Y Strategaeth a Ffefrir
5. Gweledigaeth ac Amcanion
5.1 Gweledigaeth y Cynllun
Mewn ymateb i'r Materion Allweddol, mae'r Weledigaeth ganlynol wedi ei diffinio ar gyfer CDLl Newydd Powys.
Erbyn 2037, bydd ardal cynllun Powys:
Yn lle o gymunedau bywiog, llwyddiannus ac sydd â chysylltiadau da gan gynnwys trefi a phentrefi ffyniannus sy'n darparu ar gyfer twf cynaliadwy mewn cartrefi a swyddi newydd, ac yn darparu mynediad da at wasanaethau a chyfleoedd cyflogaeth.
Yn rhan o ranbarth mwy cynhyrchiol, mentrus a nodedig sy'n cefnogi busnesau presennol, economi estynedig, a gwell rhagolygon swyddi ar sail arloesedd sy'n gysylltiedig â gweithlu medrus. Bydd sectorau economaidd sylfaenol, gan gynnwys ffermio, twristiaeth, ac adloniant a hamdden, yn parhau â'u rôl allweddol a bydd yr economi wledig yn gryf ac yn amrywiol.
Yn elwa ar ddull strategol tuag at Seilwaith Gwyrdd, gan sicrhau ei fod yn cael ei hybu a'i ddiogelu er budd lluosog i fywyd gwyllt a phobl, ac yn hwyluso gwell rhwydweithiau ecolegol.
Erbyn 2037,
Bydd cymunedau ledled ardal y cynllun wedi datblygu mewn ffordd sy'n galluogi ac yn cefnogi:
- Cymunedau sy'n gytbwys o ran oedran sy'n byw'n dda mewn lleoedd sy'n diwallu anghenion cymdeithasol, economaidd, Cymraeg a diwylliannol.
- Natur i ffynnu drwy fantais net i fioamrywiaeth ac ecosystemau cadarn.
- Y broses o addasu i newid hinsawdd a'r newid tuag at sero net.
Bydd preswylwyr yn byw bywydau mwy diogel, iachach a gwyrddach drwy ddarpariaeth datblygiadau sydd wedi eu cynllunio'n dda mewn amgylchedd ffisegol a diwylliannol rhagorol.
Bydd y cyfoeth o adnoddau yn yr amgylcheddau naturiol, adeiledig a hanesyddol, gan gynnwys tirweddau eiconig, yn cael eu cynnal, eu diogelu, eu gwella a'u gwerthfawrogi, gan lunio etifeddiaeth defnydd tir cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
5.2 Pennu Amcanion
Er mwyn bodloni a chyflawni'r Weledigaeth, cynigir 22 o Amcanion ar gyfer y CDLl Newydd. Mae'r Amcanion wedi eu grwpio o dan y categorïau pwnc canlynol sy'n deillio o'r Materion Allweddol ac yn nodi'r bwriadau eang hyd at 2037 o ran rheoli datblygiad.
- Newid Hinsawdd.
- Adfer Natur a Rheoli Adnoddau yn Gynaliadwy.
- Egwyddorion Cynllunio Allweddol, Creu Lleoedd, Iechyd a Llesiant.
- Cymunedau Cynaliadwy, Tai a Gwasanaethau.
- Economi Cynaliadwy a Bywiog.
- Seilwaith, Ynni a Gwastraff.
5.3 Amcanion a Chanlyniadau CDLl Newydd
Newid Hinsawdd
Materion Allweddol:
- Mater Allweddol 1 Ymateb i Newid Hinsawdd
Amcan 1 - Newid Hinsawdd
- Sicrhau bod datblygiadau newydd a defnydd tir yn gydnerth i effeithiau newid hinsawdd, a mynd i'r afael yn weithredol ag achosion ac effeithiau newid hinsawdd drwy leihau gymaint â phosibl, addasu a lliniaru er mwyn cefnogi'r uchelgais genedlaethol o gyrraedd sero net erbyn 2050.
- Cefnogi gweithredoedd, dulliau, ymyriadau a chynigion datblygu sy'n gyson â blaenoriaethau a chynlluniau Corfforaethol a Strategol (e.e. cynlluniau gweithredu ar raddfa Powys) sy'n mynd i'r afael â'r her o ymaddasu i newid hinsawdd, a'i liniaru.
Adfer Natur a Rheoli Adnoddau yn Gynaliadwy
Materion Allweddol:
- Mater Allweddol 2 Cefnogi Adferiad Natur
- Mater Allweddol 3 Gofalu am Adnoddau
Amcan 2 - Adfer Natur
- Cefnogi adferiad natur a mynd i'r afael â dirywiad bioamrywiaeth drwy ddiogelu, cynnal, adfer a gwella cydnerthedd amgylchedd naturiol Powys, gan gynnwys cynefinoedd, bioamrywiaeth a geoamrywiaeth.
- Sicrhau bod datblygiadau newydd, gan gynnwys cynigion fferm, yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at adfer natur drwy ddarparu mantais net i fioamrywiaeth a seilwaith gwyrdd (gan gynnwys seilwaith gwyrdd strategol pan fo hynny'n berthnasol).
- Sicrhau bod datblygiad newydd yn hwyluso'r proses o gyflawni bioamrywiaeth a chydnerthedd yr ecosystem (gan gynnwys gwrthdroi dirywiad i'r ecosystem) drwy wella rhwydweithiau ecolegol drwy amrywiaeth, rhychwant, cyflwr a chysylltedd.
- Defnyddio fframwaith seilwaith gwyrdd strategol wrth gynllunio datblygiad lleol (e.e. mapio, gwarchod a nodi cyfleoedd), a ddylunnir mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid eraill, er mwyn integreiddio a chydgysylltu ymdrechion adfer natur yn well, a chyflawni gwell effeithiolrwydd.
Amcan 3 - Amgylcheddau Naturiol, Hanesyddol ac Adeiledig
Rheoli adnoddau naturiol Powys yn gynaliadwy a diogelu, cadw, gwella ac adfer yr amgylchedd naturiol, hanesyddol ac adeiledig, gan gynnwys:
- Dynodiadau amgylcheddol.
- Rhinweddau amgylcheddol megis aer glân, cynefinoedd ac ansawdd dŵr.
- Dynodiadau amgylchedd hanesyddol gan gynnwys y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol.
- Nodweddion a rhinweddau tirwedd arbennig ardal y Cynllun a nodweddion a rhinweddau ardaloedd cyfagos, gan gynnwys Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol.
- Asedau adloniant, gan gynnwys llwybrau dynodedig, rhwydweithiau beicio a hawliau tramwy cyhoeddus a mannau agored eraill a werthfawrogir ar gyfer chwaraeon, adloniant a hamdden (fel y'u cynhwysir yn nodweddiadol mewn Asesiad Mannau Agored).
- Gwarchod (yn unol â pholisi cenedlaethol) llwybrau a rhwydweithiau teithio llesol, cyfnewidfeydd trafnidiaeth cyhoeddus presennol, ardaloedd a gynigir ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth (seilwaith a llwybrau), ardaloedd mwynau, cynefinoedd arfordirol, a thir comin.
- Asedau strategol eraill yn ardal y Cynllun, er enghraifft tiroedd hyfforddi'r Weinyddiaeth Amddiffyn, Camlas Trefaldwyn, a'r tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas (graddau 1, 2 a 3a).
Amcan 4-Adnoddau Mwynau
Gwarchod dyddodion mwynau rhag cael eu sterileiddio a darparu'n gadarnhaol ar gyfer gweithio adnoddau mwynau yn gynaliadwy er mwyn diwallu anghenion cymdeithas yn awr ac yn y dyfodol, gan sicrhau bod cyflenwad digonol o fwynau ar gael yn yr hirdymor.
Egwyddorion Cynllunio Allweddol, Creu Lleoedd, Iechyd a Llesiant
Materion Allweddol:
- Mater Allweddol 4 Hybu Trafnidiaeth Gynaliadwy
- Mater Allweddol 6 Cynllunio ar gyfer Llesiant
- Mater Allweddol 7 Cefnogi Ffyrdd Iach o Fyw
- Mater Allweddol 8 Datblygu Iawn yn y Lle Iawn
- Mater Allweddol 15 Creu Lleoedd yn Lleol
Amcan 5 - Teithio Cynaliadwy
Sicrhau bod datblygiadau newydd yn cydymffurfio â'r hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy sy'n golygu, pryd bynnag y bo modd, eu bod yn cael eu lleoli a'u dylunio â'r nod o leihau'r angen i deithio ac o alluogi dewis o opsiynau trafnidiaeth cynaliadwy i bawb. Mae hyn yn cynnwys darparu cyfleoedd teithio llesol megis llwybrau beicio a cherdded er mwyn annog ffyrdd iachach o fyw, gwella hawliau tramwy cyhoeddus mewn cysylltiad â datblygiadau, a defnyddio dyluniadau da er mwyn sicrhau bod llwybrau sy'n cysylltu defnyddwyr â gwasanaethau a chyfleusterau yn athraidd, yn ddarllenadwy, yn uniongyrchol, yn gyfleus, yn ddeniadol ac yn ddiogel. O ystyried natur wledig ardal y Cynllun, anogir datblygu seilwaith gwefru Cerbydau Allyriadau Isel Iawn.
Amcan 6 - Creu Lleoedd
Hybu "datblygiad iawn yn y lle iawn" drwy ddull sy'n canolbwyntio ar greu lleoedd sy'n llunio twf cynaliadwy mewn mannau cydnerth ledled ardal y Cynllun. Bydd angen i ddatblygiad newydd gyflawni egwyddorion cynllunio allweddol, mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur, bodloni'r canlyniadau creu lleoedd cynaliadwy cenedlaethol ac ymateb yn gadarnhaol i'r amcanion dylunio da a ddiffinnir mewn polisi cenedlaethol (arfarnu cyd-destun, mynediad, symud, cymeriad, diogelwch cymunedol a chynaliadwyedd amgylcheddol).
Amcan 7 - Twf Cynaliadwy
Darparu fframwaith ar gyfer twf cynaliadwy ledled Powys sy'n gwarchod adnoddau ac yn galluogi cymunedau i ffynnu. Rhoddir arwyddocâd i'r Ardaloedd Twf Rhanbarthol mewn hierarchaeth aneddiadau cynaliadwy sy'n cydbwyso'r ddarpariaeth o gartrefi, swyddi, gwasanaethau a chyfleusterau ac sy'n hybu patrymau teithio cynaliadwy.
Amcan 8 - Iechyd a Llesiant
Cefnogi iechyd a llesiant trigolion Powys drwy sicrhau bod lleoedd yn newid ac yn datblygu i gefnogi iechyd a llesiant corfforol a meddyliol. Mae hyn yn golygu:
- Ceisio cyfleoedd sy'n cyfrannu at ffyrdd o fyw mwy corfforol a llesol, gan gynnwys: darparu cyfleusterau teithio llesol, chwaraeon, chwarae, adloniant ac amwynder; datblygu rhwydwaith seilwaith gwyrdd er budd pobl a bywyd gwyllt; sicrhau bod hawliau tramwy cyhoeddus yn cael eu cynnal yn dda er mwynhad defnyddwyr; a hybu rhwyddineb mynediad i bawb mewn datblygiadau newydd.
- Bydd y Cynllun yn defnyddio egwyddorion creu lleoedd i gyflawni tir y cyhoedd gwell, sydd wedi ei ddylunio'n dda, sy'n hybu cwmpas ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol ochr yn ochr â mannau ar gyfer gorffwys, ymlacio a myfyrio tawel. Bydd mannau gwyrdd a glas yn cael eu diogelu, eu hadfer a'u gwella ar gyfer eu buddion amlswyddogaethol, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at lesiant corfforol a meddyliol.
- Gwneud cysylltiadau rhwng cynllunio datblygu a nodau Cynllun Llesiant Powys er mwyn ategu ei nodau ar gyfer gwella llesiant cenedlaethau'r dyfodol.
- Cefnogaeth i fentrau sy'n cysylltu prynwyr yn fwy uniongyrchol â chynnyrch lleol, gan wella'r gallu i gael gafael ar fwyd a diod ffres, amrywiol ac iach.
Cymunedau Cynaliadwy, Tai a Gwasanaethau
Materion Allweddol:
- Mater Allweddol 5 Ymateb i Heriau Demograffig
- Mater Allweddol 9 Hybu a Diogelu'r Gymraeg
- Mater Allweddol 10 Cynllunio ar gyfer Cartrefi Newydd
- Mater Allweddol 17 Cefnogi Cyfleusterau Cymunedol ac Asedau Cymunedol
Amcan 9 - Aneddiadau a Chymunedau Cynaliadwy
Cefnogi cymunedau cryfach, mwy diogel, iachach, mwy cysylltiedig a bywiog drwy ystyried anghenion pob elfen o gymdeithas, gan gynnwys pob grŵp oedran a goblygiadau poblogaeth sy'n heneiddio. Bydd datblygiadau newydd yn defnyddio egwyddorion creu lleoedd i sbarduno canlyniadau economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol buddiol gan greu lleoedd lleol sy'n gytbwys o ran oedran, sy'n gynaliadwy ac yn ffyniannus, sy'n optimeiddio iechyd a llesiant cymunedol ac sy'n mynd i'r afael â materion amddifadedd ac allgáu cymdeithasol yn ogystal ag ymateb yn briodol i'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur.
Bydd datblygiadau newydd yn gynaliadwy o ran dyluniad ac adeiladu, gan greu eiddo effeithlon o ran ynni sy'n lleihau costau rhedeg gymaint â phosibl ac yn darparu ar gyfer hyblygrwydd ac yn paratoi at y dyfodol.
Amcan 10 - Diwallu Anghenion y Dyfodol
Adeiladu cymunedau cryfach, tecach a gwyrddach ledled trefi, pentrefi ac ardaloedd gwledig Powys drwy ddiwallu'r anghenion a nodir ar gyfer cartrefi a swyddi, gan sicrhau seilwaith ategol. Cynllunio twf newydd yn unol â hierarchaeth aneddiadau cynaliadwy, gan ddarparu ar gyfer cyfleoedd newydd a gwell i bobl ddod i fyw a gweithio ym Mhowys.
Amcan 11 - Y Gymraeg
Meithrin y Gymraeg ledled Powys drwy ddiogelu cadarnleoedd Cymraeg a chefnogi mentrau diwylliannol, addysg ac iaith Cymraeg.
Amcan 12 - Anghenion Tai
Diwallu anghenion tai ardal y Cynllun drwy sicrhau bod y nifer, yr amrywiaeth a'r cymysgedd iawn o gartrefi newydd cynaliadwy o ansawdd uchel yn cael eu darparu yn ystod cyfnod y Cynllun yn unol â'r hierarchaeth aneddiadau cynaliadwy. Mae hyn yn cynnwys darparu:
- Digon o gartrefi i ddiwallu anghenion y farchnad a thai fforddiadwy.
- Cartrefi sy'n diwallu anghenion tai arbenigol sy'n deillio o'r boblogaeth gan gynnwys cartrefi ar gyfer pobl hŷn, tai hygyrch ac addasedig, tai gyda gofal a chymorth.
- Cartrefi sy'n fforddiadwy ac yn hygyrch i bobl leol yn eu cymunedau eu hunain gan gynnwys hwyluso cynlluniau tai a arweinir gan y gymuned, cydweithredol, adeiladu tai pwrpasol a hunanadeiladu.
- Amrywiaeth addas o gartrefi fesul lleoliad, math a dyluniad, sy'n ddeniadol i wahanol sectorau o'r boblogaeth, gan gynnwys prynwyr tro cyntaf, cartrefi ar gyfer aelwydydd llai a chartrefi ar gyfer gweithwyr allweddol a gweithwyr sy'n dod i mewn.
- Safle(oedd) a lleiniau ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr i ddiwallu angen a nodir.
Amcan 13 - Cyfleusterau ac Asedau Cymunedol
Cefnogi mannau cydnerth a chadarn a llesiant cymunedau drwy warchod mannau agored cyhoeddus a chyfleusterau chwaraeon (e.e. mannau chwarae, tir amwynder, rhandiroedd), cyfleusterau cymunedol pwysig (e.e. siopau, tafarndai, neuaddau pentref, canolfannau ieuenctid, y celfyddydau, lleoliadau addysg a diwylliannol) ac asedau lleol eraill (e.e. rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus, tir comin a llwybrau teithio llesol), gan sicrhau gwell darpariaeth neu welliant yn rhan o ddatblygiad newydd.
Economi Cynaliadwy a Bywiog
Materion Allweddol:
- Mater Allweddol 11 Cynllunio ar gyfer Economi Fywiog
- Mater Allweddol 12 Cynllunio ar gyfer Ffermio Cryf ac Economi Wledig
- Mater Allweddol 13 Cefnogi Bargen Twf Canolbarth Cymru
- Mater Allweddol 14 Cefnogi Twristiaeth
- Mater Allweddol 18 Cefnogi Stryd Fawr Powys
Amcan 14 - Economi Fywiog
Cefnogi ffyniant economaidd a diwallu anghenion cyflogaeth, gan gynnwys gwarchod yr amrywiaeth a'r cyflenwad o safleoedd cyflogaeth, drwy annog arloesedd ac uwchsgilio'r gweithlu, helpu Powys i gyflawni cymunedau lleol cryf ac i gadw a denu gweithlu sy'n fwy cytbwys a chystadleuol.
Amcan 15 - Datblygu Economaidd
Cefnogi datblygiad economaidd newydd sy'n gyson â hierarchaeth aneddiadau cynaliadwy sy'n diwallu anghenion busnesau lleol gan gynnwys cynigion sy'n cryfhau'r economi sylfaenol, megis amaethyddiaeth, gweithgynhyrchu, twristiaeth, ac adeiladu, a chynigion datblygu sy'n cefnogi amrywiaeth gwledig cynaliadwy ac yn ychwanegu gwerth at gynnyrch lleol.
Amcan 16 - Bargen Twf Canolbarth Cymru
Cefnogi twf economaidd drwy gyfrannu at nodau Tyfu Canolbarth Cymru a hwyluso cynigion sy'n deillio o Fargen Twf Canolbarth Cymru.
Amcan 17 - Twristiaeth
Cefnogi twristiaeth gynaliadwy, gan gynnwys twristiaeth llesol, gwyrdd a diwylliannol, gan warchod (gan gynnwys gofalu, gwella ac adfer) adnoddau ac asedau pwysig sy'n gysylltiedig â thwristiaeth, megis yr amgylchedd naturiol, adeiledig a hanesyddol, llwybrau cenedlaethol, hawliau tramwy cyhoeddus, y rhwydwaith beicio cenedlaethol, awyr dywyll, tirweddau unigryw a mannau agored.
Amcan 18 - Canol Trefi
Hybu strydoedd mawr bywiog, deniadol a dichonol a chanol trefi ffyniannus drwy sicrhau bod datblygiadau adwerthu a masnachol newydd yn cael eu cyfeirio at ganol trefi yn y lle cyntaf, gan warchod ffryntiadau presennol ac annog cymysgedd o ddefnyddiau ategol. Bydd cynigion a amlinellir mewn Cynlluniau Buddsoddi mewn Canol Tref, Cynlluniau Lleoedd a Chreu Lleoedd neu fentrau lleol eraill yn cael eu cefnogi mewn egwyddor.
Seilwaith, Ynni a Gwastraff
Materion Allweddol:
- Mater Allweddol 16 Cynllunio Seilwaith ac Anghenion Gwasanaeth
- Mater Allweddol 19 Cefnogi Ynni Cynaliadwy: Rheoli Pŵer Gwyrdd a Hybu Effeithlonrwydd Ynni
- Mater Allweddol 20 Rheoli a Lleihau Gwastraff
Amcan 19 - Darparu'r Seilwaith, y Cyfleustodau a'r Gwasanaethau sy'n Ofynnol ar gyfer Datblygiad Newydd
Sicrhau bod seilwaith ffisegol a digidol priodol, gan gynnwys cyfleustodau a gwasanaethau megis iechyd ac addysg ar waith neu y gellir ei ddarparu drwy gyfraniadau datblygu priodol er mwyn diwallu'r anghenion sy'n deillio o ddatblygiad newydd. Cefnogi'r broses o ddarparu'r rhain yn effeithlon drwy leoli'r rhan fwyaf o'r twf mewn lleoedd a wasanaethir orau gan seilwaith a gwasanaethau presennol neu arfaethedig, gan gynnwys lleoedd a nodir mewn Ardaloedd Twf Rhanbarthol.
Amcan 20 - Darparu Prosiectau Seilwaith a Chysylltedd Digidol
Cefnogi'r broses o ddarparu seilwaith a gwasanaethau newydd neu uwchraddedig yn gynaliadwy er mwyn diwallu anghenion newidiol cymdeithas a chymunedau ym Mhowys. Mae hyn yn cynnwys darparu ac uwchraddio cysylltiadau ar gyfer gweithrediadau digidol a ffonau symudol, er mwyn sicrhau cwmpas seilwaith digidol gwell ledled ardal y Cynllun.
Amcan 21 - Ynni a Datgarboneiddio
Lleihau'r galw am ynni o ddatblygiadau newydd, hybu effeithlonrwydd ynni a chefnogi'r broses o gynhyrchu ynni yn adnewyddadwy, gan leihau gymaint â phosibl y defnydd o adnoddau nad ydynt yn adnewyddadwy, annog datgarboneiddio, ac atal gwastraff a llygredd rhag cael eu cynhyrchu. Er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, bydd y CDLl Newydd yn cyfrannu'n rhagweithiol tuag at gyflawni targedau cenedlaethol ar gyfer ynni adnewyddadwy a charbon isel.
Gan ddefnyddio'r fframwaith polisi a nodir yn Cymru'r Dyfodol, bydd datblygiadau ynni adnewyddadwy a charbon isel a seilwaith cysylltiedig yn cael eu hwyluso mewn lleoliadau priodol pan fo hynny'n gydnaws ag Amcanion eraill, gan gynnwys diogelu adnoddau a chefnogi adferiad natur. Bydd angen darparu ar gyfer newidiadau seilwaith carbon isel eraill, megis newid i gerbydau preifat Cerbydau Allyriadau Isel Iawn, ym mhob datblygiad.
Amcan 22 - Gwastraff
Darparu amrywiaeth o safleoedd sy'n addas ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff gan gynnwys y rhai sy'n cynyddu ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff fel dewis arall i safleoedd tirlenwi, ynghyd â lleihau swm y gwastraff a gynhyrchir o ddatblygiad yn ystod y broses adeiladu a defnyddio.