Y Strategaeth a Ffefrir

Daeth i ben ar 7 Hydref 2024

3. Y Cyd-destun Polisi Cenedlaethol, Rhanbarthol a Lleol

3.1 Y Cyd-destun Cenedlaethol

Deddfwriaeth

Deddf Cynllunio (Cymru) 2015

Mae'r Ddeddf hon yn nodi cyfres o newidiadau deddfwriaethol i ddiwygio'r system gynllunio yng Nghymru er mwyn sicrhau ei bod yn deg, yn gadarn ac yn galluogi datblygiad. Un o amcanion allweddol y Ddeddf oedd cryfhau'r dull a arweinir gan gynllun drwy gyflwyno sail gyfreithiol ar gyfer y broses o baratoi Fframwaith Datblygu Cenedlaethol-a gyhoeddwyd fel Cymru'r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040 (cyhoeddwyd ym mis Chwefror 2021) a Chynlluniau Datblygu Strategol rhanbarthol. Cadarnhaodd ddiben statudol y system gynllunio yng Nghymru wrth ddatgan bod yn rhaid i unrhyw gorff statudol sy'n cyflawni swyddogaeth gynllunio ymarfer y swyddogaethau hynny yn unol ag egwyddorion datblygu cynaliadwy fel y'u nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Bydd yn ofynnol i'r CDLl Newydd ddangos cydymffurfiaeth â'r ddyletswydd hon.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

Mae Deddf hon yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i ddatblygu mewn ffordd gynaliadwy. Mae'r Ddeddf wedi sefydlu saith nod llesiant: Cymru Lewyrchus; Cymru Gydnerth; Cymru Iachach; Cymru sy'n Fwy Cyfartal; Cymru o Gymunedau Cydlynus; Cymru â Diwylliant Bywiog Lle mae'r Gymraeg yn Ffynnu; Cymru sy'n Gyfrifol ar Lefel Fyd-eang.

Mae hefyd yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ystyried y pum ffordd o weithio sydd yn y Ddeddf, sef ffactorau cynnwys, cydweithio, integreiddio, atal, a hirdymor.

Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

Cyflwynodd y Ddeddf hon ddeddfwriaeth newydd ar gyfer yr amgylchedd ac mae'n darparu fframwaith ailadroddol sy'n sicrhau y bydd rheoli adnoddau naturiol Cymru'n gynaliadwy yn ystyriaeth graidd wrth wneud penderfyniadau. Mae'n cynnwys gwell dyletswydd bioamrywiaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus gynnal a gwella bioamrywiaeth a hybu cydnerthedd ecosystemau.

Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013

Nod Deddf Teithio Llesol (Cymru) yw hybu cerdded a beicio fel dull deniadol o deithio ar gyfer teithiau pwrpasol, h.y. i fynd i'r gwaith neu'r ysgol, neu i gael mynediad at siopau a gwasanaethau. Mae'n ceisio meithrin trawsnewidiad parhaol o ran sut y cynllunnir i ddatblygiadau ymgorffori seilwaith cerdded a beicio o'r cychwyn cyntaf, yn ogystal ag annog newid ymddygiad hirdymor.

Mae'r Ddeddf yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol i gynllunio ar gyfer llwybrau addas ar gyfer teithio llesol, i gynhyrchu mapiau teithio llesol, i ystyried anghenion cerddwyr a beicwyr ac i gyflawni gwelliannau mewn llwybrau a chyfleusterau teithio llesol.

Y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol (Mawrth 2021)

Daeth y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn Neddf Cydraddoldeb 2010 i rym yng Nghymru ar 31 Mawrth 2021 a'i nod yw annog gwell penderfyniadau a lleihau anghydraddoldeb sy'n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol. Mae'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus perthnasol pan maent yn gwneud penderfyniadau strategol, er enghraifft penderfyniadau sy'n gysylltiedig â chynlluniau datblygu polisïau strategol a datblygu, roi sylw dyledus i'r angen i leihau anghydraddoldeb o ran canlyniad sy'n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol. Dylai cyrff cyhoeddus perthnasol ddangos tystiolaeth o lwybr archwilio clir ar gyfer yr holl benderfyniadau a wneir o dan y ddyletswydd, gan ddefnyddio prosesau sydd eisoes yn bodoli, megis prosesau asesu effaith a systemau ymgysylltu. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ac adnoddau statudol er mwyn cefnogi cyrff cyhoeddus i fodloni gofynion y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol.

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) (2017)

Mae'r Ddeddf hon yn gwneud newidiadau i'r gyfraith yng Nghymru, er mwyn gwella iechyd ac atal niwed i iechyd y gellir ei osgoi. Mae'n pennu darpariaethau ar gyfer gwneud gwelliannau i iechyd gan gynnwys i Weinidogion Cymru gyhoeddi strategaeth genedlaethol ar fynd i'r afael â gordewdra a gwneud rheoliadau ynghylch cynnal Asesiadau o'r Effaith ar Iechyd gan gyrff cyhoeddus. Mae'r Ddeddf yn diffinio Asesiad o'r Effaith ar Iechyd fel asesiad o effaith debygol, yn y tymor byr ac yn yr hirdymor, gam neu benderfyniad arfaethedig ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl pobl Cymru neu rai o bobl Cymru. Mae rheoliadau i fod i gael eu cyhoeddi i bennu pryd y mae'n ofynnol i gyrff cyhoeddus gynnal Asesiad o'r Effaith ar Iechyd a sut y dylid ei wneud. Bydd yr ACLl yn rhoi sylw i unrhyw reoliadau a chanllawiau mewn cysylltiad ag Asesiad o'r Effaith ar Iechyd yn rhan o'r broses Arfarnu Cynaliadwyedd Effaith sy'n gysylltiedig â'r CDLl Newydd.

Bil Seilwaith (Cymru) 2023

Mae'r Bil Seilwaith (Cymru), sydd wedi pasio drwy'r Senedd, yn cyflwyno proses symlach ar gyfer cydsynio prosiectau seilwaith mawr yng Nghymru a bydd yn disodli'r drefn Datblygu o Arwyddocâd Cenedlaethol. Mae'r Bil yn sefydlu trefn newydd sy'n mabwysiadu 'dull siop un stop' lle gellir gofyn am gydsyniad a chaniatâd arall mewn un broses ymgeisio a gwneud penderfyniadau. Bydd y math newydd o gydsyniad yn cael ei alw'n 'Gydsyniad Isadeiledd' a bydd ei angen ar gyfer Prosiectau Seilwaith Arwyddocaol, gan gynnwys prosiectau ynni, trafnidiaeth, gwastraff a dŵr.

