Y Strategaeth a Ffefrir

Daeth i ben ar 7 Hydref 2024

8. Y Strategaeth a Ffefrir

Nod y Strategaeth a Ffefrir trosfwaol yw cyflawni a chwblhau Gweledigaeth ac Amcanion y cynllun. Mae wedi dod i'r amlwg o ystyried a dadansoddi'r dewisiadau twf a gofodol ac ystyriaethau eraill, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i'r hyn a ganlyn:

  • Mynd i'r afael â'r Materion Allweddol ac ymateb iddynt.
  • Cysondeb â Cymru'r Dyfodol, polisïau a strategaethau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.
  • Diwallu'r anghenion a nodir trwy dystiolaeth, gan gynnwys yr Asesiad o'r Farchnad Dai Lleol a'r Asesiad Anghenion Cyflogaeth.
  • Canfyddiadau o dystiolaeth ategol: Asesiad o Aneddiadau, Asesiad o Aneddiadau Bach, Dadansoddiad Clwstwr, Strategaeth Trafnidiaeth, Cynllunio Integredig a Dull Gwledig, papurau cefndir Cyfraddau Tai Gwag a Thai Arbenigol, Ail Gartrefi a Llety Gwyliau Tymor Byr a'r Cyflenwad Tir ar gyfer Tai.
  • Yr Asesiad Cynaliadwyedd Integredig cychwynnol.
  • Yr Adroddiadau Monitro Blynyddol ac Adroddiad Adolygu CDLl Mabwysiedig Powys (2011–2026).
  • Cyfranogiad a sylwadau rhanddeiliaid, ac ymgysylltu â nhw.

Mae'r Strategaeth a Ffefrir yn cynnig graddfa twf ar gyfer tai a chyflogaeth a fydd yn cael eu cyflawni yn ystod cyfnod cynllun 2022–2037 i ddiwallu'r anghenion a nodir. Yn ofodol, mae'r strategaeth yn dosbarthu'r twf hwn drwy'r Hierarchaeth Aneddiadau Cynaliadwy, Clystyrau Ardal Twf Rhanbarthol, Clystyrau Lleol a'r Ardaloedd Gwledig, gan gynnwys Aneddiadau nad ydynt yn rhan o Glwstwr.

Mae'r Strategaeth a Ffefrir yn defnyddio'r Dewis Twf Uwch (senario 10 Mlynedd Dan Arweiniad Anheddau) a'r Dewis Gofodol Rhanbarthol dan Arweiniad Ardaloedd Twf Rhanbarthol (Twf â Phwyslais) ac fe'i disgrifir yn y Datganiad Strategaeth a ganlyn:

  • Mae'r Strategaeth CDLl Newydd yn canolbwyntio'r rhan fwyaf o'r twf i aneddiadau yng Nghlystyrau Ardal Twf Rhanbarthol Bro Hafren a Chalon Cymru, gan alluogi lefelau twf is mewn aneddiadau sydd mewn Clystyrau Lleol. Mewn rhannau eraill o ardal y Cynllun, bydd y datblygiad yn gymesur ac yn canolbwyntio ar gyflawni cymunedau gwledig cynaliadwy, gan ddiwallu dyheadau lleol a'r anghenion a nodir. Cyfeirir y datblygiad ledled pob ardal at aneddiadau haenau uwch gan sicrhau bod y datblygiad yn yr ardaloedd lleiaf cynaliadwy yn cael ei reoli'n agos.
     
  • Mae'r Strategaeth yn cefnogi cymunedau cryf sydd â chysylltiadau da, yn adlewyrchu rôl Powys yn Rhanbarth Canolbarth Cymru ac yn cydnabod pwysigrwydd twf economaidd a'r economi wledig. Mae'r Strategaeth yn galluogi penderfyniadau rheoli datblygu i gael eu gwneud o'u cymharu â fframwaith lle mae egwyddorion datblygu cynaliadwy a chreu lleoedd, ynghyd â gwarcheidwaeth yr amgylchedd adeiledig a hanesyddol naturiol wedi eu gwreiddio'n llawn, wrth geisio galluogi bioamrywiaeth i ffynnu a mynd i'r afael â heriau newid hinsawdd.

8.1 Y Diagram Allweddol

Mae'r Diagram Allweddol yn dangos y strategaeth CDLl Newydd sy'n dangos lleoliadau'r Clystyrau Ardal Twf Rhanbarthol, Clystyrau Lleol a'r Hierarchaeth Aneddiadau Cynaliadwy.

Ffigur 10 - Diagram Allweddol

Map o Bowys yn dangos y clystyrau ardaloedd twf rhanbarthol, clystyrau lleol a'r hierarchaeth aneddiadau cynaliadwy

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig