Y Strategaeth a Ffefrir
4. Materion, Heriau a Chyfleoedd Allweddol
4.1 Cefndir
Rhaid i CDLl Newydd Powys (2022–2037) ddarparu ar gyfer twf cynaliadwy ardal y cynllun yn y dyfodol drwy ystyried y materion cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol sy'n wynebu'r ardal.
Mae materion allweddol ar gyfer y CDLl Newydd wedi deillio o wahanol ffynonellau, gan gynnwys:
- Ymarferion ymgysylltu mewnol a gynhaliwyd yn ystod 2022/2023 yn cynnwys Cynghorwyr Sir a Gwasanaethau.
- Adolygiad o Faterion/Ystyriaethau ac Amcanion CDLl Mabwysiedig Powys (2011–2026).
- Adroddiad Adolygu (Chwefror 2022) ac Adroddiadau Monitro Blynyddol (2021, 2022 a 2023) ar gyfer CDLl Mabwysiedig Powys (2011–2026).
- Deddfwriaeth gyfredol a pholisi cenedlaethol, gan gynnwys Cymru'r Dyfodol-Y Cynllun Cenedlaethol 2040 ac uchelgeisiau Llywodraeth Cymru i, "datgarboneiddio cymdeithas, bod yn fwy ffyniannus, tyfu'r Gymraeg a gwella iechyd".
- Cynlluniau a strategaethau ar gyfer Powys a'r Canolbarth gan gynnwys Cynllun Llesiant Powys, y Cynllun Strategol a Chydraddoldeb Corfforaethol, a Datganiad Ardal Canolbarth Cymru.
- Sylwadau gan Gynghorau Tref a Chymuned ym mis Hydref 2022 ynghylch Archwiliad Anheddiad ar 58 o aneddiadau mwyaf y CDLl Mabwysiedig.
- Sylwadau o gyfnod ymgynghori cyhoeddus anstatudol tair wythnos ym mis Ionawr 2024 ar y Materion, y weledigaeth a'r Amcanion Allweddol Drafft ar gyfer y CDLl Newydd.
4.2 Rhestr o'r Materion Allweddol
Rhestrir y Materion Allweddol a nodwyd ar gyfer y CDLl Newydd isod ac fe'u hystyrir yn brif faterion defnydd tir a chynllunio gofodol sy'n wynebu ardal y cynllun ar gyfer y cyfnod hyd at 2037.
- Ymateb i Newid Hinsawdd-Lliniaru ac Addasu.
- Cefnogi Adferiad Natur-Diogelu, Cynnal a Gwella Bioamrywiaeth.
- Gofalu am Adnoddau-Yn yr Amgylchedd Naturiol, Hanesyddol ac Adeiledig.
- Hybu Trafnidiaeth Gynaliadwy-Symud Yn a Rhwng Lleoedd.
- Poblogaeth-Ymateb i Anghenion a Heriau Demograffig.
- Cynllunio ar gyfer Llesiant-Bywydau Hapus, Iach a Diogel mewn Cymunedau Cynaliadwy
- Iechyd-Cefnogi Ffyrdd Iach o Fyw a Hybu Lleoedd Iachach.
- Cynllunio'r Datblygu Iawn yn y Lle Iawn-Sicrhau Datblygu Cynaliadwy.
- Y Gymraeg-Hybu a Diogelu.
- Cynllunio ar gyfer Cartrefi Newydd-Nifer, Ansawdd a Fforddiadwyedd.
- Cynllunio ar gyfer Economi Fywiog-Llesiant Economaidd Hirdymor.
- Cynllunio ar gyfer Ffermio Cryf ac Economi Wledig-Gan gynnwys Datblygu Rhwydweithiau Bwyd Lleol.
- Cefnogi Bargen Twf Canolbarth Cymru-Cefnogi'r Economi Ranbarthol.
- Cefnogi Twristiaeth Gynaliadwy.
- Creu Lleoedd Lleol-Dylunio Da sy'n Creu Lleoedd Gwell.
- Cynllunio ar gyfer Anghenion Seilwaith a Gwasanaeth-Gan gynnwys Gofynion Dyfodol Digidol.
- Cefnogi Cyfleusterau Cymunedol ac Asedau Cymunedol.
- Cefnogi Stryd Fawr Powys-Rhoi Canol Trefi yn Gyntaf.
- Cefnogi Ynni Cynaliadwy-Rheoli Pŵer Gwyrdd a Hybu Effeithlonrwydd Ynni.
- Rheoli a Lleihau Gwastraff.
4.3 Materion Allweddol
Mae'r adran hon yn disgrifio pob un o'r Materion Allweddol yn fanylach. Noder bod llawer o'r Materion Allweddol yn cydberthyn.
Mater Allweddol 1: Ymateb i Newid Hinsawdd-Lliniaru ac Addasu
Cyd-destun: Mae newid yn yr hinsawdd yn her arwyddocaol iawn i gymdeithas ac mae angen lliniaru newid hinsawdd ac addasu newid yn yr hinsawdd i fynd i'r afael â hyn. Deellir gwyddoniaeth newid hinsawdd yn dda gyda'r angen i gyfyngu ar y cynnydd yn nhymheredd y byd i 1.5 gradd uwchben y lefelau cyn-ddiwydiannol os ydym am osgoi effeithiau trychinebus ar yr hinsawdd (The Climate Crisis-A Guide for Local Authorities on Planning for Climate Change, TCPA, RTPI, Ionawr 2023).
Mae effeithiau andwyol yn cynnwys digwyddiadau tywydd eithafol, rhagor o lifogydd, lefelau'r môr yn codi, a phrinder dŵr. Mae Cynllun Llesiant Powys (2023) yn nodi bod gweithredu ar yr hinsawdd yn hanfodol gan ddweud, "Mae'r cyfle i gynnal planed y gellir byw ynddi ar gyfer bodau dynol a natur fel rydym ni'n ei adnabod yn cau'n gyflym iawn".
Mae newid yn yr hinsawdd yn flaenoriaeth strategol ar gyfer polisi cenedlaethol ledled pob rhan o'r DU. Datganodd Cyngor Sir Powys argyfwng hinsawdd ym mis Medi 2020 yn dilyn datganiad 2019 Llywodraeth Cymru (gyda'i hymrwymiad i gyflawni sero net erbyn 2050). Cydnabyddir bod newid yn yr hinsawdd yn fater hanfodol yng Nghynllun Strategol a Chydraddoldeb Corfforaethol 2023 y Cyngor ac yng Nghynllun Llesiant Powys.
Mae gan y Cyngor Strategaeth Newid Hinsawdd (2021–2030) a chan ei fod yn bartner ym Mwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys, mae'n ymwneud â Strategaeth Garbon Bositif ledled y sir.
Mae derbyn yr argyfwng hinsawdd fel blaenoriaeth yn integreiddio â'r dull a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru yn PCC a Chymru'r Dyfodol a chan Gyfoeth Naturiol Cymru yn Natganiad Ardal Canolbarth Cymru. Mae'r Mater Allweddol hwn yn drawsbynciol ac mae'n perthyn i lawer o'r Materion Allweddol eraill.
Bydd y CDLl Newydd yn cefnogi camau gweithredu, ymyriadau a chynigion datblygu sy'n galluogi'r newid yn yr hinsawdd i gael ei liniaru (osgoi a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a galluogi carbon i gael ei ddal a'i stori) ac addasu. Mae hyn yn cynnwys mesurau cydnerthedd llifogydd, rheoli draenio dŵr storm, ac ymdopi â chanlyniadau eithafion tywydd. Anogir atebion ar sail natur.
Mater Allweddol 2: Cefnogi Adferiad Natur-Diogelu, Cynnal a Gwella Bioamrywiaeth
Cyd-destun: Mae gan y system gynllunio rôl sefydledig o ran gwarchod a diogelu safleoedd dynodedig o werth cadwraeth natur ac wrth geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth. Fodd bynnag, dengys y dystiolaeth bwysau amgylcheddol cynyddol a bod llawer o ecosystemau ledled y DU yn dirywio.
Datganodd y Cyngor argyfwng natur ym mis Hydref 2022. Yn rhan o Bartneriaeth Natur Powys, mae'r Cyngor wedi cyhoeddi Cynllun Gweithredu Adfer Natur Powys (2022–2032), sy'n tynnu sylw at sut mae bioamrywiaeth yn dirywio ar raddfa na welwyd ei thebyg o'r blaen oherwydd nifer o bwysau allweddol.
Mae'r Mater Allweddol hwn yn gysylltiedig â Mater Allweddol 3, Gofalu am Adnoddau. Ymateb i Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yw Polisi Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru; mae'n nodi'r gofyniad i Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy yng Nghymru. Cydnabyddir bod gan bawb ran i'w chwarae wrth sicrhau bod adnoddau naturiol yn cael eu rheoli'n gynaliadwy. Mae gwella cydnerthedd ecosystemau, gan gynnwys gwella ansawdd aer a dŵr, yn un o'r prif heriau.
Mae awdurdodau cyhoeddus yn ddarostyngedig i Adran 6 y 'Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau' o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, i gynnal a gwella bioamrywiaeth wrth arfer eu swyddogaethau. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ddatblygiadau weithio ochr yn ochr â natur, darparu mantais net i fioamrywiaeth, a gwella cydnerthedd ecosystemau.
Mae Cymru'r Dyfodol (Polisi 9) yn amlygu sut mae rhwydweithiau ecolegol cadarn yn hanfodol ar gyfer adfer natur. Diffinnir rhwydweithiau o'r fath fel, "rhwydweithiau o gynefin mewn cyflwr ecolegol da sy'n cysylltu safleoedd a ddiogelir a llecynnau cyfoethog o ran bioamrywiaeth a llesiant".
Mae Cymru'r Dyfodol yn nodi naw ardal Adnoddau Naturiol Cenedlaethol eang lle mae rhwydweithiau ecolegol/seilwaith gwyrdd o bwysigrwydd cenedlaethol yn bodoli, gan gynnwys Mynyddoedd Cambria, y Mynyddoedd Duon a Bannau Brycheiniog. Ystyrir yr ardaloedd yn "sail ar gyfer hybu camau gweithredu i ddiogelu a gwella bioamrywiaeth a gwella cadernid ecosystemau sy'n gysylltiedig â seilwaith gwyrdd o bwys strategol".
Bydd angen i'r CDLl Newydd gefnogi camau gweithredu, ymyriadau a chynigion datblygu sy'n diogelu, yn adfer, yn cynnal ac yn gwella bioamrywiaeth, gan gynnwys hwyluso'r broses o warchod a gwella seilwaith gwyrdd o bwys strategol.
Mater Allweddol 3: Gofalu am Adnoddau-Yn yr Amgylchedd Naturiol, Hanesyddol ac Adeiledig
Cyd-destun: Mae Powys yn cynnwys cyfoeth o adnoddau o bwys rhyngwladol, cenedlaethol, rhanbarthol a lleol yn ei hamgylchedd ffisegol, cymdeithasol a diwylliannol.
Mae Powys yn adnabyddus am ei thirweddau amrywiol a hardd, a werthfawrogir gan drigolion, sy'n denu twristiaid, ac yn darparu lleoedd lle gall pobl a natur ffynnu. Cysylltir ardal y cynllun â Gwarchodfa Biosffer UNESCO (Dyfi) ac mae ganddi Barc Awyr Dywyll (Cwm Elan) a Chymuned Awyr Dywyll (Llanandras a Norton). Mae nifer o safleoedd natur a geoamrywiaeth sydd wedi eu dynodi'n genedlaethol ac yn lleol yn ardal y cynllun ac mae amgylchedd hanesyddol nodedig.
Mae PCC yn cyfeirio at yr angen i ddiogelu a gwella'r amgylchedd naturiol a hanesyddol yn ogystal ag elfennau eraill o'r byd naturiol, megis adnoddau dŵr ac ansawdd yr aer. Felly, mae'n rhaid i'r system gynllunio edrych ar ddiogelu a gwella nodweddion arbennig a rhinweddau cynhenid amgylcheddau naturiol, hanesyddol ac adeiledig yn yr hirdymor. O ystyried ehangder y materion perthnasol, rhennir yr adnoddau yn ddau gategori:
i) Adnoddau Amgylchedd Naturiol
Gan gynnwys:
- Tir, aer, dŵr a phridd.
- Anifeiliaid, planhigion ac organeddau eraill.
- Safleoedd cadwraeth natur dynodedig (statudol ac anstatudol).
- Tirweddau a chymeriad tirwedd, nodweddion daearegol, ac awyr dywyll.
- Cefn gwlad fel dalfa garbon ac adnodd sy'n darparu ar gyfer dal carbon.
- Mawndir.
- Cynefinoedd, llecynnau cyfoethog o ran bioamrywiaeth, rhwydweithiau ecolegol a seilwaith gwyrdd.
- Coed, coetiroedd, gwrychoedd (gan gynnwys coetiroedd hynafol a lled-naturiol).
- Tir a ddynodwyd ar gyfer Coedwig Genedlaethol Cymru.
- Y tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas.
- Dyddodion mwynau.
- Gorlifdiroedd afonydd, systemau afonydd a'r amgylchedd torlannol.
- Tir comin.
- Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol cyfagos (Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol).
Mae materion a phryderon presennol sy'n ymwneud ag adnoddau'r amgylchedd naturiol yn cynnwys: bioamrywiaeth ac ecosystemau sy'n dirywio, mawndir a ddifrodir ac a gollir, plannu coed yn amhriodol, a diogelwch cyflenwadau bwyd a dŵr yn y dyfodol. Mae Newid Hinsawdd hefyd yn effeithio'n andwyol ar rai o'r adnoddau hyn.
ii) Adnoddau yr Amgylchedd Adeiledig a Hanesyddol
Gan gynnwys:
- Cymeriad unigryw ac arbennig trefi a phentrefi a'u lleoliadau gwledig.
- Yr amgylchedd hanesyddol a'i leoliadau, gan gynnwys: adeiladau rhestredig, ardaloedd cadwraeth, asedau hanesyddol o ddiddordeb lleol arbennig, parciau a gerddi hanesyddol, trefluniau, tirweddau hanesyddol, a gweddillion archeolegol.
- Seilwaith trafnidiaeth gan gynnwys ffyrdd, rheilffyrdd, camlesi, dyfrffyrdd, llwybrau/rhwydweithiau teithio llesol, llwybrau adloniant a'r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus.
- Seilwaith rheilffyrdd segur, cyfnewidfeydd trafnidiaeth cyhoeddus presennol a seilwaith trafnidiaeth y dyfodol a nodwyd a gwasanaethau cysylltiedig.
- Ardal(oedd) Hyfforddiant y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Mater Allweddol 4: Hybu Trafnidiaeth Gynaliadwy-Symud Yn a Rhwng Lleoedd
Cyd-destun: Mae seilwaith trafnidiaeth cynaliadwy yn cysylltu pobl â swyddi, tai a chyfleusterau hamdden. Mae'r blaenoriaethau a nodir yn Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru a Chynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol newydd Canolbarth Cymru sy'n dod i'r amlwg yn ystyriaethau pwysig ar gyfer y CDLl Newydd. Mae'r blaenoriaethau hyn yn cynnwys lleihau'r angen i deithio a gweithredu'r Hierarchaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy. Rhaid cynllunio pob datblygiad newydd yn unol â'r hierarchaeth sy'n blaenoriaethu teithio llesol (cerdded a beicio), yna Cerbydau Allyriadau Isel Iawn sy'n cael eu hybu dros gerbydau modur preifat eraill. Mae'r dull hwn yn cefnogi datgarboneiddio, yn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur, ac yn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb.
Nod y system gynllunio yw cefnogi datblygiad sy'n blaenoriaethu mynediad a symudiadau drwy deithio llesol a thrafnidiaeth gynaliadwy. Cydnabyddir bod trafnidiaeth gyhoeddus a chyfleoedd teithio llesol yn fwy cyfyngedig mewn llawer o gymunedau gwledig. Ar gyfer ardaloedd gwledig, mae Cymru'r Dyfodol yn blaenoriaethu'r nifer sy'n manteisio ar Gerbydau Allyriadau Isel Iawn ynghyd ag amrywio a chynnal gwasanaethau bysiau lleol.
Mae gwasanaeth bysiau dibynadwy ac â chysylltiadau da yn bwysig mewn sir wledig fel Powys, fel y mae gwasanaethau rheilffordd. Ar gyfer teithwyr a chludo nwyddau, mae gwelliannau i'r coridor rheilffordd strategol yn rhan o Fargen Twf Canolbarth Cymru a disgwylir iddynt helpu i gyflawni targedau datgarboneiddio (mae mesurau i gefnogi'r broses o ddatgarboneiddio trafnidiaeth gyhoeddus) gan gefnogi'r newid moddol i drafnidiaeth gyhoeddus.
Gallai hybu teithio cynaliadwy a chysylltedd gynnwys creu mynediad a gwelliannau i lwybrau hawliau tramwy cyhoeddus a theithio llesol lleol, llwybrau tynnu camlesi, coridorau gwyrdd/glas, ac ati sy'n cysylltu ag iechyd a llesiant da.
Mater Allweddol 5: Poblogaeth-Ymateb i Anghenion a Heriau Demograffig
Cyd-destun: Mae gan Bowys boblogaeth sy'n heneiddio fwyfwy ac mae'n wynebu problem poblogaeth anghytbwys rhwng demograffeg hŷn ac iau. Mae cynnydd y boblogaeth sydd wedi ymddeol nad yw'n gweithio o'i chymharu â'r boblogaeth oedran gweithio yn her sy'n wynebu Powys fel y cydnabyddir yng Nghynllun Llesiant Powys a'r Cynllun Corfforaethol.
Mae gan rai preswylwyr hŷn ofynion tai a gofal arbenigol ac mae angen iddynt allu cael gafael ar lety a gwasanaethau priodol, fel y nodir yn yr Asesiad o'r Farchnad Dai Lleol ac astudiaethau perthnasol eraill.
Er mwyn cefnogi cymunedau sy'n fwy cytbwys o ran oedran, bydd angen i'r CDLl Newydd gefnogi a chreu swyddi, cartrefi a chyfleoedd sy'n cadw ac yn denu mwy o bobl o oedran gweithio. Yn 2021, roedd 56.6% o boblogaeth Powys yn 16–64 oed, o'i chymharu â 61.1% yng Nghymru a 62.4% yn y DU (Asesiad Anghenion Cyflogaeth, 2023).
Oherwydd bod gan Bowys newid naturiol net negyddol (mae marwolaethau yn uwch na genedigaethau), mae effaith mudo yn ddylanwadol iawn ar newid yn y boblogaeth. Ystyrir bod cryfhau'r gweithlu sy'n dod i mewn yn hanfodol er mwyn caniatáu ffyniant economaidd a'r proffil oedran i gael ei ailgydbwyso ledled Powys.
O ran denu pobl sy'n economaidd weithgar, ystyrir Powys yn le lle gall unig fasnachwyr a busnesau bach ffynnu. Mae llawer eisoes yn gweithredu fel rhan o'r economi sylfaenol ac mae busnesau micro (sy'n cyflogi llai na 10 o bobl) yn flaenllaw ac yn cyfrif am 93.1% o'r holl fusnesau yn 2022, o gymharu ag 89.5% o gyfartaledd Cymru (Asesiad Anghenion Cyflogaeth, 2023). Gall gweithio gartref gefnogi'r twf mewn hunangyflogaeth a busnesau micro.
Bydd angen i'r CDLl Newydd fod yn hyblyg ac yn addasadwy o ran diwallu anghenion ac ateb heriau demograffig.
Mater Allweddol 6: Cynllunio ar gyfer Llesiant-Bywydau Hapus, Iach a Diogel mewn Cymunedau Cynaliadwy
Cyd-destun: Rhaid i'r CDLl Newydd gefnogi'r saith nod llesiant cenedlaethol a bennir gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), 2015 a chyflawni amcanion Cynllun Llesiant Powys, sydd â'r blaenoriaethau canlynol:
- Bydd pobl ym Mhowys yn byw bywydau hapus, iach, a diogel.
- Mae Powys yn sir o fannau a chymunedau cynaliadwy.
- Gwasanaeth Cyhoeddus Gynyddol Effeithiol i Bobl Powys.
Mae'r CDLl Newydd yn allweddol o ran: cynllunio'r swm a'r math cywir o gartrefi a swyddi newydd yn y lleoedd cywir a sicrhau bod seilwaith lleol i'w cefnogi nhw; rheoli datblygiad amhriodol; annog ffyrdd iach a llesol o fyw; creu, gwella a gwarchod mannau gwyrdd/glas a hybu seilwaith gwyrdd/glas, gan gynnwys mannau chwarae a darpariaeth chwaraeon, hawliau tramwy, llwybrau teithio llesol a thir comin.
Bydd angen i'r CDLl Newydd gefnogi modelau ymyrraeth newydd hefyd megis gwasanaethau integredig yn y cyfleusterau newydd e.e. canolfan Iechyd a Llesiant arfaethedig Gogledd Powys. Mae'r mathau hyn o brosiect datblygu yn darparu ar gyfer y gwaith o integreiddio gofal a llesiant gan ddod â gwasanaethau meddygol, iechyd, cymunedol, cymdeithasol a gwasanaethau eraill ynghyd.
Mater Allweddol 7: Iechyd-Cefnogi Ffyrdd Iach o Fyw a Hybu Lleoedd Iachach
Cyd-destun: Egwyddor cynllunio allweddol yw hwyluso amgylcheddau hygyrch ac iach sy'n golygu cynllunio a hybu iechyd a llesiant corfforol a meddyliol. Mae iechyd a llesiant yn cydberthyn yn agos. Gall y ffordd mae ein lleoedd yn gweithio ac yn gweithredu gael effaith ar y dewisiadau mae pobl yn eu gwneud yn eu bywydau bob dydd, gan gynnwys eu dewisiadau teithio ac adloniant a pha mor hawdd y gallai fod i gymdeithasu ag eraill.
Mae lleoliad a dyluniad datblygiad newydd yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi ac annog ffyrdd llesol ac iach o fyw. Gellir cefnogi ffyrdd iachach a mwy llesol o fyw drwy leoli datblygiad yn agos at lwybrau Teithio Llesol, drwy ddarparu mynediad at seilwaith gwyrdd/glas a thrwy warchod a gwella mannau agored cyhoeddus megis mannau chwarae, rhandiroedd a mannau tyfu eraill. Mae rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus da a gwell, a chyfleusterau ar gyfer amwynder, adloniant, chwaraeon wedi eu trefnu a hyfforddiant yn enghreifftiau o adnoddau sy'n hybu ymarfer corff, Iechyd a chynhwysiant cymdeithasol.
Dylid hybu iechyd meddwl da ochr yn ochr ag iechyd corfforol, sy'n golygu cynllunio lleoedd sy'n hybu rhyngweithio cymdeithasol yn ogystal â lleoedd ar gyfer ymlacio a phrofiadau tawelach, ym myd natur yn aml. Mae Cynllun Llesiant Powys yn nodi pryder am ordewdra cynyddol, yn enwedig gordewdra ymhlith plant. Mae cynllunio yn hanfodol wrth ddiogelu a sicrhau darpariaeth chwarae awyr agored digonol a mannau gwyrdd hygyrch er budd plant a phobl ifanc.
Mater Allweddol 8: Cynllunio'r Datblygu Iawn yn y Lle Iawn-Sicrhau Datblygu Cynaliadwy
Cyd-destun: Mae cyflawni'r datblygiad iawn yn y lle iawn yn egwyddor PCC allweddol.
Mae angen seilio twf a dosbarthiad gofodol datblygiadau newydd ar ddewisiadau dylunio a lleoliad cydnerth, gan ystyried llawer o ystyriaethau gan gynnwys adnoddau yr amgylchedd naturiol ac iechyd a llesiant.
Mae angen i dwf cynaliadwy a gynllunnir gan y CDLl Newydd fod wedi ei leoli yn unol â strategaeth ofodol sy'n cefnogi'r Ardaloedd Twf Rhanbarthol a nodir gan Gymru'r Dyfodol-Calon Cymru a Bro Hafren-ac yn unol â Hierarchaeth Aneddiadau Cynaliadwy. Disgwylir i'r Ardaloedd Twf Rhanbarthol ddarparu ar gyfer yr anghenion tai, cyflogaeth a chymdeithasol rhanbarthol a'r tu allan i'r ardaloedd hyn, bydd angen cynllunio twf ychwanegol mewn lleoliadau cynaliadwy i ddiwallu anghenion lleol.
Mater Allweddol 9: Y Gymraeg-Hybu a Diogelu
Cyd-destun: Rhagwelir y bydd y boblogaeth sy'n siarad Cymraeg yng Nghymru yn cynyddu yn unol â tharged Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 (Cymraeg 2050: Cynllun Gweithredu Strategaeth y Gymraeg, Llywodraeth Cymru).
Mae'r defnydd o'r Gymraeg yn amrywio'n sylweddol ledled Powys, gyda chadarnleoedd Cymraeg traddodiadol yng nghymunedau y gogledd-orllewin a'r de-orllewin. Yn yr ardaloedd hyn, mae'r Gymraeg a diwylliant Cymreig yn rhan annatod o'r gwead cymdeithasol. Fodd bynnag, canfu Cyfrifiad 2021 fod nifer y siaradwyr Cymraeg ym Mhowys wedi gostwng ychydig yn ystod cyfnod deng mlynedd 2011–2021.
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i hybu'r Gymraeg a'i gwneud yn haws i drigolion ei defnyddio. I hwyluso hyn, mae'r Cyngor yn dilyn Safonau'r Gymraeg, mae ganddo Strategaeth Hybu'r Gymraeg a Chynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg.
Bydd y CDLl Newydd yn dosbarthu twf er mwyn galluogi defnydd o'r Gymraeg i ffynnu, a chynnal cryfder yr iaith mewn meysydd o sensitifrwydd a phwysigrwydd ieithyddol. Disgwylir i gynigion datblygu gyfrannu at fentrau sy'n cefnogi ac yn hybu'r Gymraeg, ac wrth wneud hynny byddant yn ategu rôl y system addysg wrth gynyddu'r cyfleoedd i blant a phobl ifanc fod yn ddwyieithog.
Mater Allweddol 10: Cynllunio ar gyfer Cartrefi Newydd-Nifer, Ansawdd a Fforddiadwyedd
Cyd-destun: Rhaid i'r CDLl Newydd gynllunio i ddiwallu anghenion tai ei gymunedau. Mae angen cartrefi newydd i wasanaethu poblogaeth sy'n tyfu a ffurfiad aelwydydd llai. Mae Amcanestyniadau Poblogaeth ac Aelwydydd diweddaraf Llywodraeth Cymru yn rhan allweddol o'r dystiolaeth ar gynllunio'r nifer iawn o gartrefi newydd, yn ogystal â gwybodaeth am Asesiad o'r Farchnad Dai Leol a rhestr aros y Cyngor.
Bydd y CDLl Newydd yn nodi ffigur gofyniad tai ar gyfer nifer yr aelwydydd newydd sydd eu hangen ar draws cyfnod 15 mlynedd y cynllun.
Pennir targed anheddau fforddiadwy, a fydd yn cael ei lywio gan yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol a'r dystiolaeth ddiweddaraf ar hyfywedd datblygu. Economi cyflog isel sydd gan Bowys yn bennaf, sy'n effeithio ar fforddiadwyedd cartrefi newydd i bobl leol, ac mae enillion gweithle ym Mhowys yn 2022 yn yr 16eg safle isaf ymhlith y 23 Awdurdod Lleol yng Nghymru (Asesiad Anghenion Cyflogaeth, 2023). Mae prisiau tai cyfartalog ym Mhowys wedi cynyddu ar gyfradd sy'n uwch na'r incwm cyfartalog, sy'n arwain at fwy o angen am dai fforddiadwy.
Hefyd, mae'n rhaid i'r CDLl Newydd fynd i'r afael ag anghenion tai arbenigol megis tai byw'n annibynnol, tai gwarchod neu dai gofal ychwanegol i bobl hŷn, llety byw â chymorth, anghenion cymunedau Sipsiwn a Theithwyr, ac anghenion mentrau gwledig. Gall cynlluniau pwrpasol megis tai cydweithredol a thai a arweinir gan y gymuned a hunanadeiladu helpu i fynd i'r afael â rhai o'r anghenion hyn.
Mater Allweddol 11: Cynllunio ar gyfer Economi Fywiog-Llesiant Economaidd Hirdymor
Cyd-destun: Mae gan Bowys sylfaen economaidd eang sydd wedi ei seilio ar amaethyddiaeth, twristiaeth, gweithgynhyrchu, y sector a gwasanaethau cyhoeddus, ac mae'n cefnogi nifer uchel o fentrau bach i ganolig.
Mae angen darparu safleoedd cyflogaeth a pholisïau cefnogol er mwyn diwallu anghenion cyflogaeth a gofynion busnesau presennol a busnesau newydd ym Mhowys. Bydd hyn yn helpu i gyflawni economi lleol ffyniannus a chymunedau cryfach.
Mae cadw a denu poblogaeth o oedran gweithio yn un her sy'n wynebu Powys. Ystyrir bod cael economi deinamig, bywiog ac amrywiol, sy'n diogelu swyddi presennol ac yn darparu cyfleoedd am swyddi a sgiliau newydd â chyflogau uwch, yn hanfodol wrth helpu i fynd i'r afael â'r her hon.
Bydd angen i'r CDLl Newydd ddarparu cyflenwad digonol o dir cyflogaeth, gwarchod safleoedd presennol a darparu cymorth i'r economi wledig ehangach. Dylid lleoli datblygiad cyflogaeth newydd yn gynaliadwy, er mwyn lleihau'r angen i deithio.
Mater Allweddol 12: Cynllunio ar gyfer Ffermio Cryf ac Economi Wledig-Gan gynnwys Datblygu Rhwydweithiau Bwyd Lleol
Cyd-destun: Gan mai sir wledig yw hi yn bennaf, mae ffermio a gweithgareddau coedwigaeth yn bwysig o ran cefnogi bywoliaethau a chymunedau gwledig ledled Powys, ac o ran darparu sicrwydd bwyd i'r genedl. Mae amaethyddiaeth wedi llunio tirwedd Powys ac wedi cefnogi trefi marchnad ers cenedlaethau ac mae'n ymateb ac yn addasu i heriau newid hinsawdd ac adfer natur.
Bydd angen i'r CDLl Newydd gefnogi'r sectorau amaethyddol a garddwriaethol gan fod yn ofalus er mwyn rheoli unrhyw effeithiau andwyol a hybu adferiad natur.
Disgwylir i newidiadau i'r drefn cymhorthdal ffermio yn y dyfodol gynyddu cymorth i reoli tir yn gynaliadwy a ffermio amgylcheddol gyfrifol. Gallai hyn arwain at amrywio'r economi ymhellach wrth i fentrau gwledig ymateb ac addasu. Mae amrywio'r economi wledig yn creu cyfleoedd am entrepreneuriaeth, arloesedd ac yn creu cyfoeth sy'n hanfodol ar gyfer economi iach a chymunedau gwledig cynaliadwy. Gallai natur ucheldirol ac ansawdd tir amaethyddol ym Mhowys gyfyngu ar arweiniad at amrywiaeth bellach mewn twristiaeth ac ynni adnewyddadwy.
Mater Allweddol 13: Cefnogi Bargen Twf Canolbarth Cymru
Cyd-destun: Mae gweledigaeth ranbarthol "Tyfu Canolbarth Cymru" yn dweud, erbyn 2035, y bydd Canolbarth Cymru:
Yn "rhanbarth unigryw a llawn menter sy'n darparu twf economaidd wedi'i yrru gan arloesi, sgiliau, cysylltedd a swyddi mwy cynhyrchiol yn cynnal cymunedau ffyniannus a dwyieithog".
Mae Bargen Twf Canolbarth Cymru wedi ei gosod o fewn y weledigaeth ehangach ar gyfer Tyfu Canolbarth Cymru ac mae'n ategu strategaethau a buddsoddiadau eraill gan y sector cyhoeddus a phreifat i ddod â ffyniant i gymunedau a busnesau y rhanbarth. Bydd Bargen Twf Canolbarth Cymru yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi adferiad a thwf economaidd yn economi Canolbarth Cymru, gyda'r nod o gefnogi'r broses o greu swyddi a chynyddu cynhyrchiant ac uchelgeisiau cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach.
Mae Bargen Twf Canolbarth Cymru yn cynnwys cyfres o raglenni a phrosiectau sy'n cwmpasu amrywiaeth o gynigion buddsoddi ar draws themâu digidol, twristiaeth, amaethyddiaeth, bwyd a diod, ymchwil ac arloesedd a chefnogi menter. Nod y rhaglen waith safleoedd ac adeiladau yw ysgogi buddsoddiad mewn eiddo yn rhanbarth Canolbarth Cymru, er mwyn cefnogi sectorau diwydiant amrywiol gan sicrhau'r cyflenwad a'r lleoliad cywir i ddiwallu anghenion busnes.
Mae Bargen Twf Canolbarth Cymru hefyd yn ceisio cyflawni gwelliannau coridor rheilffordd strategol gan gynnwys cefnogi gwaith cludo nwyddau yn rhan o gyflawni amcanion amgylcheddol. Gellid datblygu gorsafoedd rheilffordd allweddol i ddarparu ar gyfer cyfnewidfeydd canolfannau strategol. Mae gwelliannau rheilffyrdd yn ategu'r newid moddol gofynnol i drafnidiaeth gyhoeddus.
Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a rhanddeiliaid eraill, mae'r Cyngor eisoes yn cefnogi nodau ac amcanion Bargen Twf Canolbarth Cymru a bydd y CDLl Newydd yn cael ei ddefnyddio yn rhan o'r ateb tuag at sicrhau bod y Fargen yn cael ei chwblhau'n llwyddiannus ac yn cyflawni'r canlyniadau a fwriedir.
Mater Allweddol 14: Cefnogi Twristiaeth Gynaliadwy
Cyd-destun: Mae twristiaeth yn rhan bwysig o economi Powys. Mae ei golygfeydd eithriadol, ei chynigion diwylliannol a threftadaeth a'i chyfleoedd adloniant sy'n canolbwyntio ar yr awyr agored yn aml yn denu ymwelwyr i'r ardal. Mae twristiaeth yn rhan o'r economi sylfaenol ac mae posibilrwydd o ddatblygu twristiaeth gynaliadwy ymhellach, yn enwedig twristiaeth llesol, gwyrdd a diwylliannol, fel y pwysleisia Cymru'r Dyfodol.
Disgrifia Cymru'r Dyfodol Ganolbarth Cymru fel rhanbarth â "toreth o asedau naturiol eithriadol o harbyrau a dyfrffyrdd i fynyddoedd a thirweddau dynodedig, sydd i gyd yn cyfrannu at arlwy twristiaeth heb ei ail".
Mae denu twristiaeth yn gysylltiedig â'r mater o ofalu am adnoddau (Mater Allweddol 3) yn enwedig o ran diogelu a gwella asedau megis y dirwedd, hawliau tramwy cyhoeddus, y goedwig genedlaethol, asedau hanesyddol a diwylliannol. Mae angen i drefi a'u canolfannau fod mewn iechyd da er mwyn bod yn groesawgar ac yn ddeniadol i ymwelwyr.
Mater Allweddol 15: Creu Lleoedd Lleol-Dylunio Da sy'n Creu Lleoedd Gwell
Cyd-destun: Cyfeiria Cynllun Corfforaethol y Cyngor at sut mae'r CDLl Newydd yn bwysig o ran datblygu trefi a phentrefi ffyniannus. Ystyrir dull cadarnhaol o greu lleoedd lleol yn allweddol i'r mater o gyflawni lleoedd cynaliadwy a ffyniannus yn lleol lle mae pobl yn dymuno byw.
Diffinia creu lleoedd yn PCC fel creu "mannau cynaliadwy sy'n ddeniadol, yn gymdeithasol, yn hygyrch, yn actif, yn ddiogel, yn groesawgar, yn iach ac yn gyfeillgar".
Wrth greu lleoedd ar gyfer lleoedd lleol, mae'n rhaid dilyn y Canlyniadau Cenedlaethol Creu Lleoedd Cynaliadwy ar gyfer:
- Helpu'r economi i dyfu mewn modd cynaliadwy.
- Gwneud y defnydd gorau o adnoddau.
- Hybu amgylchedd hygyrch ac iach.
- Creu a chynnal cymunedau.
- Rhoi'r amddiffyniad gorau i'r amgylchedd a chyfyngu'r effeithiau ar yr amgylchedd.
Mae creu lleoedd a dylunio da yn cydberthyn yn sylfaenol. Mae PCC yn nodi amcanion dylunio da sy'n dechrau wrth ddadansoddi'r safle a'r cyd-destun ac maent yn ystyried: Symudiadau, Mynediad, Cymeriad, Diogelwch Cymunedol a Chynaliadwyedd Amgylcheddol.
Mae creu lleoedd yn ystyried amrywiaeth eang o ffactorau ac mae Comisiwn Dylunio Cymru wedi dyfeisio Siarter Creu Lleoedd a chyhoeddi canllawiau ar yr egwyddorion ar gyfer creu lleoedd o ansawdd uchel:
- Pobl a'r gymuned.
- Lleoliad.
- Symudiadau.
- Cymysgedd o ddefnyddiau.
- Tir y Cyhoedd.
- Hunaniaeth.
Mae'r egwyddor hunaniaeth, er enghraifft, yn cynnwys rhinweddau cadarnhaol, unigryw lle sydd eisoes yn bodoli megis ei dreftadaeth, ei ddiwylliant-gan gynnwys cerddoriaeth, llenyddiaeth, chwaraeon a'r celfyddydau-iaith a nodweddion ffisegol adeiledig a naturiol.
Gall dylunio da wella diogelwch yr amgylchedd adeiledig drwy gadw at egwyddorion Diogelu Drwy Ddylunio.
Mae'n bwysig bod y CDLl Newydd yn ategu ac yn cefnogi Cynlluniau Bro lleol. Gall gwelliannau i dir y cyhoedd helpu gyda'r ymateb cadarnhaol i'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur, er enghraifft, drwy blannu coed stryd a phlanwyr yn ofalus.
Er mwyn creu lleoedd cynaliadwy llwyddiannus, rhaid i Greu Lleoedd a Dylunio Da fod yn ddaliad canolog i'r CDLl Newydd.
Mater Allweddol 16: Cynllunio ar gyfer Anghenion Seilwaith a Gwasanaeth-Gan gynnwys Gofynion Dyfodol Digidol
Cyd-destun: Ardal CDLl Powys yw'r ardal cynllun mwyaf o ran maint a mwyaf prin ei phoblogaeth yng Nghymru ac mae ei thopograffeg a'i natur wledig yn darparu heriau o ran seilwaith a darparu gwasanaethau. Fodd bynnag, mae'r nodweddion hyn yn darparu cyfleoedd posibl am seilwaith gwyrdd a darpariaeth ynni adnewyddadwy a leolir yn briodol.
Bydd angen cyfeirio'r mwyafrif o'r datblygiadau newydd at leoliadau sy'n cael eu gwasanaethu orau gan seilwaith presennol ac arfaethedig (cyfleustodau cyhoeddus, trafnidiaeth, ac ati) a gwasanaethau (iechyd, addysg, hamdden, ac ati). Bydd y CDLl Newydd yn diffinio Hierarchaeth Aneddiadau Cynaliadwy sy'n ystyried seilwaith a darpariaeth gwasanaethau ac yn cefnogi'r Ardaloedd Twf Rhanbarthol a nodir yn Cymru'r Dyfodol fel canolfannau gwasanaeth ar gyfer "[c]adw a gwella'r sail gwasanaethau masnachol a chyhoeddus sy'n eu gwneud yn ganolbwyntiau yn eu hardaloedd".
Trwy ddiwallu anghenion tai ac economaidd yn y dyfodol, mae gan y CDLl Newydd y potensial i effeithio ar y galw am wasanaethau a seilwaith, a bydd angen i ddarparwyr gwasanaethau ystyried hyn wrth gynllunio cynlluniau buddsoddi yn y dyfodol. Mae'r Cyngor yn adolygu ei ddarpariaeth gwasanaethau drwy fframwaith "Powys Gynaliadwy" ac mae'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn rhoi cyfle i gydgysylltu iechyd a llesiant.
Weithiau, mae seilwaith cyfleustodau, megis carthffosydd cyhoeddus, gwaith trin dŵr gwastraff, prif gyflenwad dŵr a phrif gyflenwad nwy nad ydynt ar gael neu nad ydynt yn gweithredu hyd eithaf eu capasiti mewn rhannau o ardal y CDLl Newydd ac maent yn gweithredu fel cyfyngiad ar ddatblygu.
Mae'r angen am well cyfathrebu digidol a gwell cwmpas symudol hefyd yn fater pwysig i'r CDLl Newydd o ystyried ei arwyddocâd cymdeithasol ac economaidd. Mae angen datblygiad newydd gan PCC i ddarparu seilwaith band eang a all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid (cysylltedd cyflym).
Mater Allweddol 17: Cefnogi Cyfleusterau Cymunedol ac Asedau Cymunedol
Cyd-destun: Mae cyfleusterau cymunedol yn tanategu gwead economaidd, cymdeithasol a diwylliannol trefi, pentrefi a chymunedau gwledig Powys. Yn ogystal â gwasanaethu anghenion lleol, mae presenoldeb cyfleusterau ac asedau cymunedol yn cynyddu egni aneddiadau, yn atgyfnerthu'r economi leol, yn lleihau unigedd cymdeithasol, yn diogelu llesiant ac yn lleihau dibyniaeth ar geir preifat drwy leihau'r angen i deithio i gyrraedd gwasanaethau a chyfleusterau eraill.
Mae cefnogi'r broses o gadw a darparu cyfleusterau cymunedol dichonol i ddiwallu anghenion lleol yn elfen hanfodol o greu lleoedd llwyddiannus (Mater Allweddol 15) ac o gyfrannu at drefi a phentrefi ffyniannus.
Gall y CDLl Newydd gynorthwyo i warchod y ddarpariaeth o gyfleusterau cymunedol drwy ei strategaeth ofodol a thrwy alluogi cymunedau i gaffael asedau y maent yn eu hystyried yn hanfodol i'w hegni cyfredol.
Mater Allweddol 18: Cefnogi Stryd Fawr Powys-Canol Trefi yn Gyntaf.
Cyd-destun: Mae angen cymysgedd o ddefnyddiau ategol i wneud canol trefi yn lleoedd deniadol, hanfodol a dichonol, er mwyn ymateb yn gadarnhaol i heriau adfer y stryd fawr a ddaeth yn sgil pandemig COVID-19, siopa ar-lein a natur newidiol swyddfeydd a'r gweithle.
Mae gan lawer o drefi yn ardal CDLl Powys Gynllun Bro, Cynllun Buddsoddi mewn Canol Trefi, neu Gynllun Creu Lleoedd i gefnogi canol trefi llwyddiannus a bywiog. Bydd angen i'r CDLl Newydd ystyried dyheadau'r Cynlluniau hyn er mwyn sicrhau dull cydgysylltiedig.
Rhaid i'r CDLl Newydd gymhwyso polisi 'Rhoi Canol Trefi yn Gyntaf' yn Cymru'r Dyfodol sy'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gyfleusterau masnachol, adwerthu, addysg, iechyd, hamdden a gwasanaethau cyhoeddus newydd arwyddocaol (h.y. cyfleusterau sy'n galw am lawer o deithio) gael eu lleoli yng nghanol trefi, ac i ddefnyddio dull dilyniannol wrth ddyrannu'r mathau hyn o ddatblygiad. Nod dull 'Rhoi Canol Trefi yn Gyntaf' yw sicrhau bod canol trefi yn parhau i fod yn lleoedd amlswyddogaethol pwysig sy'n gweithredu fel canolbwyntiau cymunedau. Mae hyn yn cynnwys galluogi adeiladau segur a gwag i gael eu hailbwrpasu, galluogi defnyddiau eraill a hybu adfywio. Gall datblygiadau llai mewn trefi, neu gynigion mewn canolfannau lleol llai, elwa ar y dull gweithredu hefyd fel bod cyfleusterau sy'n cynhyrchu ymwelwyr wedi eu hintegreiddio mewn cymdogaethau cerddedadwy a defnydd cymysg.
Mater Allweddol 19: Cefnogi Ynni Cynaliadwy: Rheoli Pŵer Gwyrdd a Hybu Effeithlonrwydd Ynni
Cyd-destun: Ystyrir bod posibilrwydd o ddefnyddio adnoddau naturiol y Sir yn ofalus i gefnogi'r broses o gynhyrchu ynni adnewyddadwy a thwf economaidd. Mae angen cysoni datblygiad ynni adnewyddadwy â seilwaith grid priodol.
Bydd datblygu prosiectau gwynt ar y tir, solar a storio ynni a chysylltiadau grid mewn lleoliadau priodol yn galluogi ynni glân a gwyrdd i gael ei gynhyrchu a'i ddosbarthu, gan gyfrannu at fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a chyflawni targedau ynni adnewyddadwy a Sero Net ar gyfer carbon.
Mae Polisïau 17 a 18 Cymru'r Dyfodol yn galluogi ystyriaethau i gael eu cydbwyso'n ofalus mewn fframwaith cadarnhaol yn bennaf ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy a charbon isel. Bydd angen i bob cynnig ddangos na fyddant yn cael effaith andwyol annerbyniol ar yr amgylchedd a bydd angen ystyried effeithiau cronnus y cynnig gyda chynlluniau ynni adnewyddadwy presennol, rhai sydd wedi eu cydsynio a chynlluniau ynni adnewyddadwy arfaethedig eraill.
Mae Cymru'r Dyfodol yn cynnwys ymrwymiad i brosiectau ynni adnewyddadwy newydd gael elfen o berchnogaeth leol ac i ddod â buddion i gymunedau lletyol.
Mae rhanbarth Canolbarth Cymru yn defnyddio dull Cynllunio Ynni Ardal Leol a fydd yn llywio Cynllun Ynni Cenedlaethol newydd i Gymru. Bydd angen ystyried perthynas gweithredoedd lleol Cynllunio Ynni Ardal Leol â'r CDLl Newydd.
Mae'n bwysig bod yr Hierarchaeth Ynni yn PCC yn cael ei dilyn, fel bod yr holl ddatblygiadau newydd yn cael eu cynllunio i liniaru achosion newid hinsawdd. Mae hyn yn golygu y dylid lleihau gymaint â phosibl ofynion ynni datblygiadau newydd a phresennol a mesurau effeithlonrwydd ynni a gynhwysir.
Mater Allweddol 20: Rheoli a Lleihau Gwastraff
Cyd-destun: Mae rheoli gwastraff yn gynaliadwy, lle bo gwastraff yn cael ei leihau gymaint â phosibl, ei ailddefnyddio, ei ailgylchu a'i ddargyfeirio'n llwyddiannus oddi wrth safleoedd tirlenwi yn hanfodol i gyflawni economi gynaliadwy. Mae angen sicrhau y darperir amrywiaeth eang a dewis o wahanol safleoedd, o ran cymeriad, maint a lleoliad, ledled y sir i ddarparu ar gyfer yr ystod lawn o wahanol gyfleusterau rheoli gwastraff. Bydd angen i'r CDLl newydd gefnogi'r hierarchaeth gwastraff cenedlaethol, a hwyluso lleihad mewn gwastraff, ailgylchu a chompostio, ac ynni o wastraff.