Bil Addysg Gymraeg 2024

Disgwylir i Fil Addysg Gymraeg gael ei basio yn 2024. Mae'r Bil wedi codi o ganlyniadau Cyfrifiad 2021 sy'n dangos bod angen mynd i'r afael â her ddeublyg: yn gyntaf, cynyddu nifer y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg ledled Cymru, ac yn ail, diogelu'r cymunedau Cymraeg sydd â chanrannau uwch o siaradwyr Cymraeg sydd wedi dangos gostyngiad. Bwriad y Bil yw cyflwyno 'newidiadau trawsnewidiol i'r ffordd yr ydym yn meddwl am y Gymraeg a rôl addysg oddi fewn i hynny', a byddai'n cynnwys y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Polisi

Polisi Cynllunio Cymru

Mae Polisi Cynllunio Cymru (PCC) yn nodi polisïau cynllunio defnydd tir Llywodraeth Cymru. Mae'n cynnwys polisi cynllunio cenedlaethol. Prif amcan PCC yw sicrhau bod y system gynllunio'n cyfrannu at gyflawni datblygu cynaliadwy ac yn gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn unol â gofynion Deddf Gynllunio (Cymru) 2015, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a deddfwriaeth allweddol arall a dyletswyddau canlyniadol.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i adolygu PCC ac mae diweddariadau diweddar wedi hybu'r cysyniad o Greu Lleoedd, gan sicrhau cysondeb â Cymru'r Dyfodol-Y Cynllun Cenedlaethol 2040. Ym mis Chwefror 2024, cyhoeddwyd Argraffiad 12 PCC ac ymgorfforwyd newidiadau i Bennod 6 ar Leoedd Unigryw a Naturiol, a Phennod 4 ynghylch ail gartrefi a gosodiadau tymor byr, a chefnogaeth ar gyfer tai dan arweiniad y gymuned fel math o dai fforddiadwy.

Nodiadau Cyngor Technegol, Cylchlythyrau a Llythyrau Egluro Polisi

Bydd y CDLl Newydd yn ystyried y gofynion fel y nodir yn y gyfres o Nodiadau Cyngor Technegol, Cylchlythyrau a Llythyrau Egluro Polisi, sy'n ehangu ar amrywiaeth o faterion polisi cynllunio.

Cymru'r Dyfodol-Y Cynllun Datblygu Cenedlaethol 2040

Y fframwaith datblygu cenedlaethol sy'n pennu'r cyfeiriad ar gyfer datblygu yng Nghymru hyd at 2040 yw Cymru'r Dyfodol-Y Cynllun Cenedlaethol 2040. Cynllun datblygu gofodol ac iddo strategaeth ar gyfer mynd i'r afael â blaenoriaethau cenedlaethol allweddol trwy'r system gynllunio, gan gynnwys cynnal a datblygu economi fywiog, cyflawni datgarboneiddio a chydnerthedd yn yr hinsawdd, datblygu ecosystemau cryf a gwella iechyd a llesiant cymunedau Cymru yw ef.

Fel y fframwaith datblygu cenedlaethol, Cymru'r Dyfodol yw'r haen cynllun datblygu uchaf ac mae'n canolbwyntio ar atebion i faterion a heriau ar raddfa genedlaethol. Mae'n fframwaith y bydd Cynlluniau Datblygu Strategol yn adeiladu arno ar lefel ranbarthol ac y bydd CDLlau yn adeiladu arno ar lefel awdurdod lleol. Mae'n ofynnol bod Cynlluniau Datblygu Strategol a CDLlau yn cydymffurfio â Cymru'r Dyfodol ac mae'n rhaid eu cadw'n gyfredol er mwyn sicrhau eu bod nhw a Cymru'r Dyfodol yn cydweithio'n effeithiol. Mae'n rhaid gwneud penderfyniadau cynllunio ar bob lefel o'r system gynllunio yng Nghymru yn unol â'r cynllun datblygu yn ei gyfanrwydd.

Mae Cymru'r Dyfodol yn nodi 18 o bolisïau cenedlaethol sy'n berthnasol ledled Cymru gyfan a thri pholisi sy'n berthnasol i Ranbarth Canolbarth Cymru. Er y bydd angen i'r CDLl Newydd fynd i'r afael â'r holl bolisïau, mae'r polisïau canlynol o bwysigrwydd penodol.

Cefnogir Polisi 1-Ble bydd Cymru yn tyfu gan ddiagram strategaeth ofodol sy'n nodi bod lleoliad ardal ACLl Powys yn Rhanbarth Canolbarth Cymru. Mae'r polisi yn cyflwyno Ardaloedd Twf Rhanbarthol ac mae dau o'r pump sydd yn Rhanbarth Canolbarth Cymru yn gyfan gwbl y tu mewn i ardal ACLl Powys. Mae Polisi 1 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ardaloedd Twf Rhanbarthol dyfu, datblygu a chynnig amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus a masnachol ar raddfa ranbarthol. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ddatblygiadau mewn trefi a phentrefi mewn ardaloedd gwledig fod o raddfa briodol a chefnogi dyheadau ac anghenion lleol.

Mae Polisi 2-Llywio Twf ac Adfywio Trefol-Creu Lleoedd Strategol yn nodi'r egwyddorion allweddol y dylid eu hystyried wrth benderfynu ar leoliad datblygiad newydd. Mae hyn yn cynnwys creu cymysgedd o ddefnyddiau ac amrywiaeth o fathau o dai a deiliadaethau, gan adeiladu lleoedd ar raddfa gerdded gyda chartrefi, cyfleusterau lleol, a thrafnidiaeth gyhoeddus o fewn pellter cerdded a sicrhau bod datblygiad yn cael ei adeiladu ar ddwysedd priodol gan gorffori seilwaith gwyrdd.

Mae Polisi 4-Cefnogi Cymunedau Gwledig yn ei gwneud yn ofynnol i CDLlau nodi eu cymunedau gwledig, asesu eu hanghenion a nodi polisïau i'w cefnogi nhw. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i bolisïau ystyried sut y gellir cyflawni cymunedau sy'n gytbwys o ran oedran, lle y dylid gwrthdroi diboblogaeth ac ystyried rôl tai fforddiadwy a marchnad newydd, cyfleoedd cyflogaeth, gwasanaethau lleol a mwy o symudedd wrth fynd i'r afael â'r heriau hyn.

Mae Polisi 5-Cefnogi'r Economi Wledig yn cefnogi twf economaidd cynaliadwy, priodol a chymesur mewn trefi gwledig sy'n cael ei gynllunio a'i reoli drwy Gynlluniau Datblygu Strategol a Lleol. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i gynlluniau gynllunio'n gadarnhaol i ddiwallu anghenion cyflogaeth ardaloedd gwledig.

Mae Polisi 6-Rhoi Canol Trefi yn Gyntaf ei gwneud yn ofynnol i leoli cyfleusterau masnachol, adwerthu, addysg, iechyd, hamdden a gwasanaethau cyhoeddus newydd arwyddocaol mewn canol trefi.

Mae Polisi 7-Darparu Cartrefi Fforddiadwy yn adlewyrchu nod Llywodraeth Cymru o gynyddu'r tai fforddiadwy a gyflawnir. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio archwilio pob cyfle i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy ac i nodi safleoedd ar gyfer datblygiadau a arweinir gan dai fforddiadwy.

Mae Polisi 8-Llifogydd yn cydnabod bod perygl o lifogydd yn ffactor sy'n cyfyngu ar ddatblygiad a bod rhannau o'r Ardaloedd Twf Rhanbarthol sy'n agored i lifogydd. Dylid blaenoriaethu lleoedd nad ydynt mewn perygl o lifogydd mewn Ardaloedd Twf Rhanbarthol.

Polisi 9-Rhwydweithiau Ecolegol Cadarn a Seilwaith Gwyrdd. Mae'n ofynnol nodi a chynnwys meysydd a chyfleoedd mewn strategaethau a pholisïau cynllun datblygu, er mwyn hybu a gwarchod y swyddogaethau a'r cyfleoedd y maent yn eu darparu.

Mae Polisi 12-Cysylltedd Rhanbarthol yn nodi bod yn rhaid i ACLlau fanteisio gymaint â phosibl ar gyfleoedd sy'n deillio o'r buddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus wrth gynllunio ar gyfer twf ac adfywio. Rhaid i awdurdodau cynllunio integreiddio dyraniadau safleoedd, datblygiadau newydd, a seilwaith â rhwydweithiau teithio llesol a, phan fo hynny'n briodol, sicrhau bod datblygiadau newydd yn cyfrannu at eu hehangu a'u gwella.

Mae Polisi 25-Ardaloedd Twf Rhanbarthol-y Canolbarth yn nodi Ardaloedd Twf Rhanbarthol yng Nghanolbarth Cymru ac mae'n gwneud datblygu yn y meysydd hyn yn ofynnol er mwyn diwallu anghenion tai, cyflogaeth a chymdeithasol rhanbarthol Canolbarth Cymru. Mae'n nodi dwy Ardal Twf Rhanbarthol sy'n gyfan gwbl y tu mewn i ardal y CDLl Newydd, sef Bro Hafren a Chalon Cymru, ac mae Aberhonddu a'r Gororau yn darparu gwasanaethau pwysig i rai aneddiadau yn y de o ardal y cynllun.

Mae Polisi 26-Tyfu Economi'r Canolbarth yn cefnogi twf a datblygiad cyfleoedd economaidd presennol a newydd ledled y rhanbarth yn seiliedig ar fentrau gwledig traddodiadol ac ar dechnolegau a sectorau modern, arloesol yn ogystal â rhai sy'n datblygu.

Mae Polisi 27-Symudiadau yn y Canolbarth yn ei gwneud yn ofynnol i CDLlau gefnogi gwell cysylltiadau trafnidiaeth yn y rhanbarth a chyda rhanbarthau eraill a Lloegr. Dylai ACLlau gynllunio twf ac adfywio er mwyn manteisio gymaint â phosibl ar y cyfleoedd posibl sy'n deillio o well cysylltedd rhanbarthol.

Canllawiau

Llawlyfr Cynlluniau Datblygu (Argraffiad 3) (Mawrth 2020)

Cyhoeddwyd Llawlyfr Cynlluniau Datblygu diweddaredig ym mis Mawrth 2020 i ystyried newidiadau arwyddocaol i ddeddfwriaethau cynllunio a pholisïau cenedlaethol.

Nid yw'r Llawlyfr yn bolisi cenedlaethol; ond mae'n darparu canllawiau ar y broses o baratoi a gweithredu cynlluniau datblygu. Dylid ei ddarllen ochr yn ochr â PCC a deddfwriaeth a chanllawiau perthnasol eraill, ac mae'n cynnwys canllawiau ymarferol ar sut i baratoi, monitro a diwygio cynllun datblygu, ac mae wedi ei danategu gan dystiolaeth gadarn i sicrhau bod cynlluniau'n effeithiol ac yn gyflawnadwy a'u bod yn cyfrannu at greu lleoedd.

Dogfennau cysylltiedig eraill

Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel (2019)

Mae'r Cynllun hwn yn nodi dull Llywodraeth Cymru o leihau allyriadau a chynyddu effeithlonrwydd ynni mewn ffordd sy'n sicrhau'r buddion ehangach gorau bosibl i Gymru, gan sicrhau cymdeithas tecach ac iachach. Mae'n nodi polisïau a chynigion â'r bwriad o leihau allyriadau a chefnogi twf yr economi carbon isel.

Mae'r targedau a'r polisïau a gyflwynir ar gyfer y sectorau canlynol yn benodol o berthnasol i gynllunio: Pŵer; Adeiladau; Cludiant; Diwydiant; Defnydd tir, Newid Defnydd Tir a Choedwigaeth; Amaethyddiaeth; a Rheoli Gwastraff.

Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (2019)

Cyhoeddwyd Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru ym mis Tachwedd 2019 i gefnogi datblygiad cynaliadwy y moroedd o amgylch Cymru, gan gwmpasu ardaloedd wrth y lan ac ar y môr am yr 20 mlynedd nesaf. Mae'n nodi uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer defnyddio adnoddau naturiol morol yn y dyfodol a sut y dylai gwahanol ddefnyddwyr y moroedd ryngweithio ac ystyried gweithgareddau a chynlluniau ei gilydd ar gyfer y dyfodol.

Mae Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus wneud penderfyniadau awdurdodi neu orfodi perthnasol yn unol â Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru oni bai bod ystyriaethau perthnasol yn nodi fel arall. Mae hefyd yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus roi sylw i'r dogfennau polisi morol priodol wrth wneud unrhyw benderfyniad sy'n ymwneud ag arfer unrhyw swyddogaeth a all effeithio ar unrhyw ran o ardal forol y DU, neu ardal forol gyfan y DU.

Yr Ail Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (Rhagfyr 2020)

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i ACLlau roi sylw i'r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol a gyhoeddwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru, ac mae hyn yn darparu sylfaen dystiolaeth ar gyfer ACLlau wrth adolygu CDLlau. Mae'r ail adroddiad yn adeiladu ar y sylfaen dystiolaeth yn Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol cyntaf 2016 ac mae'n dangos rhai o'r cyfleoedd, y blaenoriaethau a'r heriau allweddol o ran rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae wedi ei fframio o amgylch dwy her, sef argyfyngau natur a'r newid yn yr hinsawdd, y mae Cymru yn eu hwynebu. Mae hefyd yn nodi tri maes ar gyfer newid trawsnewidiol-y systemau bwyd, ynni a thrafnidiaeth, ac mae'n nodi amrywiaeth o gyfleoedd i weithredu i symud tuag at ddyfodol cynaliadwy.

Llwybr Newydd-Strategaeth Drafnidiaeth Cymru (2021)

Mae Strategaeth Drafnidiaeth Cymru yn nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ran sut y gall y system drafnidiaeth helpu i gyflawni blaenoriaethau i Gymru. Mae'n nodi'r blaenoriaethau tymor byr am bum mlynedd a'r uchelgeisiau hirdymor am 20 mlynedd, ynghyd â naw cynllun bach sy'n esbonio sut y byddant yn cael eu cyflawni ar gyfer gwahanol sectorau a dulliau cludiant. Mae'r strategaeth yn ei gwneud yn ofynnol i lywodraethau, awdurdodau lleol, darparwyr cludiant (yn y sector masnachol a'r trydydd sector) a chydweithwyr mewn meysydd polisi eraill gydweithio i sicrhau bod cludiant yn cyfrannu at lesiant Cymru yn awr ac yn y dyfodol. Mae'r strategaeth genedlaethol hon yn gosod y fframwaith ar gyfer dwy haen y cynlluniau cludiant yng Nghymru-y Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol a'r Cydgynlluniau Cludiant Lleol. Bydd angen i strategaeth a pholisïau'r CDLl Newydd fod yn gyson â'r cynlluniau a'r strategaethau hyn.

Adeiladu Lleoedd Gwell: Y System Gynllunio yn Cyflawni Dyfodol Cydnerth a Mwy Disglair-Creu Lleoedd ac Adferiad COVID-19 (Gorffennaf 2020)

Mae Adeiladu Lleoedd Gwell yn nodi blaenoriaethau ar gyfer polisïau cynllunio Llywodraeth Cymru yn ystod y cyfnodau adfer yn sgil COVID-19. Mae'r ddogfen yn amlinellu'r angen am ddatblygiadau da, o ansawdd uchel, a arweinir gan egwyddorion creu lleoedd. Mae'n cydnabod bod darparu lleoedd da ar hyn o bryd yn gofyn i Gynllunwyr fod yn greadigol ac yn ddeinamig.

Mae Adeiladu Lleoedd Gwell yn nodi wyth mater allweddol sy'n dod â meysydd polisi unigol at ei gilydd er mwyn sicrhau bod y gweithredu mor effeithiol â phosibl:

  • Aros yn lleol: creu cymdogaethau
  • Teithio llesol: ymarfer corff a dulliau trafnidiaeth sydd wedi eu hailddarganfod
  • Adfywio canol ein trefi
  • Lleoedd digidol-achubiaeth y cyfyngiadau symud
  • Newid arferion gwaith: ein hangen am dir cyflogaeth yn y dyfodol
  • Ailddihuno sectorau twristiaeth a diwylliannol Cymru
  • Seilwaith gwyrdd, iechyd a llesiant a chydnerthedd ecolegol
  • Gwella ansawdd yr aer a seinweddau ar gyfer gwell iechyd a lles

Mae pob mater yn tynnu sylw at bwyntiau pwysig yn PCC ac yn cynnwys sylwebaeth ar agweddau penodol ar sefyllfa posibl yn sgil pandemig COVID-19.

3.2 Y Cyd-destun Rhanbarthol

Bargen Twf Canolbarth Cymru

Gwahoddodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ranbarth Canolbarth Cymru i ddatblygu Bargen Twf yn 2017. Nod y Fargen yw dod â ffyniant i gymunedau a busnesau y rhanbarth ochr yn ochr ag amrywiaeth o strategaethau a buddsoddiadau eraill o'r sector cyhoeddus a'r sector preifat.

Cyflwynir y Fargen Twf ar ffurf Portffolio. Ym mis Medi 2021, cymeradwyodd Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru Achos Busnes y Portffolio. Adolygodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru fframwaith y portffolio ar gyfer y Cynllun Twf a'r set gychwynnol o Raglenni a Phrosiectau. Mae'r Portffolio hwn yn darparu fframwaith ar gyfer y Fargen Twf ac mae wedi ei chwmpasu o'r wyth maes blaenoriaeth twf strategol eang a nodir gan 'Gweledigaeth ar gyfer Tyfu Canolbarth Cymru' a gyhoeddwyd gan Bartneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru ym mis Mai 2020. Mae'n nodi tri phrosiect ym Mhowys-eco-hyfforddiant yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen, prosiect Llynnoedd Cwm Elan ac adfer Camlas Trefaldwyn. Nod rhaglenni a phrosiectau rhanbarthol eraill yw rhoi hwb i'r meysydd Blaenoriaeth Twf Strategol a ganlyn:

  • Ymchwil Gymhwysol ac Arloesedd
  • Amaethyddiaeth, Bwyd a Diod
  • Cynnig Twristiaeth Gryfach
  • Digidol
  • Cefnogi Menter

Ym mis Ionawr 2022, llofnodwyd Cytundeb Bargen Derfynol Twf Canolbarth Cymru gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Cyngor Sir Powys a Chyngor Sir Ceredigion. Mae'n nodi ymrwymiad yr holl bartneriaid i gyflawni Bargen Twf Canolbarth Cymru, sef partneriaeth arloesol sy'n dod â buddsoddiad cyfunol o £110 miliwn gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru y disgwylir iddo ddenu buddsoddiad ychwanegol sylweddol o ffynonellau cyhoeddus a phreifat eraill gan sicrhau'r effaith fwyaf bosibl yn rhanbarth Canolbarth Cymru.

Mae'r cynigion a gyflwynwyd i'r Llywodraeth yn dangos y canlyniadau posibl y gellir eu cyflawni yng Nghanolbarth Cymru drwy fuddsoddiad y Fargen Twf:

  1. Creu rhwng 1,100 a 1,400 o swyddi newydd yn y Canolbarth drwy'r Fargen Twf erbyn 2032.
  2. Cefnogi codiad Gwerth Ychwanegol Gros o rhwng £570 miliwn a £700 miliwn i Economi Canolbarth Cymru drwy'r Fargen Twf erbyn 2032.
  3. Cyflawni buddsoddiad o hyd at £400 miliwn at ei gilydd yn Economi Canolbarth Cymru drwy'r Fargen Twf erbyn 2032.

Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru

Partneriaeth ranbarthol a sefydlwyd yn 2015 i ddatblygu swyddi, twf a'r economi ehangach yng Nghanolbarth Cymru yw Tyfu Canolbarth Cymru. Mae'n cynnwys cyrff cynrychioliadol a rhanddeiliaid allweddol o wasanaethau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol ledled y rhanbarth. Mae'r fenter yn ceisio cynrychioli budd a blaenoriaethau'r rhanbarth ar gyfer gwella'r economi leol.

Cyhoeddodd Tyfu Canolbarth Cymru "Blaenoriaethau Economaidd Strategol ar gyfer Canolbarth Cymru" ym mis Chwefror 2019, sydd â'r nod o gyflawni twf ledled y rhanbarth yn ystod y 15 mlynedd nesaf. Mae'n amlinellu'r rhaglen flaenoriaeth sydd ei hangen i gyflawni twf economaidd cynaliadwy, swyddi mwy cynhyrchiol a chefnogi cymunedau llewyrchus yng Nghanolbarth Cymru erbyn 2033. Fe'i bwriedir i weithredu fel dogfen fyw a fydd yn cael ei hadolygu'n rheolaidd sy'n arwain buddsoddiad yn y dyfodol.

Cyhoeddodd y Bartneriaeth 'Gweledigaeth ar gyfer Tyfu Canolbarth Cymru Cynllun Economaidd Strategol a Map Ffordd y Fargen Twf' ym mis Mai 2020. Rhennir y ddogfen hon yn ddwy adran. Mae'r adran gyntaf yn nodi'r strategaeth economaidd ar gyfer Canolbarth Cymru ac yn amlinellu gweledigaeth o sut mae'r Bartneriaeth yn dymuno gweld economi Canolbarth Cymru yn tyfu fel lle i fyw ac i weithio ynddo, ac fel lle i ymweld ag ef dros y 15 mlynedd nesaf. Mae'n nodi blaenoriaethau y cytunwyd arnynt yn rhanbarthol a fydd yn sefydlu fframwaith ac amodau ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol, ar sail tystiolaeth fanwl a dealltwriaeth o anghenion busnesau a thrigolion yn y rhanbarth. Cyflawnir y Cynllun drwy amrywiaeth o gyfleoedd cyllido, gan gynnwys Bargen Twf Canolbarth Cymru. Mae'r ail adran yn nodi'r map ffordd arfaethedig ar gyfer sicrhau Bargen Twf ynghynt ar gyfer Canolbarth Cymru gyda Llywodraethau y DU a Chymru. Datblygwyd y map ffordd i sicrhau bod y buddsoddiadau cywir yn dod rhagddynt, a fydd yn cyflawni gweledigaeth y Bartneriaeth ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i economi Canolbarth Cymru.

Strategaeth Ynni Canolbarth Cymru (2020)

Datblygwyd Strategaeth Ynni Canolbarth Cymru yn 2020 gan Bartneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru, Cyngor Sir Powys a Chyngor Sir Ceredigion. Mae'r Strategaeth yn nodi gweledigaeth i Ganolbarth Cymru gyflawni system ynni di-garbon net sy'n cyflawni buddion cymdeithasol ac economaidd, yn dileu tlodi tanwydd, yn cysylltu'r Canolbarth yn well â gweddill y DU, ac yn cyfrannu at ddatgarboneiddio y DU yn ehangach. Mae'r Strategaeth yn nodi chwe blaenoriaeth allweddol:

  • Sbarduno'r broses o ddatgarboneiddio stoc tai ac adeiladau y rhanbarth.
  • Gweithio'n rhagweithiol i sicrhau bod gridiau trydan a nwy yn y rhanbarth yn addas ar gyfer dyfodol sydd wedi ei ddatgarboneiddio 100%.
  • Hybu'r defnydd o ynni adnewyddadwy drwy gynhyrchu a storio newydd.
  • Cyflymu'r newid i drafnidiaeth ddi-garbon a gwella cysylltedd.
  • Datblygu a rheoli potensial amaethyddiaeth i gyfrannu at nodau di-garbon.
  • Rheoli arloesedd, er mwyn cefnogi'r broses o ddatgarboneiddio a thwf glân.

Datganiad Ardal Canolbarth Cymru (Mawrth 2020)

Roedd Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i Gyfoeth Naturiol Cymru baratoi a chyhoeddi datganiadau rhanbarthol, y cyfeirir atynt fel "Datganiadau Ardal", ar gyfer ardaloedd Cymru y mae'n ystyried eu bod yn briodol at ddiben hwyluso'r gwaith o weithredu'r Polisi Adnoddau Naturiol cenedlaethol. Mae Datganiadau Ardal yn amlinellu'r heriau allweddol sy'n wynebu'r rhanbarth priodol, yr hyn y gellir ei wneud ar y cyd i ymateb i'r heriau hynny, a sut i reoli adnoddau naturiol yn well er budd cenedlaethau'r dyfodol.

Mae ardal ACLl Powys yn rhanbarth Datganiad Ardal Canolbarth Cymru, sydd hefyd yn cynnwys ardaloedd yr ACLl ar gyfer Ceredigion a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'n nodi'r pum thema ganlynol ar gyfer ardal Canolbarth Cymru:

  • Gwella bioamrywiaeth-ymateb i'r argyfwng natur.
  • Tir, dŵr ac aer cynaliadwy.
  • Ailgysylltu pobl a lleoedd-gwella iechyd, llesiant a'r economi.
  • Adnoddau coedwigoedd-rheoli adnoddau pren yn effeithiol.
  • Argyfwng hinsawdd-addasu a lliniaru.

Mae datganiadau ardal yn ddarn allweddol o dystiolaeth i ACLlau ei ystyried wrth baratoi eu CDLlau. Maent yn darparu tystiolaeth o faterion amgylcheddol ac adnoddau naturiol a dylid eu defnyddio yn rhan o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y CDLl Newydd ac wrth gyflawni dyletswydd yr ACLlau i gynnal a gwella bioamrywiaeth wrth arfer ei swyddogaethau cynllunio.

Cyd-bwyllgorau Corfforaethol Canolbarth Cymru

Creodd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Ionawr 2021) bedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig mandadol sy'n cwmpasu pedwar rhanbarth Cymru. Mae gan bob Cyd-bwyllgor Corfforedig ddyletswydd statudol i baratoi Cynllun Datblygu Strategol ac mae Cyd-bwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru yn cwmpasu Ceredigion, Powys, gan gynnwys ardal Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ym Mhowys.

Daeth Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Strategol) (Cymru) (SI 2021/360) i rym ar 28 Chwefror 2022 ac mae'n nodi'r weithdrefn ar gyfer paratoi cynlluniau datblygu strategol.

Cydweithrediad rhanbarthol

O ganlyniad i'w leoliad, mae 10 ACLl yn ffinio â Phowys. Mae gan y mwyafrif o'r boblogaeth gysylltiadau â threfi a dinasoedd y tu allan i Bowys ar gyfer amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys iechyd, addysg, adwerthu a chyfleoedd gwaith. Mae cysylltiadau o'r fath yn cynnwys y rhai i Gaerdydd, Merthyr Tudful, Abertawe, Wrecsam, Henffordd, Amwythig, Telford a dinasoedd ymhellach i ffwrdd mewn rhai achosion megis Birmingham a Manceinion.

Daw Ffigur 4 o Gymru'r Dyfodol ac mae'n dangos y cysylltiadau allweddol rhwng aneddiadau yn rhanbarth Canolbarth Cymru ac yn tynnu sylw at y cyfeiriad y mae pobl yn teithio ar gyfer gwasanaethau y tu allan i'r ardal. Mae hefyd yn nodi'r Ardaloedd Twf Rhanbarthol.[13]

Ffigur 4 - Diagram Strategol Rhanbarthol, Canolbarth Cymru (Cymru'r Dyfodol)

Diagram Strategol Rhanbarthol Canolbarth Cymru

Hyd yma, mae ACLl Powys wedi gweithio gydag awdurdodau eraill yn Rhanbarth Canolbarth Cymru a thu hwnt ar y darnau tystiolaeth a ganlyn:

  • Cyfarfodydd rheolaidd â chydweithwyr cynllunio, tai ac ymchwil yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Awdurdod Lleol Ceredigion i drafod materion a gwneud cynnydd â phroses newydd yr Asesiad o'r Farchnad Dai Lleol.
  • Gweithio gydag awdurdodau yn Rhanbarth Canolbarth a De-orllewin Cymru ar ddatblygu model hyfywedd datblygu ar gyfer asesiadau hyfywedd lefel uchel ac sy'n benodol i safle.
  • Cydgomisiynodd ACLl Powys, ACLl Ceredigion, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Llywodraeth Cymru Safleoedd Cyflogaeth Rhanbarth Canolbarth Cymru ac Anghenion Eiddo a Chynllun Gweithredu i lywio Bargen Twf Canolbarth Cymru.
  • Cydgomisiynodd ACLl Powys, ACLl Ceredigion ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog Asesiad Canlyniadau Llifogydd Strategol.

Nododd dadansoddiad clwstwr y CDLl Newydd gysylltiadau swyddogaethol rhwng aneddiadau yn ne ardal ACLl Powys ac aneddiadau mwy ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, sef Aberhonddu, Talgarth a'r Gelli Gandryll.

Gweithgor Agregau Rhanbarthol De Cymru-Ail Adolygiad o'r Datganiad Technegol Rhanbarthol (Rhagfyr 2020)

Cyngor Sir Powys yw'r Awdurdod Cynllunio Mwynau ar gyfer Sir Powys, ac eithrio'r ardal ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac mae wedi cymeradwyo Ail Adolygiad o'r Datganiad Technegol Rhanbarthol (Agregau) 2020. Mae PCC yn ei gwneud yn ofynnol i bob Awdurdod Cynllunio Mwynau baratoi i ddiwallu anghenion lleol, rhanbarthol a'r DU o ran cyflenwi mwynau. At ddibenion sefydlogrwydd masnachol, mae'r diwydiant agregau yn gofyn am fanc tir sicr a dichonol.

Mae Ail Adolygiad y Datganiad Technegol Rhanbarthol yn cyfrifo bod gan Bowys 139.24 miliwn tunnell o warchodfeydd craig mathredig sy'n cyfateb i fanc tir 39.6 mlynedd, sy'n bodloni ac yn rhagori ar yr angen a nodwyd ar gyfer banc tir 25 mlynedd fel y nodir gan PCC a Nodyn Cyngor Technegol Mwynau 1. Dangosodd y data warged o gyflenwad craig mathredig, felly nid oes gofyniad am ddyraniadau newydd yn y dyfodol. Nodwyd bod dosraniad Powys ar gyfer tywod a graean a enillwyd o'r tir yn Ddim yn Ail Adolygiad y Datganiad Technegol Rhanbarthol, felly unwaith eto, nid oes gofyniad cyfredol am ddyraniadau agregau tywod a graean yn y dyfodol.

3.3 Y Cyd-destun Lleol

Cynllun Corfforaethol Cyngor Sir Powys (Chwefror 2023)

Cymeradwyodd y Cyngor Llawn Gynllun Corfforaethol a Chydraddoldeb Strategol 2023–2027 ym mis Chwefror 2023. Mae'n nodi'r blaenoriaethau a ganlyn:

  • Cryfach-Byddwn yn dod yn sir sy'n llwyddo gyda'n gilydd, gyda chymunedau a phobl sydd wedi eu cysylltu'n dda yn gymdeithasol, sy'n wydn yn bersonol ac yn gryf yn economaidd.
  • Tecach-Byddwn yn Gyngor agored, sy'n cael ei redeg yn dda lle mae lleisiau pobl yn cael eu clywed ac yn helpu i lunio ein gwaith a'n blaenoriaethau, gyda mynediad tecach, mwy cyfartal, at wasanaethau a chyfleoedd. Byddwn yn gweithio i fynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb er mwyn cefnogi llesiant pobl Powys.
  • Gwyrddach-Rydym yn dymuno sicrhau dyfodol gwyrddach i Bowys, lle bo ein llesiant yn gysylltiedig â llesiant y byd naturiol, a'n hymateb i'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur wrth wraidd popeth a wnawn.

Mae'r amcanion y manylir arnynt yn y cynllun yn canolbwyntio ar feysydd i'w gwella neu eu datblygu, er mwyn gwella bywydau pobl, fel unigolion ac fel cymunedau. Amcanion craidd y Cynllun yw:

  1. Gwella ymwybyddiaeth pobl o wasanaethau, a sut i gael gafael arnynt, fel y gallant wneud dewisiadau gwybodus.
  2. Cefnogi cyflogaeth gynaliadwy o ansawdd da, darparu cyfleoedd hyfforddi, a dilyn achrediad cyflogwr cyflog byw gwirioneddol.
  3. Gweithio i fynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb er mwyn cefnogi llesiant pobl Powys.

Cynllun Llesiant Lleol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (Mehefin 2023)

Cymeradwyodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys Gynllun Llesiant Lleol-2040: Powys Teg, Cynaliadwy ac Iach ym mis Mehefin 2023. Mae'n cynnwys tri amcan lleol a thri cham llesiant i gyflawni'r amcanion.

Dyma'r tri amcan llesiant:

  • Bydd pobl ym Mhowys yn byw bywydau hapus, iach, a diogel.
  • Mae Powys yn sir o fannau a chymunedau cynaliadwy.
  • Gwasanaeth Cyhoeddus Gynyddol Effeithiol i Bobl Powys.

Y tri cham llesiant yw:

  • Ymateb i'r Argyfwng Hinsawdd.
  • Cymryd ymagwedd systemau cyfan at bwysau iach.
  • Llunio'r dyfodol drwy wella ein dealltwriaeth o'r hyn sy'n bwysig i bobl Powys drwy dystiolaeth a mewnwelediad.

Yr Argyfwng Hinsawdd (Medi 2020)

Datganodd Cyngor Sir Powys argyfwng hinsawdd ar 24 Medi 2020. Roedd hyn yn cynnwys uchelgais i leihau ei allyriadau carbon i sero net erbyn 2030, yn unol â tharged sector cyhoeddus Cymru. Mae'r Cyngor yn gweithio i leihau allyriadau carbon fel a ganlyn.

  • Gan ei fod yn bartner ar Fwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus Powys, mae'r Cyngor yn cyfrannu at baratoi Strategaeth Carbon Bositif ledled y sir.
  • Cyllido gwaith yn y gymuned sy'n ymwneud â newid yn yr hinsawdd a chefnogi'r economi leol drwy Raglen LEADER Arwain.
  • Cydgysylltu'r gwaith o baratoi Strategaeth Ynni Canolbarth Cymru ar ran Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru.
  • Gwella gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu.
  • Gosod pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan mewn cymunedau.
  • Gosod paneli solar ar ysgolion ac adeiladau.
  • Adeiladu cartrefi ac ysgolion sy'n defnyddio ynni'n effeithlon.
  • Darparu seilwaith newydd i annog beicio a cherdded a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Strategaeth ar gyfer Newid Hinsawdd-Powys Positif-net 2021–2030

Mae'r Strategaeth ar gyfer Newid Hinsawdd yn nodi fframwaith o gamau gweithredu er mwyn galluogi Cyngor Sir Powys i ymateb i heriau newid hinsawdd. Mae'n cynnwys y weledigaeth ar gyfer lle mae Cyngor Sir Powys yn dymuno bod yn 2030 a sut mae'n bwriadu cyflawni'r nod o fod yn garbon sero net erbyn 2030. Trwy gyflawni'r nod, bydd Cyngor Sir Powys yn cyfrannu at:

  • Y dasg o fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
  • Lleihad o 95%, o leiaf, mewn allyriadau yng Nghymru erbyn 2050.
  • Gwneud y sector cyhoeddus yng Nghymru yn garbon sero net erbyn 2030 fel yr amlinellir yng nghynllun cyflawni Ffyniant i Bawb: Cymru carbon isel Llywodraethau Cymru.

Yr Argyfwng Natur (Hydref 2022)

Datganodd Cyngor Sir Powys Argyfwng Natur ar 13 Hydref 2022. Penderfynodd wneud yr hyn a ganlyn:

  1. Datgan Argyfwng Natur fel arwydd o ymrwymiad y Cyngor i ddiogelu ac adnewyddu amgylchedd naturiol Powys am ei werth cynhenid, am y rôl y mae natur yn ei chwarae wrth gyflawni economi bywiog a dichonol ac am y buddion y mae natur yn eu cynnig i lesiant trigolion ein sir.
  2. Sefydlu strwythurau cefnogol ystyrlon sy'n ymgorffori natur wrth wneud penderfyniadau gan gynnwys:
  1. Sefydlu Gweithgor Argyfwng Natur trawsbleidiol yn y Cyngor er mwyn helpu i wreiddio bioamrywiaeth ym mhroses gwneud penderfyniadau y Cyngor, ei ymgysylltiad mewn partneriaethau a'i uchelgeisiau o ran adfer natur ledled y sir.
  2. Penodi Aelod o'r Cyngor yn hyrwyddwr dros natur fel y caniateir gan gyfansoddiad y Cyngor hwn.
  3. Ceisio sicrhau cyllid o adnoddau newydd allanol ar gyfer Swyddog Adfer Natur pwrpasol a pharhaol y Cyngor Sir, rhyngddynt er mwyn helpu i sbarduno adferiad natur yn y Cyngor ac ysgogi gweithrediad ymhlith rhanddeiliaid, gan geisio cyllid allanol newydd er mwyn helpu i alluogi'r broses o gyflawni adferiad natur.
  4. Ailddatgan cefnogaeth y Cyngor i'r Bartneriaeth Natur Lleol ac annog yn weithredol a galluogi ei datblygiad fel grŵp rhanddeiliaid annibynnol i gynrychioli'r rhai sy'n rheoli natur ochr yn ochr â'r rhai sy'n defnyddio a/neu'n elwa ar fyd natur.

3. Cymryd camau ystyrlon er mwyn helpu i gyflawni cynnydd net mewn natur ledled y sir, gan gynnwys:

  1. Llunio ymateb-amlinellu rôl y Cyngor-i Gynllun Adfer Natur Powys a gyhoeddwyd yn ddiweddar a luniwyd gan Bartneriaeth Natur Lleol Powys ac sy'n nodi camau sydd eu hangen i ddiogelu a gwarchod systemau presennol ac i adfer natur ar raddfa a chyflymder sy'n gymesur â'r bygythiadau y mae'n eu hwynebu.
  2. Dangos arweinyddiaeth ystyrlon drwy adolygu sut y gellir rheoli asedau a gwasanaethau y Cyngor yn llawnach er mwyn gwrthdroi colled natur ein sir. Dylai Ystadau Fferm y Sir fod yn flaenoriaeth uniongyrchol. Estyn hyn wedyn fel y bo adnoddau yn caniatáu er mwyn adolygu'r holl wasanaethau y mae'r Cyngor yn eu darparu megis Cynllunio (archwilio cyfleoedd a roddir gan yr adolygiad o'r CDLl mabwysiedig i weithredu'r cynnig er enghraifft), Caffael (gellir cynorthwyo llawer o adferiad natur gan yr hyn yr ydym yn ei ddefnyddio a sut yr ydym yn ei ddefnyddio er enghraifft), Priffyrdd (mabwysiadu rhagor o ymylon ffordd fel gwarchodfeydd natur), Gwasanaethau Addysg (datblygu sgiliau, tiroedd ysgolion), Cefn Gwlad (rheoli parciau er enghraifft), ac ati.

Cynllun Gweithredu Adfer Natur Powys (Mawrth 2022)

Cynllun ysbrydoledig 10 mlynedd a fabwysiadwyd gan y Cyngor ym mis Mawrth 2022 a fydd yn cynorthwyo'r Cyngor i gyflawni ei rwymedigaethau o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yw Cynllun Gweithredu Adfer Natur Powys. Mae'n adeiladu ar Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Powys, gan ddiweddaru camau i adlewyrchu'r sefyllfa bresennol. Ei fwriad pennaf yw arwain gwaith Partneriaeth Natur Powys, sef grŵp o sefydliadau ac unigolion gan gynnwys Cyngor Sir Powys sydd wedi ymrwymo i wyrdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth ledled Powys. Mae gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ei Bartneriaeth Natur Lleol a'i Gynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol ei hun.

Mae Cynllun Gweithredu Adfer Natur Powys yn canolbwyntio ar ddatblygu rhwydweithiau ecolegol cadarn-a elwir hefyd yn rhwydweithiau adfer natur-ac yn cymryd ymagwedd ecosystem, sy'n golygu ei fod wedi ei gynllunio i gyflawni camau bioamrywiaeth ar raddfa fwy nag un rhywogaeth neu gynefin yn unig a'i fod yn ystyried anghenion pobl ar yr un pryd. Bydd y Bartneriaeth yn defnyddio adroddiad lefel uchel blynyddol i fonitro'r cynnydd tuag at gyflawni'r cynllun.

Ansawdd Dŵr mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Afonol

Ar 17 Rhagfyr 2020, cynghorodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod cyrff dŵr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig afonol dynodedig yn Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Gwy yn methu â chyrraedd terfynau ffosfforws a dynhawyd gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur yn 2016. Dilynwyd hyn gan lythyr arall oddi wrth Gyfoeth Naturiol Cymru ar 20 Ionawr 2021, ar ôl cyhoeddi'r adroddiad statws cyflwr ar yr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig afonol eraill yng Nghymru, gan gynnwys Afon Wysg, Afon Dyfrdwy ac Afon Tywi, y mae crynoadau y rhain yn ardal CDLl Powys yn rhannol. Mae dalgylchoedd Wysg a Gwy yn cwmpasu bron i hanner deheuol Powys yn gyfan gwbl.

Hefyd, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru Gyngor Cynllunio Interim ym mis Rhagfyr 2020 sydd wedi ei ddiweddaru ers hynny. Rhaid i ddatblygiad newydd mewn dalgylchoedd Ardal Cadwraeth Arbennig gyflawni niwtraliaeth maetholion (ffosffad) sy'n gweithredu fel cyfyngiad ar ddatblygu. Mae datblygiad yn gallu cysylltu â Gwaith Trin Dŵr Gwastraff sydd â thechnoleg lleihau ffosfforws wedi ei gosod, a phan fo capasiti yn bodoli o fewn terfynau Trwydded Amgylcheddol ar gyfer Gwaith Trin Dŵr Gwastraff.

Mae'r cyfyngiad hwn yn ystyriaeth sylweddol wrth baratoi'r CDLl Newydd a'i strategaeth.

Cynlluniau Buddsoddi mewn Canol Trefi/Cynlluniau Creu Lleoedd

Yn 2022, comisiynodd Cyngor Sir Powys ymgynghorwyr i baratoi Cynlluniau Buddsoddi mewn Canol Trefi ar gyfer deg tref farchnad ym Mhowys yn rhan o raglen adfywio ar gyfer y sir. Paratowyd Cynlluniau Buddsoddi mewn Canol Trefi ar y cyd â'r Cynghorau Tref lleol ac maent yn cynnwys gweledigaeth a blaenoriaethau ar gyfer dyfodol pob Tref. Defnyddir y Cynlluniau Buddsoddi i helpu i ddenu a llunio buddsoddiad ac i gefnogi bywiogrwydd y dref a'i hadferiad yn sgil pandemig COVID-19. Mae gan bob Cynllun bwyslais canol y dref wrth ystyried pwysigrwydd a dylanwad y cyfleoedd a geir yn yr ardal ehangach. Mae'r Cynlluniau wedi nodi ac maent yn cynnwys blaenoriaethau, camau gweithredu a phrosiectau y bydd angen eu hystyried yn y CDLl Newydd.

Y deg tref y mae ganddynt Gynlluniau Buddsoddi mewn Canol Trefi yw: Llanfair-ym-Muallt, Trefyclo, Llandrindod, Llanidloes, Llanwrtyd, Machynlleth, Llanandras, Rhaeadr, Y Trallwng, Ystradgynlais.

Mae Cynlluniau Creu Lleoedd a fydd yn cyflawni diben tebyg yn cael eu cynnal hefyd ar gyfer: Trefaldwyn, Llanfyllin.

Mae gan y Drenewydd Gynllun Bro ar waith eisoes, a fabwysiadwyd fel Canllawiau Cynllunio Atodol ym mis Gorffennaf 2021, ac mae gan Lanfair Caereinion ei Chynllun Tref ei hun.

Cynllun Ynni Ardal Leol

Ar hyn o bryd, mae Cyngor Sir Powys yn datblygu Cynllun Ynni Ardal Leol mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid o bob rhan o Ganolbarth Cymru. Dull sy'n cael ei sbarduno gan ddata yw hwn sy'n ceisio gwella'r ddealltwriaeth o sut mae ardal leol yn debygol o ddatgarboneiddio ei sector ynni. Mae modelu Cynllun Ynni Ardal Leol yn cynnwys popeth o gyflenwad ynni a'r galw ar gyfer trafnidiaeth, adeiladau a diwydiant.

Cynllun gofodol fydd allbwn y Cynllun Ynni Ardal Leol a fydd yn nodi: beth yw'r atebion, ble y dylid eu defnyddio, faint y byddant yn costio, pryd y dylid eu dilyn a phwy y dylai wneud hynny. Mae'r atebion yn debygol o fod yn gyfuniad o'r hyn a ganlyn:

  • Buddsoddiad mewn seilwaith grid.
  • Technolegau carbon isel e.e. cynhyrchu trydan adnewyddadwy, pympiau gwres, cerbydau trydan.
  • Atebion sy'n lleihau'r galw am ynni e.e. mesurau effeithlonrwydd ynni, teithio llesol.

Gweledigaeth ar gyfer Datblygu Dysgwyr sy'n Gwbl Ddwyieithog ym Mhowys (Rhagfyr 2020)

Cyhoeddodd Cyngor Sir Powys ei weledigaeth ar gyfer datblygu dysgwyr sy'n gwbl ddwyieithog ym Mhowys ym mis Rhagfyr 2020. Mae'r ddogfen hon yn sail i Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Powys 2022–2032. Cynllun statudol i sicrhau bod darpariaeth sydd wedi ei chynllunio'n dda er mwyn cynyddu'r cyfleoedd fel y gall nifer cynyddol o blant a phobl ifanc ym Mhowys ddod yn gwbl ddwyieithog yw Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg.


Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig