225 Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, 13 Ardal Cadwraeth Arbennig, tair Ardal Gwarchodaeth Arbennig, un safle RAMSAR a naw Gwarchodfa Natur Genedlaethol. Ar lefel mwy lleol, mae gan Bowys 105 o Safleoedd Geoamrywiaeth o Bwys Rhanbarthol a 119 o safleoedd bywyd gwyllt lleol.

2.5 Mynediad a Thrafnidiaeth

Mae gan Bowys dros 9,250 km o hawliau tramwy cyhoeddus. Adloniant, gan gynnwys cerdded, beicio a marchogaeth, yw prif ddefnydd yr hawliau tramwy hyn. Yn ogystal â hyn, mae gan Bowys 150,000 hectar (579 milltir sgwâr) o dir mynediad agored sy'n 29% o'r holl dir ym Mhowys. Mae gan Bowys ddau lwybr cenedlaethol, Llwybr Clawdd Offa a Llwybr Glyndŵr. Mae llwybr Clawdd Offa yn 285 km (177 milltir) o hyd, ac mae 72 km (45 milltir) ohono yn sir Powys. Yn ogystal â'r ddau lwybr cenedlaethol, mae gan Bowys sawl llwybr o bwys rhanbarthol a hyrwyddir, gan gynnwys Llwybr Dyffryn Gwy, Ffordd Hafren, Llwybr Ann Griffiths, Cefnffordd Ceri, Pererindod Melangell a Llwybr Epynt.

Mae Powys yn cwmpasu arwynebedd o oddeutu 5,195 km² ac mae ganddi gyfanswm o 5,511km mewn hyd ffyrdd (sy'n 15.7% o'r holl ffyrdd yng Nghymru).[2]Gan mai sir wledig yw hi yn bennaf, mae canran uchel sy'n berchen ar gar, er bod cyfran is sy'n berchen ar gar mewn aneddiadau mwy, er enghraifft y Trallwng.

Powys sydd â'r gyfran uchaf o gefnffyrdd yng Nghymru, ac maent yn cyfrif am 27.3% o gefnffyrdd Cymru.[3]Oherwydd lleoliad Powys yng nghanol Cymru, mae angen i'r rhan fwyaf o draffig sy'n teithio i'r arfordir neu oddi yno yrru drwy Bowys. Mae rhai o'r ffyrdd hyn yn rhedeg drwy brif aneddiadau megis y Trallwng, Rhaeadr Gwy a Llanfair-ym-Muallt, sy'n achosi aflonyddwch traffig, yn enwedig yn ystod cyfnodau gwyliau.

Mae prif reilffordd y Cambria a rheilffordd Calon Cymru yn rhedeg drwy Bowys, gan deithio rhwng Aberystwyth a Birmingham Rhyngwladol (Prif linell y Cambria) a'r Amwythig i Abertawe (Calon Cymru). Mae'r rheilffyrdd hyn yn darparu cysylltiadau â dinasoedd mawr yn ogystal â'r arfordir.

Ar gyfer y mwyafrif o Bowys, mae gwasanaethau trafnidiaeth cyhoeddus naill ai'n absennol neu mae eu hamledd yn gyfyngedig, gyda gwasanaethau bysiau yn cysylltu'r prif drefi a'r pentrefi sydd yn y sir a thu allan iddi. Mae Asesiad Llesiant Powys yn dangos bod oddeutu hanner ardaloedd Powys ymhlith yr 20% gwaethaf yng Nghymru o ran y gallu i gael gafael ar wasanaethau.[4] Yn 2013, Powys oedd â'r gyfran uchaf o'r boblogaeth (28%) yng Nghymru a Lloegr a oedd yn byw mewn pentrefannau gwledig ac anheddau anghysbell.

2.6 Poblogaeth/Demograffeg

Yn ôl y Cyfrifiad, bu cynnydd o 0.1% ym mhoblogaeth Powys, o oddeutu 133,000 yn 2011 i oddeutu 133,200 yn 2021. Ar sail y dybiaeth bod 18% o boblogaeth Powys yn byw ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, amcangyfrifir mai 109,224 yw poblogaeth ardal ACLl Powys (ac eithrio Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog).

Powys sydd â'r dwysedd poblogaeth isaf o blith yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru, sef 26 o bobl fesul cilometr sgwâr.[5] Mae cyfran fawr o'r boblogaeth yn byw mewn Trefi (43%), fel y'u diffinnir gan y CDLl mabwysiedig, mae 19% yn byw mewn Pentrefi Mawr, ac mae 10% yn byw mewn Pentrefi Bach ac Aneddiadau Gwledig. Mae 28% o'r boblogaeth yn byw mewn Cefn Gwlad Agored.

Mae elfennau newid ym mhoblogaeth y Sir dros y blynyddoedd diwethaf wedi amlygu'r ffaith bod marwolaethau wedi bod yn fwy na genedigaethau yn gyson, gan ychydig o gannoedd fesul blwyddyn. Mudo i mewn ac allan, yw penderfynydd allweddol newid ym maint a strwythur y boblogaeth. Mae tueddiadau diweddar ym mhoblogaeth y Sir dros y deng mlynedd ddiwethaf wedi nodi enillion i'r boblogaeth net cyfartalog. Er gwaethaf hyn, mae Powys yn colli oedolion ifanc sydd yn eu harddegau hwyr hyd at eu hugeiniau cynnar. Mae'r rhesymau dros golli'r elfen hon o'r boblogaeth yn gyffredinol yn cynnwys ymadawyr ysgol yn chwilio am addysg bellach, a phobl ifanc yn chwilio am gyfleoedd cyflogaeth a thai fforddiadwy.

Yn ôl Cyfrifiad 2021, roedd 15.5% o boblogaeth Powys yn blant 0 i 15 oed, roedd 56.6% rhwng 15 a 64 oed ac roedd 27.8% yn 65 oed neu'n hŷn. Rhagwelir y bydd nifer y bobl o oedran gweithio yn parhau i ostwng. Yn y cyfamser, bydd nifer y bobl sydd dros oedran ymddeol yn cynyddu. Mae hyn yn golygu y bydd y gweithlu yn gyfran lai o gyfanswm y boblogaeth ac y bydd y gymhareb dibyniaeth henaint (pobl nad ydynt yn weithwyr o'u cymharu â gweithwyr) yn cynyddu.

2.7 Anheddau/Cartrefi

Yn ôl cyfrifiad 2021, 60,182 oedd cyfanswm yr aelwydydd ym Mhowys, a 2.19 oedd maint yr aelwyd gyfartalog. Amcangyfrifir bod 49,349 o'r aelwydydd hyn yn ardal ACLl Powys, a bod oddeutu 10,833 ohonynt yn byw ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae amcanestyniadau aelwydydd amrywiolyn uwch Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd cynnydd o 3.9% yn nifer yr aelwydydd ym Mhowys (ac eithrio Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog) yn ystod cyfnod 2022–2037. Mae hyn yn cyfateb i gynnydd o 1,931 o aelwydydd yn ystod cyfnod y CDLl Newydd.

Amcangyfrifwyd ym mis Mawrth 2022 fod 67,100 o anheddau ym Mhowys. Roedd 47,200 ohonynt yn eiddo i berchen-feddiannwr, roedd 11,300 yn cael eu gosod ar rent yn breifat, roedd 5,200 yn eiddo i Gyngor Sir Powys ac roedd 3,400 yn eiddo i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.[6]

Yn ystod y cyfnod monitro 1 Ebrill 2022–31 Mawrth 2023, cwblhawyd cyfanswm o 339 o anheddau, sy'n welliant parhaus ar flynyddoedd cynnar cyfnod y Cynllun mabwysiedig.[7]

Yn ystod cyfnod monitro 1 Ebrill 2022–31 Mawrth 2023, cwblhawyd cyfanswm o 124 o anheddau fforddiadwy, sy'n golygu bod CDLl mabwysiedig Powys (2011–2026) ar y trywydd iawn i gyflawni targed tai fforddiadwy y Cynllun.[8]

Mae Asesiad o'r Farchnad Dai Leol 2024 yn nodi lefel yr angen am dai ar gyfer anheddau y farchnad agored ac anheddau fforddiadwy ar gyfer Powys yn ogystal â 13 Ardal Marchnad Tai ar lefel leol. Yn seiliedig ar yr asesiad, mae angen 1,646 o anheddau marchnad a 1,036 o anheddau fforddiadwy, sef cyfanswm o 2,682 o anheddau dros gyfnod y cynllun ar gyfer ardal ACLl Powys. Yn Ardal Marchnad Tai y Trallwng a Threfaldwyn y mae'r angen cyffredinol mwyaf am dai. O ran tai cymdeithasol sy'n cael eu rhentu, am eiddo un a dwy ystafell wely y mae'r angen mwyaf, sy'n adlewyrchu'r duedd tuag at aelwydydd llai o ran maint.

2.8 Y Gymraeg

Yn ôl Cyfrifiad 2021, roedd 21,359 o siaradwyr Cymraeg ym Mhowys, sy'n 16.4% o'r boblogaeth gyfan. Ar adeg Cyfrifiad 2011, 18.6% oedd canran y siaradwyr Cymraeg. Felly, bu gostyngiad yn y boblogaeth sy'n siarad Cymraeg ym Mhowys. Mae Powys yn parhau i fod yn yr wythfed safle ymhlith awdurdodau lleol yng Nghymru o ran canran y siaradwyr Cymraeg tair oed a throsodd. Yn ôl data Cyfrifiad 2021, mae gan 25% o drigolion Powys ryw gyfuniad o sgiliau Cymraeg. Yn nodedig, ceir y dwyseddau uchaf o siaradwyr Cymraeg yng ngogledd a de-orllewin y Sir.

2.9 Yr Economi/Swyddi

Gyda'i thirwedd ucheldirol prin ei phoblogaeth a chysylltedd gwael, ychydig iawn o gyflogwyr mawr sydd gan Bowys (h.y. busnesau â 250+ o gyflogeion) y tu allan i'r sector cyhoeddus. 31.3% o'r rhai cyflogedig ym Mhowys sy'n hunangyflogedig, ond 12.2% yw canran gyfartalog y cyflogeion hunangyflogedig yng Nghymru. Yn yr un modd, 32.2% yw'r ganran sydd mewn cyflogaeth ran-amser ym Mhowys, sy'n uwch na'r 26.4% sydd mewn cyflogaeth ran-amser yng Nghymru.[9]

Mae twristiaeth yn gweithredu fel conglfaen wrth gefnogi'r economi leol, gan ddenu ymwelwyr â harddwch, pellenigrwydd a thawelwch y dirwedd ynghyd â chyfleoedd hamddena diwylliannol, amaethyddol, treftadaeth ac awyr agored.

Heblaw twristiaeth, mae amaethyddiaeth, drwy ffermydd defaid ucheldirol bach teuluol yn bennaf, hefyd yn biler allweddol i'r economi leol. Mae ffermio a choedwigaeth wedi llunio tirwedd, diwylliant a phobl Powys ers cenedlaethau lawer. Yn 2020, roedd 4,935 o ddaliadau amaethyddol ym Mhowys, sef un rhan o bump o'r daliadau yng Nghymru. Roedd 6,900 o weithwyr yn gweithio yn y diwydiant amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota yn 2022.[10]

Y tri sector cyflogaeth mwyaf ym Mhowys yn ôl canran y swyddi oedd gweinyddiaeth gyhoeddus, addysg ac iechyd (31%), dosbarthu, gwesty a bwyty (17%), a bancio, cyllid ac yswiriant (13%).[11]

Gan ddefnyddio data a ddarparwyd gan y SYG, 2.3% o bobl 16–64 oed ym Mhowys oedd yn hawlio budd-daliadau sy'n gysylltiedig â diweithdra ym mis Mawrth 2024. Roedd 22.1% o'r boblogaeth 16–64 oed yn economaidd weithgar ym Mhowys o'i chymharu â 23% ledled Cymru.[12]

2.10 Adwerthu, Adloniant a Hamdden

Ar gyfer gweithgareddau adloniant a hamdden ym Mhowys, mae lefel a math y ddarpariaeth yn amrywio ledled y sir. Lleolir gweithgareddau ffurfiol sydd wedi eu trefnu yn y prif drefi ac mewn aneddiadau mwy yn bennaf. Mae 16 canolfan hamdden ledled Powys ar hyn o bryd, gan gynnwys y rhai sydd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae'r ddarpariaeth adwerthu ym Mhowys yn canolbwyntio ar ei threfi hanesyddol. Y Drenewydd, fel canolfan isranbarthol, sydd â'r cyfleusterau siopa mwyaf a mwyaf amrywiol yn ardal ACLl Powys. Mae gan yr ardal bum prif dref: y Trallwng, Llanidloes, Llandrindod, Machynlleth a Llanfair-ym-Muallt, sy'n gwasanaethu ardaloedd gofodol mawr ac yn diwallu'r anghenion am siopau a gwasanaethau lleol nas diwellir mewn trefi eilaidd a lleol. Mae trefi eilaidd Rhaeadr Gwy, Trefyclo, Ystradgynlais a Llanandras o raddfa lai ac, yn nodweddiadol, anghenion lleol gyda rhywfaint o ddarpariaeth arbenigol y mae dalgylchoedd lleol llai yn eu diwallu. Ategir yr hierarchaeth hon gan drefi lleol a allai ddarparu eitemau hanfodol y mae eu hangen i ddiwallu anghenion dydd i ddydd, gan gynnwys Llanfyllin, Trefaldwyn, Llanfair Caereinion a Llanwrtyd.

I'r trigolion sy'n byw yn ardaloedd gwledig y Sir, mae eu bywyd bob dydd yn dibynnu ar gyfleusterau adwerthu lleol megis siopau pentref, is-swyddfeydd post, tafarndai a siopau fferm i raddau helaeth, sy'n bwysig o ran cefnogi bywiogrwydd a hyfywedd pentrefi gwledig, gan ddarparu mynediad rhwydd at ddarpariaethau sylfaenol (yn enwedig i'r rhai y mae eu symudedd yn gyfyngedig).


Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig