Y Strategaeth a Ffefrir

Daeth i ben ar 7 Hydref 2024

7. Dewisiadau Twf a Gofodol

Prif ddiben y Strategaeth a Ffefrir yw nodi'n glir lefel y twf a'i ddosbarthiad gofodol er mwyn cyflawni Gweledigaeth ac Amcanion y CDLl Newydd.

Wrth baratoi'r Strategaeth a Ffefrir, mae'n ofynnol i'r ACLl gynnal dadansoddiad o wahanol ddewisiadau twf a gofodol. Nodir y dewisiadau isod ac maent wedi eu llywio gan ystod o ffactorau cyflenwi a galw a darnau o dystiolaeth allweddol megis yr asesiad o aneddiadau, Asesiad Anghenion Cyflogaeth yr Asesiad o'r Farchnad Dai Lleol ac asesiad hyfywedd cychwynnol.

7.1 Dewisiadau Twf

Mae pennu'r lefel twf mwyaf addas i'r cynllun ei chyflawni yn ystod cyfnod ei gynllun yn sylfaenol i baratoi'r CDLl Newydd. Yn bennaf, mae lefel y twf yn cyfeirio at raddfa y twf tai a chyflogaeth ac fe'i dylanwedir gan dystiolaeth, anghenion a dyheadau cymdeithasol, economaidd a demograffig.

Mae'r Asesiad o'r Farchnad Dai Lleol yn rhan hanfodol o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y CDLl Newydd. Mae'n nodi lefel yr angen am dai (2022–2037) ar gyfer anheddau marchnad agored a fforddiadwy ledled Powys ac yn ardal y CDLl Newydd. Mae'r Asesiad o'r Farchnad Dai Lleol hefyd yn ystyried anghenion ar lefel leol, gan rannu Powys yn 13 Ardal Marchnad Tai (Ffigur 8). Mae'n hanfodol bod pob un o'r dewisiadau twf a ystyrir yn gallu diwallu'r angen a nodir yn yr Asesiad o'r Farchnad Dai Lleol, sef 2,682 o anheddau ychwanegol (gan gymhwyso cyfradd tai gwag o 10%) y mae 1,036 ohonynt ar gyfer deiliadaethau fforddiadwy.

Ffigur 8 - Ardaloedd Marchnad Tai

Map o Bowys wedi'i rannu'n 13 ardal

Mae Cyngor Sir Powys wedi paratoi Adroddiad Tystiolaeth Demograffig i gefnogi'r CDLl Newydd. Roedd hyn yn cynnwys proffil demograffig o'r ardal gyda rhagamcanion o'r twf yn y dyfodol o ran poblogaeth, cartrefi a chyflogaeth. Roedd yr adroddiad yn ffurfweddu amrywiaeth o senarios twf ar gyfer cyfnod cynllun 2022–2037 ar sail demograffig a chyflogaeth. Ar gyfer pob senario, nodwyd ystod gysylltiedig o ganlyniadau twf o ran anheddau a chyflogaeth.

I ategu'r Adroddiad Tystiolaeth Demograffig, cynhaliwyd Asesiad Anghenion Cyflogaeth (2024) i nodi'r gofynion tir cyflogaeth ar gyfer y CDLl Newydd. Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, ystyriodd yr asesiad sawl senario ar sail tueddiadau er mwyn nodi'r angen dros oes y cynllun, a nododd y tir cyflogaeth y mae ei angen ar gyfer pob dewis. Argymhella'r asesiad bod y CDLl Newydd yn cynnwys darpariaeth tir cyflogaeth ar sail y nifer a fanteisiodd ar dir cyflogaeth yn hanesyddol, gan nodi darpariaeth rhwng 32 a 40 hectar a gyfeirir at Ardaloedd Marchnad Masnachol, fel y manylir yn Ffigur 9.

Ffigur 9 - Ardaloedd Marchnad Masnachol a ddangosir gyda'r Aneddiadau yn yr Hierarchaeth Aneddiadau Cynaliadwy

Map o Bowys yn dangos ardaloedd marchnad fasnachol a ddangosir gyda'r anheddiad yn yr hierarchaeth aneddiadau cynaliadwy.

Paratowyd papur cefndir Dewisiadau Twf sy'n ystyried yr anghenion a nodir yn yr Asesiad o'r Farchnad Dai Lleol, nifer yr anheddau yn y cyflenwad tir ar gyfer tai (tai adeiledig a thai sydd â chaniatâd cynllunio) a'r dystiolaeth o'r Asesiad Anghenion Cyflogaeth (2024). Mae'n nodi dadansoddiad o'r senarios twf o'r Adroddiad Tystiolaeth Demograffig i benderfynu pa un o'r senarios sydd fwyaf addas ar gyfer y CDLl Newydd.

Diystyriwyd rhai o'r senarios y manylir arnynt yn yr Adroddiad Tystiolaeth Demograffig ym mhapur cefndir Dewisiadau Twf fel rhai sy'n afrealistig oherwydd na fyddent yn galluogi'r anghenion tai a nodir yn yr Asesiad o'r Farchnad Dai Lleol i gael eu diwallu. Ystyriwyd Strategaeth Twf CDLl Mabwysiedig Powys (2011–2026), ond canfuwyd nad yw'n gyflawnadwy o ystyried nad oedd ei chyfradd adeiladu blynyddol (300 o anheddau) wedi ei chyflawni'n gyson.

7.2 Y Dewisiadau Twf a Ystyriwyd

Mae Tabl 4 yn nodi chwe senario twf sydd wedi eu grwpio fel tri dewis twf: Dewisiadau Twf Lefel Is, Canolig ac Uwch. Dangosir y Gyfradd Adeiladu Blynyddol Cyfartalog, y Gofyniad Tai a'r Ffigur Darparu Tai Disgwyliedig ar gyfer pob senario.

Defnyddiodd yr Asesiad o'r Farchnad Dai Lleol amcanestyniadau aelwydydd i ddarparu amcangyfrifon o nifer yr aelwydydd yn y dyfodol, drwy gymhwyso tybiaethau ar gyfansoddiad a maint aelwydydd i'r amcanestyniadau poblogaeth. Ystyriodd yr Asesiad o'r Farchnad Dai Lleol nifer yr aelwydydd ar restrau aros aelwydydd hefyd (angen nas diwellir) ac fe'u hychwanegwyd at yr angen am dai a ragwelir. Felly, yn y senarios Dewis Twf, mae amcanestyniadau aelwydydd 2018 Llywodraeth Cymru ar gyfer senarios Amrywiolyn Uchaf a Mudo 15 Mlynedd yn seiliedig ar yr angen a ragwelir o'r Asesiad o'r Farchnad Dai Lleol yn hytrach na'r angen a ragwelir y manylir arno yn yr Adroddiad Tystiolaeth Demograffig.

Dangosir hefyd yn Nhabl 4 y dewisiadau twf ar gyfer cyfanswm y ddarpariaeth tir cyflogaeth, a nodir gan yr Asesiad Anghenion Cyflogaeth. Mae'r holl ddewisiadau twf yn adlewyrchu'r gyfradd a fanteisiodd ar dir cyflogaeth yn y gorffennol (1.6 ha fesul blwyddyn), ac mae'r Dewis Uwch yn gwneud darpariaeth ar gyfer 0.4 hectar ychwanegol fesul blwyddyn.

Tabl 4. CDLl Newydd Powys (2022–2037) Dewisiadau a Senarios Twf.

Dewis

Senario

Y Gyfradd Adeiladu Blynyddol a Ragwelir

Gofyniad Tai

Ffigur Darpariaeth Tai (+21%)

Gwerth Manteisio ar Dir Cyflogaeth (ha)

Cyfanswm y Ddarpariaeth Tir Cyflogaeth (ha)

Uwch

5 Mlynedd dan Arweiniad Anheddau

288

4,320

5,227

1.6 + 0.4

40

Uwch

10 Mlynedd dan Arweiniad Anheddau

264

3,960

4,792

1.6 + 0.4

40

Canolig

Y Twf Hirdymor a Ragwelir

220

3,300

3,993

1.6

32

Canolig

Asesiad o'r Farchnad Dai Lleol-Mudo 15 Mlynedd

203

3,045

3,684

1.6

32

Is

Asesiad o'r Farchnad Dai Lleol-Amrywiolyn Uchaf

179

2,682

3,245

1.6

32

Is

Y Twf Tymor Byr a Ragwelir

172

2,580

3,122

1.6

32

Roedd papur cefndir Dewisiadau Twf yn ystyried priodoldeb pob un o'r dewisiadau a'r senarios drwy adolygu:

  • Cyfraddau adeiladu yn y gorffennol.
  • Cyflenwad tir ar gyfer tai.
  • Demograffeg.
  • Diwallu'r anghenion a nodir yn yr Asesiad o'r Farchnad Dai Lleol.
  • Cydweddiad â Cymru'r Dyfodol a Rhanbarth Canolbarth Cymru.
  • Sylwadau gan randdeiliaid.

Fel yr esbonnir ym mhapur cefndir Dewisiadau Twf, y Dewis Twf Uwch a gafodd y gefnogaeth fwyaf o gyfranogiad y rhanddeiliaid, ac ystyrir mai hwnnw yw'r dewis mwyaf priodol am y rhesymau a ganlyn:

Cymhariaeth â Chyfraddau Adeiladu Hanesyddol-Dros gyfnod 15 mlynedd 2008–2024 (ac eithrio 2014–2015), 240 annedd fesul blwyddyn oedd y gyfradd adeiladu cyfartalog, a 288 annedd fesul blwyddyn oedd y gyfradd adeiladu cyfartalog dros gyfnod pum mlynedd 2018–2023. Mae'r Dewis Twf Uwch o fewn yr ystod hon felly fe'i hystyrir yn gyflawnadwy ac yn un y gellir ei ddarparu.

Cymhariaeth â'r Cyflenwad Tir ar gyfer Tai-Gan ystyried anheddau sydd eisoes wedi eu cwblhau (ers dechrau cyfnod y cynllun yn 2022), safleoedd sydd â chaniatâd cynllunio a datblygiadau ar hap a ragwelir, byddai'r Dewis Twf Uwch yn rhoi lle i ddyrannu rhwng 1,325 a 1,760 o anheddau, i'w cyflawni yn ystod cyfnod y cynllun.

Mynd i'r afael â'r heriau demograffig sy'n wynebu Powys-Mae'r Adroddiad Tystiolaeth Demograffig yn ystyried maint y gweithlu a lefel y twf cyflogaeth y gellid ei chefnogi â'r Dewis Twf Uwch gan ddefnyddio cyfrifiadau sy'n deillio o gymhwyso cyfraddau gweithgarwch economaidd, cyfradd ddiweithdra, a chymhareb cymudo. Roedd y canlyniadau'n rhagweld cynnydd blynyddol o rhwng 153 a 182 o bobl mewn gwaith fesul blwyddyn, sy'n cyfateb i gynnydd o 2,295–2,730 o bobl dros gyfnod y Cynllun. Noda'r Adroddiad Tystiolaeth Demograffig hefyd fod y senarios twf uwch yn hwyluso lefelau uwch o fewnfudo, sy'n angenrheidiol i fynd i'r afael â'r heriau demograffig ac i gynyddu'r boblogaeth oedran gweithio.

Bodloni'r anghenion a nodir yn yr Asesiad o'r Farchnad Dai Lleol-Mae'r Dewis Twf Uwch yn galluogi cyfanswm yr angen am dai a nodir yn yr Asesiad o'r Farchnad Dai Lleol i gael ei ddiwallu, gan ddarparu digon o hyblygrwydd i ymateb i anghenion tai sy'n newid yn ystod cyfnod y cynllun.

Y Cyd-destun Rhanbarthol a Chymru'r Dyfodol-Mae Cymru'r Dyfodol yn dweud, o dan amcangyfrifon canolog Llywodraeth Cymru, fod angen 1,800 o gartrefi ychwanegol yn Rhanbarth Canolbarth Cymru hyd at 2039. Mae hefyd yn nodi, wrth ystyried anghenion tai y dyfodol, fod angen i CDLlau unigol fyfyrio ar yr angen amcangyfrifedig isel am dai yn Rhanbarth Canolbarth Cymru a'r hyn y mae hyn yn ei olygu o ran sut y bydd lleoedd yn newid, lle bydd swyddi a gwasanaethau yn cael eu lleoli a'r berthynas rhwng aneddiadau. O ystyried bod y Dewisiadau Twf Is a Chanolig yn rhagweld lefelau twf is, mae'n anochel eu bod yn sicrhau cysondeb agosach â'r angen ychwanegol a nodir yn Cymru'r Dyfodol na'r Dewis Twf Uwch.

Fodd bynnag, mae'r Dewis Twf Uwch yn cynnwys mwy o hyblygrwydd i allu cyflawni polisïau eraill yn Cymru'r Dyfodol megis gallu blaenoriaethu pwyslais ar y gyfran twf mwyaf yn yr Ardaloedd Twf Rhanbarthol a gallu bodloni dyheadau lleol ac anghenion sy'n newid mewn trefi a phentrefi gwledig. Y Dewis Twf Uwch sydd â'r dylanwad mwyaf o ran cyflawni cymunedau sy'n gytbwys o ran oedran a gwrthdroi diboblogi. Mae hefyd yn rhoi'r hyblygrwydd mwyaf ar gyfer ymateb i anghenion cymunedau gwledig, a bydd yn cael yr effaith fwyaf o ran cyflawni cartrefi fforddiadwy.

Yn nodweddiadol, mae ardal CDLl Powys yn cyfrannu 240 (48%) o'r 500 o anheddau a adeiledir fesul blwyddyn ledled Rhanbarth Canolbarth Cymru, ar sail cyfradd cwblhau cyfartalog y 15 mlynedd ddiwethaf. Byddai'r Dewis Twf Uwch yn gofyn am gyfradd adeiladu cyfartalog blynyddol sy'n amrywio rhwng 264 a 288 o anheddau. O ran effaith ar Ranbarth Canolbarth Cymru, ni fyddai pen isaf yr ystod hon yn sylweddol wahanol i'r gyfradd adeiladu cyfartalog 15 mlynedd, sef 240 o anheddau. O ran datblygu economaidd, ystyrir y bydd y ddarpariaeth gyflogaeth o 40 hectar, ynghyd â galluogi polisïau cyflogaeth, yn darparu digon o hyblygrwydd ac yn cefnogi Bargen Twf Canolbarth Cymru.

Asesiad Cynaliadwyedd Integredig-O'r tri dewis twf, canfu'r Asesiad Cynaliadwyedd Integredig fod y Dewis Twf Uwch yn perfformio gryfaf, gan adlewyrchu'r cyfle i fodloni gofynion tai, lleihau amddifadedd a phosibilrwydd o atgyfnerthu'r Gymraeg a diwylliant Cymru drwy alluogi aelwydydd lleol i ddod o hyd i dai yn eu cymunedau. Yn benodol, canfu'r Asesiad Cynaliadwyedd Integredig y gallai lefelau twf gefnogi cynaliadwyedd parhaus cymunedau llai â darpariaeth gwasanaeth cyfyngedig a phoblogaethau a allai fod yn gostwng.

Mae Tabl 5 yn nodi'r lefelau twf disgwyliedig ar gyfer pob un o'r ddwy senario a gynhwysir yn y Dewis Twf Uwch: y senario 10 mlynedd dan arweiniad anheddau a'r senario pum mlynedd dan arweiniad anheddau.

Tabl 5. Senarios Dewis Twf Uwch

10 Mlynedd dan Arweiniad Anheddau

5 Mlynedd dan Arweiniad Anheddau

Crynodeb

Mae'n modelu effaith twf poblogaeth y twf blynyddol cyfartalog mewn anheddau (259) ar sail hanes tai a gwblhawyd dros gyfnod o 10 mlynedd (2012/13–2022/23).

Mae'n modelu effaith twf poblogaeth y twf blynyddol cyfartalog mewn anheddau (285) ar sail hanes tai a gwblhawyd dros gyfnod o bum mlynedd (2018/19–2022/23).

Y Gyfradd Adeiladu Blynyddol a Ragwelir

264

288

Gofyniad Tai *

3,960

4,320

Ffigur Darpariaeth Tai (+21%)

4,792

5,227

Gwerth Manteisio ar Dir Cyflogaeth (ha)

1.6 + 0.4

1.6 + 0.4

Cyfanswm y Ddarpariaeth Tir Cyflogaeth (ha)

40

40

Newid yn y Boblogaeth (2022–2037)

6,297

7,096

% y Newid yn y Boblogaeth (2022–2037)

5.7%

6.5%

Newid mewn Aelwydydd (2022–2037)

3,578

3,906

% y Newid mewn Aelwydydd (2022–2037)

7.1%

7.8%

Newid Cyflogaeth Blynyddol Cyfartalog

153

182

Cynnydd ym Maint y Llafurlu

2,295

2,730

7.3 Y Dewis Twf a Ffefrir

Er mwyn cyflawni Gweledigaeth ac Amcanion y CDLl Newydd, yn enwedig yr Amcanion ar 'Ddiwallu Anghenion y Dyfodol', 'Anghenion Tai', 'Economi Fywiog' a 'Datblygu Economaidd', mae'r dystiolaeth yn cefnogi twf tuag at ben isaf y Dewis Twf Uwch. Ystyrir bod y lefel hon o dwf yn realistig ac yn gyflawnadwy ac yn darparu digon o hyblygrwydd i ddiwallu anghenion cymunedau, busnesau a thrigolion, gan gynyddu'r ddarpariaeth o dai fforddiadwy a helpu i fynd i'r afael â heriau demograffig.

Y senario 10 mlynedd dan arweiniad anheddau yw'r Dewis Twf a Ffefrir, sy'n seiliedig ar gyfradd adeiladu blynyddol cyfartalog o 264 annedd dros gyfnod 10 mlynedd 2012/2013 i 2022/2023. Mae twf cyflogaeth yn seiliedig ar gyfraddau a fanteisiodd ar dir cyflogaeth yn y gorffennol, sef 1.6 hectar y flwyddyn, ynghyd â lwfans ychwanegol o 0.4 ha fesul blwyddyn i adlewyrchu marchnad heb gyfyngiadau yn well.

Mae'r gyfradd adeiladu blynyddol cyfartalog a ragwelir wedi ei thalgrynnu i fyny i 265 o anheddau, sy'n arwain at ofyniad tai o 3,975 annedd (265 x 15 mlynedd) ar gyfer y CDLl Newydd. Ar gyfer twf cyflogaeth, bydd y CDLl Newydd yn darparu 40 hectar o dir cyflogaeth Dosbarth B, a fydd, ochr yn ochr â pholisïau CDLl Newydd eraill sy'n cefnogi'r economi sylfaenol a gwledig, yn gwasanaethu cynnydd o 2,295 o bobl yn y llafurlu.

Yn gyffredinol, ystyrir mai'r Dewis Twf Uwch-senario 10 Mlynedd dan Arweiniad Anheddau sy'n adlewyrchu'r lefelau darparu a gyflawnwyd yn y blynyddoedd diwethaf orau, a'i fod yn cefnogi rôl ardal CDLl Powys yn Rhanbarth Canolbarth Cymru a phresenoldeb ei ddwy Ardal Twf Rhanbarthol orau.

7.4 Dewisiadau Gofodol

Yn ogystal â phenderfynu ar y lefel twf mwyaf priodol neu gywir, rhaid i'r Strategaeth a Ffefrir nodi'r lleoedd cywir i leoli twf.

Nodwyd Dewisiadau Gofodol yn rhan o ddatblygiad y Strategaeth a Ffefrir ac mae polisïau Cymru'r Dyfodol a chynlluniau a strategaethau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol eraill wedi dylanwadu ar y rhain.

Mae'n bwysig bod y Strategaeth a Ffefrir yn mynd i'r afael ag anghenion cymunedau, busnesau a phreswylwyr ar lefel leol, gan gynnwys anghenion a nodir gan yr Asesiad o'r Farchnad Dai Lleol a'r Asesiad Anghenion Cyflogaeth. Mae angen i'r Strategaeth fanteisio gymaint â phosibl hefyd ar gyfleoedd i wella'r amgylchedd a chyfyngu ar effeithiau amgylcheddol y datblygiad.

Nodwyd pedwar Dewis Gofodol i'w hystyried fel a ganlyn:

  • Parhau â Strategaeth CDLl Mabwysiedig Powys (2011–2026).
  • Dan Arweiniad Tai Fforddiadwy.
  • Dosraniad Poblogaeth (Twf Gwasgaredig).
  • Dan Arweiniad Ardal Twf Rhanbarthol (Twf â Phwyslais).

Ystyrir pob un o'r pedwar dewis gofodol yn ddewisiadau realistig, ond byddai pob un ohonynt yn arwain at ddosbarthiad twf gwahanol o ran tai a mathau eraill o ddatblygiad. Cynhwysir dadansoddiad o'r pedwar dewis yn y Papur Cefndir Dewisiadau Gofodol. Mae hwn yn ystyried manteision ac anfanteision pob un ohonynt, gan gynnwys y cydweddiad â Cymru'r Dyfodol. Mae pob dewis hefyd wedi ei ystyried yn rhan o'r Asesiad Cynaliadwyedd Integredig cychwynnol ac fe'u crynhoir isod.

Parhau â Strategaeth CDLl Mabwysiedig Powys (2011–2026)
Nod Strategaeth Ofodol CDLl Mabwysiedig Powys (2011–2026) oedd hybu ac atgyfnerthu twf cymesur ar draws y rhwydwaith o drefi a phentrefi marchnad ym Mhowys. Ceisiodd y strategaeth ddosbarthu twf yn gymesur â phoblogaeth/maint presennol anheddiad a'r gwasanaethau/cyfleusterau sydd ar gael. Roedd y dull hwn yn galluogi'r gyfran uchaf o dwf i gael ei ddosbarthu i'r hyn a ystyriwyd yn lleoliadau mwyaf cynaliadwy, y Trefi a'r Pentrefi Mawr, gan ddiogelu adnoddau ac asedau strategol pwysig.

Daeth y Papur Cefndir Dewisiadau Gofodol i'r casgliad na fyddai parhad y strategaeth CDLl Mabwysiedig yn gydnaws â pholisïau Cymru'r Dyfodol oherwydd na fyddai'n galluogi twf i ganolbwyntio yn yr Ardaloedd Twf Rhanbarthol. Canfu hefyd y byddai'n cyfyngu ar y gallu i ddiwallu'r anghenion a nodir yn yr Asesiad o'r Farchnad Dai Lleol a'r Asesiad Anghenion Cyflogaeth. Fodd bynnag, ystyriwyd bod elfennau o'r strategaeth a oedd wedi gweithio'n dda ac y dylid eu dwyn ymlaen i'r CDLl Newydd, megis defnyddio ffiniau datblygu ar gyfer aneddiadau mwy a'r dull polisi a ddefnyddir i alluogi datblygiad mewn aneddiadau llai.

Dewis Gofodol dan Arweiniad Tai Fforddiadwy
Mae Dewis Gofodol dan Arweiniad Tai Fforddiadwy yn seiliedig ar fynd i'r afael â'r angen am anheddau fforddiadwy yn y 13 Ardal Marchnad Tai a nodir yn yr Asesiad o'r Farchnad Dai Lleol (2022–2037). Hefyd, mae'n ystyried cyfrifiadau ar sail data hanesyddol ynghylch nifer y bobl sy'n ymuno â rhestrau aros am dai cymdeithasol bob blwyddyn. Roedd y cyfrifiadau yn rhagweld anghenion eraill ar gyfer tai cymdeithasol, yn ogystal â'r rhai a nodir yn yr Asesiad o'r Farchnad Dai Lleol, efallai y bydd angen mynd i'r afael â nhw yn ystod cyfnod cynllun y CDLl Newydd.

Er y byddai'r dewis hwn yn mynd i'r afael ag anghenion tai fforddiadwy uniongyrchol ledled ardal y Cynllun, ystyriwyd mai hyblygrwydd cyfyngedig i ymateb i unrhyw anghenion eraill, gan gynnwys ar gyfer tai arbenigol a thai marchnad agored hyd at 2037, y mae'r dewis yn ei ddarparu. Cyfyngedig oedd y gefnogaeth a dderbyniodd y dewis gan randdeiliaid ac ni fyddai'n galluogi'r CDLl Newydd i gyflawni rhai o'r dyheadau a nodir yn y Weledigaeth a'r Amcanion.

Dewis Gofodol Dosraniad Poblogaeth (Twf Gwasgaredig).
Dewis gofodol gwasgaredig a fyddai'n dosbarthu twf ledled yr 13 Ardal Marchnad Tai ar sail cyfanswm canran y boblogaeth ym mhob Ardal Marchnad Tai yw'r Dewis Gofodol Dosraniad Poblogaeth.

Byddai'r dewis hwn yn mynd i'r afael â'r anghenion cydnabyddedig ar gyfer tai a chyflogaeth a nodir yn y dystiolaeth a byddai'n cefnogi cymunedau gwledig cynaliadwy. Fodd bynnag, byddai'n cyfyngu ar yr effaith y byddai'r CDLl Newydd yn ei chael ar ganolbwyntio twf i Ardaloedd Twf Rhanbarthol yn unol â gofynion Cymru'r Dyfodol. Hefyd, mae dewis twf gwasgaredig yn cyfyngu ar y cyfleoedd sydd ar gael i gyflawni gwelliannau seilwaith ac i gefnogi gwasanaethau o'i gymharu â dewis twf â phwyslais.

Dewis Gofodol dan Arweiniad Ardal Twf Rhanbarthol (Twf â Phwyslais).
Dewis gofodol twf â phwyslais sy'n cyfeirio mwyafrif y twf i'r Ardaloedd Twf Rhanbarthol yw Dewis Gofodol Ardal Twf Rhanbarthol. Galluogir lefelau twf is mewn rhannau eraill o ardal y Cynllun, yn unol â'r hierarchaeth aneddiadau cynaliadwy, dyheadau lleol a'r anghenion a nodir.

Roedd y dadansoddiad a nodir ym mhapur cefndir Dewisiadau Gofodol o'r farn mai dyma'r dewis gorau i ddiwallu anghenion ardal y Cynllun, gan ddarparu digon o hyblygrwydd i osgoi ardaloedd cyfyngedig ac i fynd i'r afael ag unrhyw anghenion sy'n newid hyd at 2037. Dyma'r dewis sy'n sicrhau'r cysondeb gorau â Cymru'r Dyfodol, PCC, Llwybr Newydd, ac mae'n adlewyrchu sylwadau rhanddeiliaid. Mae'n cydnabod rôl ardal y cynllun yn rhanbarth Canolbarth Cymru a byddai'n galluogi'r Weledigaeth a'r Amcanion i gael eu cyflawni.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig