Y Strategaeth a Ffefrir

Daeth i ben ar 7 Hydref 2024

9. Fframwaith a Pholisïau Strategol

9.1 Strategaeth Twf-Faint o ddatblygiad sydd wedi ei gynllunio?

Rhaid i'r CDLl Newydd gynllunio ar gyfer lefel twf cynaliadwy dros gyfnod ei gynllun 2022–2037:

  • Er mwyn cyflawni'r dyheadau a gynhwysir yn y Weledigaeth a'r Amcanion;
  • Er mwyn diwallu'r anghenion a nodir yn y sylfaen dystiolaeth, gan gynnwys yr Asesiad o'r Farchnad Dai Lleol a'r Asesiad Anghenion Cyflogaeth; ac
  • Er mwyn sicrhau digon o hyblygrwydd i ymateb i anghenion arbenigol a newidiol.

Mae'r CDLl Newydd yn nodi Gofyniad Tai o 3,975 o anheddau y bydd 1,036 ohonynt yn dai fforddiadwy. Mae hyn yn cyfateb i gyfradd adeiladu cyfartalog blynyddol o 265 o anheddau y bydd 69 ohonynt yn dai fforddiadwy.

Mae lefel y twf tai a gynigir yn seiliedig ar gyfradd cwblhau tai cyfartalog o 264 o anheddau fesul blwyddyn dros y cyfnod deng mlynedd rhwng 2012/2013 a 2022/2023. Ystyrir bod yr amserlen hon yn briodol oherwydd ei bod yn cwmpasu cyfnod pan gwblhawyd nifer isel o dai a chynnydd mwy diweddar yn y tai a adeiledir ym Mhowys.

Er mwyn cyflawni'r Gofyniad Tai, mae'r CDLl Newydd yn darparu ar gyfer 4,810 o anheddau, sy'n cynnwys lwfans hyblygrwydd ychwanegol o 21% uwchben y Gofyniad Tai. Esbonnir hyn ymhellach yn y papur Cyflenwad Tir ar gyfer Tai.

Mae'r CDLl Newydd yn nodi Darpariaeth Tir Cyflogaeth o 40 hectar ar gyfer Dosbarthiadau Defnydd B1/B2/B8 a fydd yn diwallu'r anghenion cyflogaeth a nodir ac yn gwasanaethu rhywfaint o'r cynnydd disgwyliedig i'r llafurlu, gan leihau'r angen i gymudo.

Er nad yw'r dystiolaeth ategol wedi nodi perthynas gref rhwng twf yn y boblogaeth a thir cyflogaeth, ystyrir bod angen 40 hectar o dir cyflogaeth i roi cyfle digonol i fusnesau ehangu ac adleoli ym Mhowys ac i hwyluso Bargen Twf Canolbarth Cymru. Hefyd, fel y gall y CDLl Newydd gefnogi cymunedau mwy cytbwys o ran oedran, mae angen iddo hwyluso'r broses o greu swyddi, cartrefi a chyfleoedd sy'n cadw ac yn denu mwy o bobl o oedran gweithio, gan ddarparu cyfleoedd am gynnydd disgwyliedig o 2,295 o bobl i'r gweithlu.

Er mwyn dangos y gellir eu cyflawni, mae'r lefelau twf tai a chyflogaeth wedi eu llywio gan dystiolaeth o'r cyfraddau a fanteisiodd ar hyn yn y gorffennol. Ystyrir hefyd fod y lefelau twf yn ddigon uchelgeisiol i ddiwallu anghenion ardal y Cynllun ac i adlewyrchu rôl Powys yn Rhanbarth Canolbarth Cymru a'i dwy Ardal Twf Rhanbarthol.

Polisi Strategol SP1-Graddfa'r Twf

Bydd CDLl Newydd Powys yn darparu ar gyfer y lefelau canlynol o dwf cynaliadwy yn ystod cyfnod 2022–2037:

  • 4,810 o gartrefi newydd i fodloni'r gofyniad tai a nodwyd, sef 3,975 o gartrefi, gan gynnwys 1,036 o dai fforddiadwy.
  • 40 hectar o dir ar gyfer defnydd cyflogaeth a datblygiad economaidd Dosbarth B.
  • Cyflawni seilwaith cysylltiedig sy'n angenrheidiol i gefnogi'r twf.

Mae Polisi Strategol SP1 yn nodi'r lefelau twf i'w cyflawni yn ystod cyfnod y cynllun. Bydd cynllunio ar gyfer twf cynaliadwy yn diwallu'r anghenion tai a chyflogaeth yn y dyfodol a nodir ac yn cefnogi uchelgeisiau y Cyngor i fynd i'r afael â nifer o faterion allweddol megis cynyddu'r boblogaeth oedran gweithio er mwyn mynd i'r afael ag anghydbwysedd demograffig.

9.2 Strategaeth Ofodol-Ble mae datblygiad wedi ei gynllunio?

Ar ôl nodi graddfa'r twf a'r datblygiad sydd ei hangen ar gyfer cyfnod cynllun 2022–2037, rhaid i'r CDLl Newydd, drwy ei strategaeth ofodol, arwain a dosbarthu datblygiad i leoliadau cynaliadwy wrth ddiogelu adnoddau ac asedau strategol pwysig, hwyluso gwelliant mewn bioamrywiaeth, cydnerthedd ecosystemau a darpariaeth seilwaith gwyrdd.

Mae'r Strategaeth a Ffefrir yn seiliedig ar Ddewis Gofodol yr Ardal Twf Rhanbarthol (twf â phwyslais), sy'n cyfeirio'r rhan fwyaf o'r twf at y Clystyrau Ardal Twf Rhanbarthol. Y tu allan i'r Clystyrau Ardal Twf Rhanbarthol, cynllunnir lefelau twf is ar gyfer aneddiadau Clwstwr Lleol.

Mae'r 'Clystyrau' yn hybu'r cysyniad o 'Fyw'n Lleol' ac yn bwriadu lleoli datblygiadau newydd o fewn pellter cerdded/beicio, neu o wneud taith fer ar drafnidiaeth gyhoeddus, i wasanaethau allweddol bob dydd. Bydd hyn yn lleihau'r angen i deithio mewn cerbydau modur preifat, gan hybu gweithgarwch corfforol ac iechyd a llesiant preswylwyr. Mae'r strategaeth yn gwneud defnydd llawn o wasanaethau bysiau a gwasanaethau trên Calon Cymru a Lein y Cambrian, sy'n galluogi preswylwyr mewn aneddiadau llai i gysylltu ag aneddiadau Haen 1 a Haen 2 sy'n gweithredu fel canolfannau gwasanaeth drwy lwybr trafnidiaeth cynaliadwy. Enghraifft benodol yw Clwstwr Ardal Twf Rhanbarthol Calon Cymru, lle mae nifer o orsafoedd rheilffordd bach mewn aneddiadau haen is o fewn taith 10 munud i aneddiadau Haen 1 Llandrindod a Llanfair-ym-Muallt.

Gwneir darpariaeth i sicrhau bod yr anghenion tai a nodir ar gyfer pob Ardal Marchnad Tai yn yr Asesiad o'r Farchnad Dai Lleol a'r anghenion cyflogaeth ledled Ardaloedd Marchnad Masnachol, a nodir yn yr Asesiad Anghenion Cyflogaeth, yn cael sylw. Mae'r dull hwn yn darparu digon o hyblygrwydd i gynllunio ar gyfer datblygiad mewn lleoedd na chyfyngir arnynt gan faterion niwtraliaeth maetholion (ffosffad) na pherygl o lifogydd. Mae hefyd yn caniatáu datblygiad yng Nghadarnleoedd y Gymraeg mewn ffordd a fydd yn annog y Gymraeg i ffynnu a bydd yn ei gwneud yn bosibl i fynd i'r afael ag anghenion tai arbenigol ac anghenion newydd sy'n codi.

Dosberthir aneddiadau nad ydynt wedi eu cynnwys yn y 'Clystyrau' fel Aneddiadau nad ydynt yn rhan o Glwstwr/Ardaloedd Gwledig. Bydd lefelau is o ddatblygiad yn cael eu cynllunio yn yr Ardal Wledig a byddant yn cael eu dosbarthu i aneddiadau haen uwch yn yr Hierarchaeth Aneddiadau Cynaliadwy.

Er mwyn cyflawni cymunedau gwledig cynaliadwy, canolbwyntir ar fynd i'r afael ag anghenion a nodir, cefnogi'r economi wledig a hybu datblygiad cysylltiadau cynaliadwy mewn aneddiadau gwledig, a rhwng aneddiadau gwledig. Bydd rhywfaint o ddatblygiad yn yr aneddiadau hyn yn cefnogi'r Gymraeg drwy ganiatáu i bobl leol aros yn eu cymunedau.

Mae Tabl 6 yn dangos dosbarthiad twf tai rhwng Clystyrau Ardal Twf Rhanbarthol, Clystyrau Lleol ac Ardaloedd Gwledig. Dangosir holl elfennau y cyflenwad tai gan gynnwys y nifer a gwblhawyd, ymrwymiadau, datblygiadau ar hap a safleoedd tai dynodedig. Mae'n nodi y bydd 65% o'r safleoedd a ddyrannwyd yn cael eu lleoli yn y Clystyrau Ardal Twf Rhanbarthol. Fodd bynnag, mae ffactorio holl elfennau cyflenwad tir ar gyfer tai yn golygu y rhagwelir y bydd 55% o dwf tai y CDLl Newydd yn digwydd mewn Clystyrau Ardal Twf Rhanbarthol.

Dosberthir twf cyflogaeth ledled yr Ardaloedd Marchnad Masnachol, gan flaenoriaethu'r rhai sydd mewn Clystyrau Ardal Twf Rhanbarthol neu'n gorgyffwrdd â nhw, er mwyn sicrhau cysondeb â'r dosbarthiad tai ac ymateb i'r anghenion sy'n deillio o Fargen Twf Canolbarth Cymru.

Tabl 6. Canran y Twf Tai a Ddosberthir rhwng Clystyrau Ardal Twf Rhanbarthol, Clystyrau Lleol ac Ardaloedd Gwledig.

Clystyrau Ardal Twf Rhanbarthol

Clystyrau Lleol

Ardaloedd Gwledig

Y Nifer a Gwblhawyd (2022–2024)

50%

22%

28%

Ymrwymiadau Tai (Safleoedd Mawr)-Unedau Nad Ydynt Wedi Eu Dechrau ac Sydd Wrthi'n Cael Eu Hadeiladu

58%

37%

5%

Nifer yr unedau Hap-safleoedd a Ragwelir

45%

20%

35%

Anheddau ar Safleoedd Tai a Ddyrannwyd

65%

25%

10%

% y Dosbarthiad o'r Cyfanswm (Targed)

>55%

>25%

<20%

Bydd dosbarthu'r rhan fwyaf o'r twf i'r Clystyrau Ardal Twf Rhanbarthol a Chlystyrau Lleol yn cynyddu hyfywedd gwasanaethau ac yn darparu pwyslais ar gyfer gwelliannau seilwaith. Bydd hyn yn cefnogi Amcanion y CDLl Newydd wrth ymateb i'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur drwy annog pobl i fanteisio ar dir a ddatblygwyd yn flaenorol, lleihau'r angen i deithio, a gwarchod diogelu tirwedd ac amgylchedd Powys.

Mae Polisi Strategol SP2 yn nodi'r Strategaeth Twf Cynaliadwy cyffredinol.

Polisi Strategol SP2-Strategaeth Twf Cynaliadwy

Bydd dosbarthiad eang datblygiad yn ardal y cynllun yn cael ei lunio gan yr Hierarchaeth Aneddiadau Cynaliadwy a'r Clystyrau Ardal Twf Rhanbarthol a nodir, Clystyrau Lleol ac Aneddiadau Ardaloedd Gwledig/Nad ydynt yn rhan o Glwstwr, gan adlewyrchu rôl a swyddogaeth lleoedd.

Caiff twf ei flaenoriaethu mewn aneddiadau sydd mewn Clystyrau Ardal Twf Rhanbarthol, gan alluogi lefelau twf is mewn aneddiadau sydd mewn Clystyrau Lleol er mwyn sicrhau cysylltedd rhwng cartrefi a swyddi newydd, mynediad at wasanaethau a chyfleoedd trafnidiaeth cynaliadwy.

Mewn aneddiadau Ardaloedd Gwledig/Nad ydynt yn rhan o Glwstwr, ar ddiwallu anghenion a nodir, cyflawni cymunedau gwledig cynaliadwy a datblygu economi gwledig ffyniannus y mae'r pwyslais.

Mae'r Hierarchaeth Aneddiadau Cynaliadwy fel a ganlyn:

A. Aneddiadau Clwstwr Ardal Twf Rhanbarthol

Disgwylir i'r ardaloedd hyn gymryd o leiaf 55% o'r twf tai a chyflogaeth, gan gynnwys yr aneddiadau a ganlyn:

  • Haen 1-Y Drenewydd, Llandrindod, Llanfair-ym-Muallt a Llanelwedd, Y Trallwng
  • Haen 2-Aber-miwl, Llanidloes, Rhaeadr Gwy
  • Haen 3-Aberriw, Arddlin, Betws Cedewain, Caersŵs, Castell Caereinion, Cegidfa, Ceri, Ffordun a Kingswood, Y Groes, Hawy, Llandinam, Llangurig, Llanllŷr, Pontnewydd-ar-Wy, Treberfedd, Trewern
  • Haen 4-Cilmeri, Heol Llanfair-ym-Muallt, Leighton, Llanarmon, Pentre, Pen-y-bont, Tal-y-bont, Y Trallwng
  • Haen 5-Aberbechan, Cwmbelan, Dolfor, Erwyd, Felin-fach, Garth, Garthmyl, Groes-lwyd, Llanddewi Ystradenni, Llanwrthwl, Pant-y-dŵr, Refail

B. Aneddiadau Clwstwr Lleol

Disgwylir i'r ardaloedd hyn gymryd oddeutu 25% o'r twf tai a chyflogaeth, gan gynnwys yr aneddiadau a ganlyn:

  • Haen 1-Machynlleth, Trefyclo, Ardal Ystradgynlais
  • Haen 2-Y Gelli Gandryll, Llanandras, Llandysilio, Llanfair Caereinion, Llanfyllin, Llanwrtyd, Trefaldwyn
  • Haen 3-Aber-craf, Aberllynfi, Bochrwyd a Llys-wen, Bronllys, Y Coelbren, Y Clas-ar-Wy, Cnwclas, Crew Green, Llandrinio, Llanfechain, Llansantffraid-ym-Mechain, Llanymynech, Meifod, Yr Ystog
  • Haen 4-Caehopcyn, Caerhywel, Derwenlas, Esgairgeiliog Ceinws, Llangadfan, Llangamarch, Norton, Penegoes
  • Haen 5-Beulah, Bwlchycibau, Cefngorwydd, Coedway, Glantwymyn, Kinnerton, Llanerfyl, Llowes

C. Aneddiadau Ardal Gwledig/Nad ydynt yn rhan o Glwstwr

Bydd y datblygiad a ganiateir yn yr aneddiadau hyn ar raddfa lai, gan ganolbwyntio ar ddiwallu anghenion a nodir a chyflawni cymunedau gwledig cynaliadwy. Mae'r aneddiadau yn cynnwys:

  • Haen 3-Carno, Cleirwy, Llanbrynmair, Llangynog, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Llansilin, Maesyfed, Pen-y-bont-fawr, Pontrobert, Trefeglwys, Tregynon
  • Haen 4-Llandysul, Llan-ddew, Sarn, Stepaside
  • Haen 5-Abercegyr, Aberedw, Aberhafesb, Abertridwr, Adfa, Banc y Fron, Y Batel, Y Bontfaen, Castell-paen, Cei'r Trallwng, Cemaes, Clatter, Comins-coch, Cradoc, Cwm-bach, Cwm Linau, Einsiob, Y Fan, Felindre (Sir Frycheiniog), Y Foel, Ffynnon Gynydd, Groesffordd, Llanbadarn Fynydd, Llanfair Llythynwg, Llanbister, Llanfihangel, Llanfihangel Tal-y-llyn, Llanfilo, Llangedwyn, Llangynllo, Llanigon, Llannerch Emrys, Llanwddyn, Llanwnnog, Llanwrin, Manafon, Pentref Elan, Pen-y-bont, Pontffranc, Rhosgoch, Sarnau (Sir Drefaldwyn), Tanhouse, Walton, Llanddewi-yn-Hwytyn
  • Haen 6-Abaty Cwm-hir, Bleddfa, Bugeildy, Bwlch-y-ffridd, Capel Isaf, Cefn-coch, Darowen, Dolanog, Dolau, Felindre, Felin Newydd, Hundred House, Llan, Llandeglau, Llannewydd, Llawr-y-glyn, Lloyney, Nant-glas, Nantmel, Pencraig, Talerddig

D. Cefn Gwlad Agored (gan gynnwys yr Arfordir nas Datblygwyd)

Diffinnir Cefn Gwlad Agored fel ardal y cynllun sydd y tu allan i'r aneddiadau a restrir uchod ac mae'n cynnwys yr arfordir nas datblygwyd sy'n gysylltiedig ag aber Afon Dyfi.

Bydd angen cyfiawnhau datblygiad mewn Cefn Gwlad Agored, a bydd angen iddo fod yn briodol o ran graddfa a natur. Bydd angen i bob cynnig gydymffurfio â pholisi Cenedlaethol, yn enwedig Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy a TAN 23: Datblygu Economaidd a pholisïau eraill a gynhwysir yn y Cynllun.

Mae'r strategaeth twf cynaliadwy yn darparu'r fframwaith ar gyfer cyflawni twf. Mae'n adlewyrchu gwahanol rolau a swyddogaethau sydd gan aneddiadau yn ardal y Cynllun. Bydd yn cefnogi ac yn diwallu anghenion cymunedau mewn ffordd sy'n gynaliadwy, gan hybu dewisiadau trafnidiaeth cynaliadwy a mynd i'r afael â heriau demograffig.

Aneddiadau Haen 1, 2 a 3 yw'r lleoedd mwyaf cynaliadwy i ddarparu ar gyfer twf. Efallai y bydd aneddiadau haen is (Haenau 4 a 5) mewn Clwstwr Ardal Twf Rhanbarthol neu Glwstwr Lleol sydd â pherthynas swyddogaethol ag anheddiad Haen 1 neu Haen 2 yn gallu darparu ar gyfer twf cyfyngedig er mwyn cefnogi'r anheddiad haen uwch a diwallu anghenion lleol. Ar gyfer aneddiadau yn yr Ardal Wledig/Nad ydynt yn rhan o Glwstwr, bydd datblygiad yn cael ei gefnogi i ddiwallu anghenion a nodir ac i gyflawni cymunedau cynaliadwy.

Polisi Strategol SP3 - Dosbarthiad Twf

Dosberthir datblygiad tai a chyflogaeth yn unol â'r strategaeth anheddu a ganlyn ar sail maint yr anheddiad, lefel y gwasanaethau a ddarperir, cyfleoedd cyflogaeth a mynediad at drafnidiaeth gynaliadwy.

A. Aneddiadau mewn Clystyrau Ardal Twf Rhanbarthol a Chlystyrau Lleol:

  • Aneddiadau Haen 1 a Haen 2 - Bydd cyfran uwch o'r datblygiad newydd sydd ei angen yn cael ei gyfeirio at aneddiadau Haen 1 a Haen 2. Bydd hyn drwy ddyraniadau, ymrwymiadau ac ar hap-safleoedd addas sydd o fewn ffin ddatblygu.

    Bydd safleoedd a arweinir gan dai fforddiadwy yn cael eu nodi o fewn ffiniau datblygu yn ôl yr angen. Bydd tai fforddiadwy a thai dan arweiniad y gymuned hefyd yn cael eu caniatáu ar safleoedd eithriedig sy'n ffurfio estyniadau rhesymegol i aneddiadau.
     
  • Aneddiadau Haen 3 - Bydd cyfran sylweddol o'r datblygiad newydd sydd ei angen yn cael ei gyfeirio at aneddiadau Haen 3. Bydd hyn drwy ddyraniadau, ymrwymiadau ac ar hap-safleoedd addas sydd o fewn ffin ddatblygu.

    Bydd safleoedd a arweinir gan dai fforddiadwy yn cael eu nodi o fewn ffiniau datblygu yn ôl yr angen. Bydd tai fforddiadwy a thai dan arweiniad y gymuned hefyd yn cael eu caniatáu ar safleoedd eithriedig sy'n ffurfio estyniadau rhesymegol i aneddiadau.
     
  • Aneddiadau Haen 4 - Bydd nifer cyfyngedig o'r datblygiad newydd yn cael ei gyfeirio at aneddiadau Haen 4. Bydd hyn drwy ymrwymiadau a datblygiad ar hap-safleoedd addas sydd o fewn ffin ddatblygu. Gwneir dyraniadau pan maent yn cefnogi anheddiad Haen 1 neu Haen 2 a phan mae eu hangen i fynd i'r afael ag angen cydnabyddedig.
     
  • Aneddiadau Haen 5 - Nid yw'r CDLl Newydd yn nodi ffiniau datblygu ac nid oes dyraniadau ar gyfer datblygu yn yr haen hon.

    Tai-Cyfyngir tai marchnad agored i leiniau mewnlenwi bach (sy'n gallu darparu ar gyfer uchafswm o ddwy annedd) neu i gynlluniau cymysg ar safleoedd mewnlenwi mwy (sy'n gallu darparu ar gyfer uchafswm o bum annedd) ar yr amod nad yw'r cynllun ar gyfer mwy na dau dŷ marchnad agored ynghyd â thai fforddiadwy.

    Hefyd, caniateir hyd at bum annedd tai fforddiadwy neu dai dan arweiniad y gymuned ar safleoedd sy'n ffurfio estyniadau rhesymegol i'r anheddiad.

    Bydd angen cyfiawnhau cynigion cyflogaeth a bydd rhaid iddynt gydymffurfio â pholisi.

B. Aneddiadau Ardal Gwledig/Nad ydynt yn rhan o Glwstwr:

  • Aneddiadau Haen 3 - Bydd cyfran is o'r datblygiad newydd sydd ei angen yn cael ei gyfeirio at Aneddiadau Ardal Gwledig/Nad ydynt yn rhan o Glwstwr Haen 3. Bydd hyn drwy ymrwymiadau ac ar hap-safleoedd addas (a gyfyngir i 10 annedd marchnad agored) sydd o fewn ffin ddatblygu. Bydd dyraniadau'n cael eu gwneud pan fo anghenion cydnabyddedig i fynd i'r afael â nhw.

    Bydd safleoedd a arweinir gan dai fforddiadwy yn cael eu nodi o fewn ffiniau datblygu yn ôl yr angen. Bydd datblygiadau tai fforddiadwy a thai dan arweiniad y gymuned ar raddfa fach hefyd yn cael eu caniatáu ar safleoedd eithriedig sy'n ffurfio estyniadau rhesymegol i aneddiadau.
     
  • Aneddiadau Haen 4 - Bydd nifer cyfyngedig o'r datblygiad newydd yn cael ei gyfeirio at Aneddiadau Ardal Gwledig/Nad ydynt yn rhan o Glwstwr Haen 4. Bydd hyn drwy ymrwymiadau a datblygiad ar hap-safleoedd addas sydd o fewn ffin ddatblygu.
     
  • Aneddiadau Haen 5 - Nid yw'r CDLl Newydd yn nodi ffiniau datblygu ac nid oes dyraniadau ar gyfer datblygu yn yr haen hon.

    Tai-Cyfyngir tai marchnad agored i leiniau mewnlenwi bach (sy'n gallu darparu ar gyfer uchafswm o ddwy annedd) neu i gynlluniau cymysg ar safleoedd mewnlenwi mwy (sy'n gallu darparu ar gyfer uchafswm o bum annedd) ar yr amod nad yw'r cynllun ar gyfer mwy na dau dŷ marchnad agored ynghyd â thai fforddiadwy.

    Hefyd, caniateir datblygiadau hyd at bum annedd tai fforddiadwy neu dai dan arweiniad y gymuned ar safleoedd sy'n ffurfio estyniadau rhesymegol i'r anheddiad.

    Mae angen cyfiawnhau cynigion cyflogaeth ac mae'n rhaid iddynt gydymffurfio â pholisi.
     
  • Aneddiadau Haen 6 - Nid yw'r CDLl Newydd yn nodi ffiniau datblygu ac nid oes dyraniadau ar gyfer datblygiad yn yr haen hon. Bydd angen i gynigion datblygu fodloni'r polisïau eithriadau fel y'u nodir mewn polisi cenedlaethol neu leol.

    Ni chaniateir datblygu tai marchnad agored mewn aneddiadau Haen 6. Caniateir cartrefi fforddiadwy unigol i ddiwallu angen lleol am byth ar safleoedd addas pan maent wedi eu hintegreiddio'n dda i'r anheddiad.

    Mae angen cyfiawnhau cynigion cyflogaeth ac mae'n rhaid iddynt gydymffurfio â pholisi.

C. Cefn Gwlad Agored (gan gynnwys yr Arfordir nas Datblygwyd)

Bydd anheddau menter gwledig arfaethedig ar gyfer amaethyddiaeth, garddwriaeth a mentrau gwledig eraill, ac anheddau Cenedl Un Blaned, yn cael eu hasesu o'u cymharu â pholisi cenedlaethol a holl bolisïau perthnasol y Cynllun. Mae TAN 6 yn ymwneud â chynllunio ar gyfer cymunedau gwledig cynaliadwy ac mae'n cynnwys datblygiad amaethyddol a choedwigol yn ogystal ag amrywiaeth wledig.

Mae Polisi SP3 yn nodi dosbarthiad twf tai a chyflogaeth yn unol â'r Hierarchaeth Aneddiadau Cynaliadwy a'r haenau aneddiadau a ddiffinnir gan Bolisi SP2-Strategaeth Twf Cynaliadwy.

Aneddiadau Haen 1-dyma'r trefi mwy yn ardal y cynllun ac ystyrir mai nhw yw'r lleoedd mwyaf cynaliadwy ar gyfer twf. Maent yn darparu ystod eang o wasanaethau, gwasanaethau bws/trên, llwybrau teithio llesol a chyfleusterau gwefru cerbydau trydan. Amcangyfrifir y bydd saith anheddiad Haen 1 yn darparu ar gyfer oddeutu 40% o'r twf.

Aneddiadau Haen 2-mae'r rhain yn cynnig ystod gulach o wasanaethau a chyfleusterau o'u cymharu ag aneddiadau Haen 1, ond maent yn ganolfannau gwasanaeth pwysig ar gyfer eu cymunedau agos a chyfagos. Maent yn elwa ar wasanaethau bysiau ac yn cynnal ystod o gyfleusterau y gall preswylwyr eu defnyddio drwy deithio llesol. Amcangyfrifir y bydd 10 anheddiad Haen 2 yn darparu ar gyfer oddeutu 15% o'r twf.

Aneddiadau Haen 3-mae gan y rhain wasanaethau mwy cyfyngedig a chyfleoedd cyflogaeth sy'n gallu diwallu rhai anghenion preswylwyr, ond mae trigolion yn debygol o deithio i anheddiad haen uwch i gael gafael ar rai gwasanaethau megis archfarchnadoedd, ysgolion uwchradd a darpariaeth gofal iechyd. Mae gan aneddiadau Haen 3 mewn Clwstwr Ardal Twf Rhanbarthol neu Glwstwr Lleol cydnabyddedig ddewisiadau trafnidiaeth cynaliadwy sydd ar gael er mwyn cael gafael ar wasanaethau o'r fath. Pan fo cyfyngiadau capasiti mewn aneddiadau Haen 1 a Haen 2, ystyrir yr aneddiadau Haen 3 a leolir mewn Clwstwr yn lleoedd addas i ddarparu ar gyfer datblygiad. Amcangyfrifir y bydd 41 anheddiad Haen 3 yn darparu ar gyfer oddeutu 25% o'r twf.

Aneddiadau Haen 4-mae'r rhain yn llai o ran maint ac yn cynnal llai o wasanaethau nag aneddiadau Haen 3. Fodd bynnag, lleolir llawer ohonynt yn agos, o fewn pellter cerdded neu feicio yn aml, i anheddiad Haen 1. Pan leolir anheddiad Haen 4 mewn Clwstwr Ardal Twf Rhanbarthol neu Glwstwr Lleol, mae'r cysylltiadau agos hyn mewn lleoliad da i ddarparu ar gyfer datblygiad na ellir ei ddarparu mewn setliad Haen 1 neu 2 oherwydd cyfyngiadau a materion capasiti. Mae'r Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol yn dangos llwybrau arfaethedig ar gyfer buddsoddi mewn llwybrau teithio llesol yn y dyfodol a lle y bwriedir gwella cysylltiadau rhwng rhai aneddiadau Haen 4 a Haen 1. Amcangyfrifir y bydd 18 anheddiad Haen 4 yn darparu ar gyfer oddeutu 5% o'r twf.

Aneddiadau Haen 5-mae gan y rhain rôl bwysig mewn ardaloedd gwledig ac maent yn fach o ran maint, gyda llai o wasanaethau nag aneddiadau mewn haenau uwch. Bydd datblygiadau yn yr aneddiadau hyn ar raddfa fach er mwyn diwallu anghenion lleol, gyda phwyslais ar dai fforddiadwy a chreu cyfleoedd i gadw'r boblogaeth oedran gweithio. Amcangyfrifir y bydd 63 anheddiad Haen 5 yn darparu ar gyfer oddeutu 5% o'r twf.

Aneddiadau Haen 6-dyma'r 23 anheddiad lleiaf o ran maint, a lleiaf cynaliadwy yn yr Hierarchaeth Aneddiadau Cynaliadwy. Cyfyngir datblygiadau tai i ddiwallu anghenion lleol penodol drwy alluogi cynigion am gartrefi fforddiadwy unigol.

Cefn gwlad agored-adnodd deinamig ac amlbwrpas yw hwn sy'n gofyn am ddatblygiad gofalus a reolir yn dda. Gan barchu'r egwyddor polisi cenedlaethol o arfer rheolaeth lem dros ddatblygiad yng nghefn gwlad agored o ystyried natur Powys a'i heconomi wledig, mae'n bwysig bod y Cynllun yn cefnogi cynigion datblygu sy'n briodol i'w lleoliad ac sy'n cynnal ac yn gwella gwaith mewn cefn gwlad. Dylai pob datblygiad newydd mewn cefn gwlad agored barchu cymeriad yr ardal gyfagos a bod o raddfa a dyluniad priodol.

9.3 Twf Tai

Nododd y strategaeth dwf ofyniad tai o 3,975 o anheddau i ddiwallu'r anghenion tai a nodwyd ac i gyflawni dyheadau Gweledigaeth ac Amcanion y Cynllun.

Er mwyn bodloni'r gofyniad tai, mae'r CDLl Newydd yn darparu ar gyfer 4,810 o anheddau (ar sail lwfans hyblygrwydd o 21%). Mae hyn yn cyfateb i gyfradd adeiladu cyfartalog blynyddol o 265 o anheddau fesul blwyddyn. Mae Polisi Strategol SP4 yn crynhoi'r elfennau sy'n ffurfio'r ddarpariaeth tai.

Polisi Strategol SP4 - Twf Tai

Dros gyfnod y Cynllun, sef 2022–2037, mae'r cynllun yn darparu ar gyfer 4,810 o gartrefi i gyflawni gofyniad tai o 3,975 o gartrefi y mae 1,036 ohonynt yn dai fforddiadwy. Cyflawnir hyn drwy:

  • Gwblhau-603 o anheddau (ers 2022)
  • Ymrwymiadau Tai (safleoedd 5 annedd neu fwy)-1,410 o anheddau
  • Anheddau ar Hap-safleoedd-1,454 o anheddau
  • Safleoedd Newydd a Ddyrennir-1,343 o anheddau

Noder: 4,810 – 3,975 = Lwfans Hyblygrwydd (21%)

Mae'r ddarpariaeth tai ledled Powys yn digwydd yn bennaf drwy ddatblygu safleoedd datblygu canolig i fach o ran maint, sy'n adlewyrchu'r ardal daearyddol mawr, dosbarthiad aneddiadau a'r diwydiant adeiladu tai. Ar ôl dechrau, gall cyfraddau adeiladu araf olygu mewn rhai achosion safleoedd sydd heb eu cwblhau ers sawl blwyddyn. Gellir priodoli hyn i gyfansoddiad y diwydiant adeiladu tai ym Mhowys, gyda nifer cyfyngedig o adeiladwyr tai ar raddfa fawr yn bresennol, a ffactorau ehangach y farchnad dai.

Cydnabyddir nad yw pob safle y mae'r CDLl Newydd yn eu nodi ar gyfer datblygiad tai yn debygol o gael eu hadeiladu yn ystod cyfnod y Cynllun. I gyfrif am hyn, ychwanegwyd lwfans hyblygrwydd o 21% i'r gofyniad tai i roi ffigur darpariaeth tai o 4,810. Mae'r lwfans hyblygrwydd yn seiliedig ar gyfradd cyflawni tai CDLl Mabwysiedig Powys (2011–2026) ac fe'i heglurir ym mhapur cefndir y Cyflenwad Tir ar gyfer Tai.

Bodlonir y ffigur darparu tai drwy elfennau y cyflenwad tir ar gyfer tai, fel y dangosir yn Nhabl 7. Mae hyn yn dangos bod 603 o anheddau wedi eu cwblhau ers dechrau'r cyfnod cynllunio (rhes A). Disgwylir i anheddau sydd wrthi'n cael eu hadeiladu (rhes B) ac ymrwymiadau tai (rhes D) gyflawni 1,410 o anheddau eraill.

Safleoedd nad ydynt wedi eu neilltuo ar gyfer datblygiad yw hap-safleoedd, a disgwylir iddynt gyfrannu 1,454 o anheddau (rhesi F ac G). Mae dadansoddiad o'r ddarpariaeth tai a gwblhawyd yn ystod y tair blynedd ar ddeg ers mabwysiadu CDLl Powys (2011–2026) yn dangos bod hap-safleoedd bach cyfartalog (safleoedd sy'n llai na phum annedd) wedi darparu 78 o anheddau a gwblhawyd fesul blwyddyn, a bod hap-safleoedd mawr (pum annedd neu fwy) wedi cyfrannu 40 annedd fesul blwyddyn. Ar ôl dadansoddiad ychwanegol, fel y nodir ym mhapur cefndir Cyflenwad Tir ar gyfer Tai (2024), rhagwelir y gallai hap-safleoedd gyfrannu 1,454 o anheddau ychwanegol yn ystod gweddill cyfnod y cynllun.

Y dyraniad tai ar gyfer y CDLl Newydd yw'r 1,343 o anheddau sy'n weddill (rhes E). Nid yw tystiolaeth ategol wedi nodi gofyniad i ddyrannu Safle(oedd) Tai Strategol ar raddfa ranbarthol yn y Strategaeth a Ffefrir, a bydd dyraniadau y safle tai yn cael eu nodi yn ystod cam y Cynllun Adnau.

Dylid nodi bod yr elfennau cyflenwad tir ar gyfer tai yn dueddol i newid ac y byddant yn cael eu hadolygu ar gyfer y Cynllun Adnau.

Tabl 7. Crynodeb o Ddarpariaeth Tai y CDLl a Dosbarthiad Gofodol Tai Ebrill 2024

Elfennau y Cyflenwad Tai

Haen 1

Haen 2

Haen 3

Haen 4

Haen 5

Haen 6/Cefn Gwlad Agored

Cyfansymiau

A

Cyfanswm y tai a gwblhawyd (2022–2024) (safleoedd bach a mawr*)

141

98

179

28

57

100

603

B

Ymrwymiadau Tai Safleoedd Mawr*-Unedau sydd wrthi'n cael eu hadeiladu

395

42

119

73

18

9

656

C

Ymrwymiadau Tai Safleoedd Mawr*- Unedau nad ydynt wedi eu dechrau

585

245

443

16

53

5

1,347

D**

Ymrwymiadau Tai Safleoedd Mawr*-Nad ydynt wedi eu dechrau (rhes C tynnu'r lwfans am fethu â chyflawni)

327

137

248

9

30

3

754

E

Dyraniadau Tai Newydd

700

200

400

43

0

0

1,343

F

Yr unedau a ragwelir ar hap-safleoedd mawr* (13 blynedd yn weddill)

157

90

115

28

27

23

440

G

Yr unedau a ragwelir ar hap-safleoedd bach* (13 blynedd yn weddill)

238

71

140

30

101

434

1,014

H

Cyfanswm y Ddarpariaeth Tai (rhesi A, B, D, E, F ac G)

1,958

638

1201

211

233

569

4,810

% y Dosbarthiad o'r Cyfanswm

41%

13%

25%

4%

5%

12%

100%

*Mae safle mawr yn cyfateb i bump neu fwy o unedau preswyl.

**Nid yw pob safle sydd â chaniatâd cynllunio wedi ei ddatblygu na'i ddatblygu'n llawn, ac o ganlyniad nid yw'r holl anheddau a ganiateir yn dod yn dai newydd sydd wedi eu cwblhau. I gyfrif am hyn, cymhwyswyd lwfans methu â chyflawni o 44% i Res C, a chyflwynir y canlyniadau yn Rhes D. Mae'r 44% yn seiliedig ar gyfradd sy'n manteisio ar anheddau sydd ar Ymrwymiadau Tai a gynhwysir yn y CDLl Mabwysiedig (2011–2026).

9.4 Tai Fforddiadwy ac Arbenigol

Diwallu anghenion tai fforddiadwy ac arbenigol yw Amcanion y CDLl Newydd.

Mae'r Asesiad o'r Farchnad Dai Lleol (2024) yn nodi, ar gyfer y cyfnod 2022–2037, fod angen 1,036 o gartrefi fforddiadwy newydd, sef 69 o gartrefi fesul blwyddyn. Mae hyn yn cynnwys:

  • 700 o unedau llety rhent cymdeithasol.
  • 336 o unedau tai rhent canolradd.

Er mwyn mynd i'r afael â'r angen hwn, rhagwelir y bydd y cyflenwad tir ar gyfer tai presennol a nodir ym Mholisi Strategol SP4-Twf Tai, ynghyd â dyraniadau newydd, yn cyflawni o leiaf 1,036 o anheddau fforddiadwy drwy'r system gynllunio yn ystod cyfnod y Cynllun. Cynhwysir manylion am y cyfraniadau at dai fforddiadwy o'r cyflenwad tir ar gyfer tai presennol a'r rhai sy'n deillio o'r hap-safleoedd a ragwelir yn y Papur Cefndir Cyflenwad Tir ar gyfer Tai.

Mae Polisi SP5 yn nodi'r polisi strategol i gyflawni tai fforddiadwy ac arbenigol.

Polisi Strategol SP5 - Cartrefi Fforddiadwy ac Arbenigol

Yn ystod cyfnod Cynllun 2022–2037, bydd y CDLl Newydd yn optimeiddio darpariaeth 1,036 o anheddau fforddiadwy newydd drwy'r mesurau a ganlyn:

  • Pennu trothwyon a thargedau sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddatblygiad tai gyfrannu at ddarpariaeth tai fforddiadwy yn unol â thystiolaeth hyfywedd.
  • Gwneud darpariaeth ar gyfer safleoedd fforddiadwy dan arweiniad tai yn ôl yr angen.
  • Darparu fframwaith ar gyfer galluogi tai fforddiadwy sy'n diwallu anghenion lleol, gan gynnwys ar safleoedd eithriedig.

Bydd cynigion datblygu ar gyfer llety anghenion arbenigol (megis gofal a chymorth neu lety i bobl hŷn) yn cael eu cefnogi.

Disgwylir i bob cynllun preswyl ddilyn egwyddorion creu lleoedd er mwyn darparu cymysgedd addas o ddeiliadaethau, mathau, meintiau tai, a sicrhau eu bod eu dyluniad yn addas. Hefyd, bydd y Cynllun yn ceisio sicrhau cyfran o Gartrefi Gydol Oes ar ddatblygiadau tai marchnad er mwyn helpu i fynd i'r afael ag anghenion poblogaeth sy'n heneiddio ardal y Cynllun a gwasanaethu'r rhai sydd ag anableddau.

Darperir polisïau a chynigion manwl yn y Cynllun Adnau sy'n nodi trothwyon, targedau a dyraniadau safle a byddant yn seiliedig ar ganlyniad y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg ar waith hyfywedd datblygu.

Er mwyn cyfrannu at y targed Cartrefi Fforddiadwy, bydd safleoedd a arweinir gan dai fforddiadwy yn cael eu cynnwys yn y CDLl Newydd yn ôl yr angen. Caiff safleoedd a arweinir gan dai fforddiadwy eu diffinio fel rhai y mae o leiaf 50% o'r cartrefi ar safle yn fforddiadwy.

Darperir cartrefi fforddiadwy ar raddfa gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a'r Cyngor Sir a bydd prosiectau llai megis cartrefi a arweinir gan y gymuned, tai cydweithredol a hunanadeiladu yn cael eu cefnogi ar yr amod bod y cartrefi'n cael eu sicrhau am byth i'r rhai na allant fforddio tai marchnad.

Yn gyffredinol, disgwylir i gynlluniau tai marchnad agored ddarparu elfen o dai fforddiadwy a fydd yn seiliedig ar dystiolaeth o anghenion mewn ardal marchnad tai, gan ystyried hyfywedd datblygu.

Mae'r CDLl Newydd yn cefnogi llety arbenigol i ddiwallu, er enghraifft, yr anghenion sy'n gysylltiedig â phoblogaeth sy'n heneiddio neu lety â chymorth fel y nodir yn yr Asesiad o'r Farchnad Dai Lleol (2024). Mae Cyngor Sir Powys hefyd yn gweithio gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag anghenion tai pobl ddigartref, ac mae hyn yn cynnwys rhaglen cynlluniau tai cymdeithasol a adeiledir o'r newydd. Bydd lefelau digartrefedd yn cael eu monitro drwy'r Fframwaith Monitro a fydd yn cael ei gynnwys yn y Cynllun Adnau.

9.5 Darpariaeth Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr

Polisi Strategol SP6 - Llety Sipsiwn a Theithwyr

Bydd y CDLl Newydd yn darparu ar gyfer 12 llain Sipsiwn a Theithwyr ychwanegol yn ardal y Trallwng.

Bydd cynigion am safleoedd a charafanau Sipsiwn a Theithwyr parhaol neu dros dro (byrhoedlog neu ar daith), i ddiwallu angen lleol profedig nas diwellir, yn cael eu cefnogi pan leolir safleoedd mewn lleoliadau cynaliadwy.

Bydd tir ar gael i ddarparu ar gyfer anghenion tymor byr nas diwellir am lety Sipsiwn a Theithwyr fel y nodir yn yr ​Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr diweddaraf (2021). Gwneir darpariaeth ar gyfer 12 llain preswyl ychwanegol i wasanaethu anghenion yn ardal y Trallwng o fewn 5 mlynedd gyntaf cyfnod y Cynllun. Bydd y Cynllun Adnau yn cynnwys dyrannu safle i ddiwallu'r angen a aseswyd.

Mae Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr 2021 wedi ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo. Cafodd canfyddiadau yr Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr eu llywio a'u diweddaru ymhellach gan dystiolaeth mwy diweddar yn deillio o Wasanaeth Tai y Cyngor a ymgysylltodd yn uniongyrchol â'r teuluoedd yn 2023 i drafod canlyniadau yr Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr a sut y dylid eu dehongli a'u gweithredu. Cytunwyd ar y ffigur ar gyfer anghenion nas diwellir ar ddigwydd yn ardal y Cynllun (12 llain) mewn egwyddor drwy ohebiaeth â Llywodraeth Cymru. Bydd dull polisi cadarnhaol yn cefnogi anghenion tymor hwy ac annisgwyl.

9.6 Cyflogaeth a'r Economi

Polisi Strategol SP7 - Twf Cyflogaeth

Er mwyn diwallu anghenion cyflogaeth yn ystod cyfnod Cynllun 2022–2037 a manteisio gymaint â phosibl ar y cyfleoedd a gyflwynir gan Fargen Twf Canolbarth Cymru a mentrau adfywio eraill, bydd y Cynllun yn nodi 40 hectar o dir cyflogaeth ar gyfer defnyddiau cyflogaeth B1 (Swyddfa a Diwydiant Ysgafn), B2 (Diwydiannau Cyffredinol) a B8 (Dosbarthu a Storio).

Dosberthir y 40 hectar o dir cyflogaeth ledled yr ardaloedd marchnad masnachol canlynol, yn unol â'r Hierarchaeth Aneddiadau Cynaliadwy:

  • Meingefn Gogleddol yr A483
  • Ardaloedd Ffin
  • Canol Powys
  • Y Gorllewin Gwledig
  • I'r De o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Cyflawnir y 40 hectar drwy 8.16 hectar yn y cyflenwad neilltuedig a 32 hectar o safleoedd cyflogaeth newydd.

Cynhaliwyd Asesiad Anghenion Cyflogaeth (2024) er mwyn darparu asesiad o'r cyflenwad a'r galw am dir cyflogaeth yn ardal y Cynllun. Edrychodd ar y safleoedd cyflogaeth sydd ar gael a'r ardaloedd cyflogaeth presennol er mwyn deall yr ochr gyflenwi, ac adolygodd y farchnad eiddo, gan ymgynghori â rhanddeiliaid lleol a rhagweld y twf cyflogaeth, er mwyn deall yr ochr alw. Mae PCC yn ei gwneud yn ofynnol i CDLlau ddarparu safleoedd cyflogaeth sydd wedi eu cysylltu'n dda, sy'n lleihau'r angen i deithio ac yn cefnogi datblygiad economaidd cynaliadwy. Noda'r Asesiad Anghenion Cyflogaeth hwn, a lywiwyd gan bolisi cenedlaethol, bum maes marchnad masnachol a gyflwynir yn Ffigur 9.

Argymhella'r Asesiad Anghenion Cyflogaeth y dylai pum ardal marchnad masnachol, sy'n canolbwyntio ar Haen 1 a rhai aneddiadau Haen 2, fod yn ganolbwynt ar gyfer darparu tir cyflogaeth newydd a ddyrennir er mwyn cefnogi defnydd yn Nosbarthiadau Defnydd B1, B2 a B8.

Yn seiliedig ar y cyfraddau a fanteisiodd ar hyn yn y gorffennol, gyda lwfans ychwanegol ar gyfer cyflenwad cyfyngedig, dengys yr Asesiad Anghenion Cyflogaeth, i ddiwallu anghenion cyflogaeth rhwng 2022 a 2037, y dylai'r Cynllun ddarparu ar gyfer 40 hectar o dir at ddibenion cyflogaeth yn Nosbarthiadau Defnydd B1, B2 a B8. Mae hefyd o'r farn y byddai darparu 40 hectar o dir cyflogaeth yn rhoi digon o hyblygrwydd i allu manteisio gymaint â phosibl ar gyfleoedd y mae Bargen Twf Canolbarth Cymru ac unrhyw fentrau adfywio eraill yn eu cyflwyno.

Mae'r Adroddiad Tystiolaeth Demograffig yn rhagweld y gallai maint y gweithlu weld cynnydd o 153 o bobl y flwyddyn, sef 2,295 ar gyfer cyfnod 2022–2037, ar sail y strategaeth twf a ffefrir. Bydd darparu 40 hectar o dir cyflogaeth ar gyfer diwydiannau Dosbarth B yn cefnogi rhywfaint o'r cynnydd hwn, er y bydd twf yn digwydd mewn sectorau eraill.

Dengys Tabl 8 sut y bydd y ddarpariaeth o 40 hectar o dir yn cael ei chyflawni ledled yr Ardaloedd Marchnad Masnachol.

Tabl 8. Crynodeb o Ddarpariaeth Cyflogaeth y CDLl Newydd a'r Dosbarthiad Gofodol ledled yr Ardaloedd Marchnad Masnachol

Ardaloedd Marchnad Masnachol

Cyflenwad Neilltuedig (ha)

Dyraniadau Cyflogaeth Newydd (ha)

Cyfanswm y Ddarpariaeth Gyflogaeth

Meingefn Gogleddol yr A483

1.84

13

14.84

Ardaloedd Ffin

0.23

6

6.23

Canol Powys

3.72

3

6.72

Y Gorllewin Gwledig

0.45

5

5.45

I'r De o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

1.28

5

6.28

Arall

0.64

0

0.64

Cyfanswm

8.16

32

40.16

Bydd polisïau manwl, ardaloedd gwarchod cyflogaeth a dyraniadau safle yn dilyn yn y Cynllun Adnau. Bydd hyn yn cynnwys mesurau sy'n cydnabod natur ddeinamig cynigion cyflogaeth a thwf busnes, mewn Ardaloedd Marchnad Masnachol a, phan fo hynny'n angenrheidiol, i gefnogi'r economi wledig.

Er mwyn cefnogi'r economi wledig a chymunedau gwledig cynaliadwy, bydd cyfleoedd cyflogaeth ar raddfa fach, gan gynnwys mentrau ffermio, tyfu a gwledig yng nghefn gwlad pan gyfiawnheir hynny, yn cael eu hwyluso.

9.7 Adwerthu a Chanol Trefi

Polisi Strategol SP8 - Y Cynnydd Adwerthu

Ni noda'r asesiad anghenion adwerthu meintiol ac ansoddol ar gyfer ardal y Cynllun unrhyw ofyniad i ddyrannu safleoedd newydd ar gyfer datblygiad manwerthu. Dylai unrhyw angen ychwanegol am gyfleustra ac arwynebedd llawr cymharu gael ei letya mewn eiddo gwag presennol. Os nad oes safle addas ar gael, yna mae'n rhaid i geisiadau am ddatblygiadau adwerthu newydd ddangos cydymffurfiaeth â'r profion dilyniannol ac effaith a nodir yn y polisi cynllunio cenedlaethol.

Anogir cyfleoedd ailddatblygu yng nghanol trefi pan ellir darparu defnyddiau masnachol mewn ffordd na fydd yn gwneud drwg i ddefnyddiau canol trefi yn y dyfodol.

Cynhaliwyd Asesiad Anghenion Adwerthu (2024) i lywio'r CDLl Newydd. Ystyriodd yr Asesiad y capasiti am ddatblygiad adwerthu yn ardal y Cynllun yn ystod cyfnod 2022–2037. Daw i'r casgliad, er y bo angen ychydig o arwynebedd llawr cymharu ychwanegol tua diwedd cyfnod y Cynllun, y byddai'n annhebygol o fod yn ddigonol i gynhyrchu gofyniad i safleoedd newydd gael eu dyrannu, gan gynnig yn lle hynny y posibilrwydd o ddod ag arwynebedd llawr gwag yn ôl i ddefnydd adwerthu.

Polisi Strategol SP9 - Hierarchaeth Canol Trefi

Yr Hierarchaeth Canol Trefi ar gyfer y CDLl Newydd yw:

  • Canolfan Isranbarthol-Y Drenewydd
  • Prif Drefi-Y Trallwng, Llanidloes, Llandrindod, Machynlleth a Llanfair-ym-Muallt
  • Trefi Eilradd-Rhaeadr, Trefyclo, Ystradgynlais a Llanandras
  • Trefi Lleol-Llanfyllin, Trefaldwyn, Llanfair Caereinion a Llanwrtyd

Dylai cynigion am ddatblygiadau adwerthu newydd neu well, neu ddefnyddiau eraill sy'n ategu canolfannau adwerthu a masnachol, megis y rhai sy'n ymwneud â hamdden, diwylliant ac adloniant, gael eu canolbwyntio yn y Canol Trefi diffiniedig.

Dylai datblygiadau fod yn gyson o ran graddfa a natur â maint a chymeriad Canol y Dref a'i rôl yn yr hierarchaeth. Ni chaniateir cynigion a fyddai'n tanseilio'r hierarchaeth canol trefi.

Rhaid i gynigion gynnal neu wella egni, bywiogrwydd ac apêl Canol y Dref.

Mae'r strategaeth yn cefnogi Canol Trefi presennol ardal y Cynllun drwy ddiogelu ac annog darpariaeth adwerthu a defnyddiau ategol eraill megis y rhai sy'n ymwneud â hamdden, diwylliant ac adloniant mewn lleoliadau priodol a chynaliadwy. Ceir yr holl Ganol Trefi mewn aneddiadau Haen 1 neu Haen 2 ac maent yn elwa ar amrywiaeth o gyfleoedd trafnidiaeth cynaliadwy.

Er mwyn llywio'r CDLl Newydd, cynhaliwyd Adolygiad Adwerthu (2023) ar gyfer ardal y Cynllun. Adolygodd Hierarchaeth Adwerthu CDLl Powys (2011–2026), gan ystyried y polisi a'r canllawiau cynllunio diweddaraf a graddfa ac amrywiaeth y canolfannau adwerthu. Roedd hyn yn cynnwys cynnal 'prawf iechyd' cynhwysfawr a ystyriodd fath a nifer y cynigion adwerthu ar gyfer pob un o'r canolfannau. Er yr ystyriwyd bod hierarchaeth y CDLl Mabwysiedig (2011–2026) yn gadarn ar y cyfan, canfuwyd y byddai'n elwa ar ddiweddariad, yn enwedig er mwyn adlewyrchu dull rhanbarthol.

Canfu'r Adolygiad Adwerthu fod gan y Drenewydd nodweddion unigryw ac y byddai'n cael ei chategoreiddio'n fwy priodol fel Canolfan Isranbarthol yn gydnaws ag Aberystwyth yng Ngheredigion. Hefyd, noda'r astudiaeth fod gan Bowys bum Prif Dref-Y Trallwng, Llanidloes, Llandrindod, Machynlleth a Llanfair-ym-Muallt-sy'n gwasanaethu ardaloedd gofodol mawr ac yn diwallu'r anghenion am siopau a gwasanaethau lleol nas diwellir mewn trefi llai eraill. Mae'r Trefi Eilradd a nodir yn cynnwys Rhaeadr, Trefyclo, Ystradgynlais a Llanandras. Nodwyd bod y Trefi Eilradd ar raddfa lai a bod dalgylchoedd lleol llai na'r Prif Drefi yn diwallu anghenion lleol yn nodweddiadol gyda rhywfaint o ddarpariaeth arbenigol. Argymhella'r Adolygiad hefyd y dylid ategu'r hierarchaeth â Threfi Lleol sy'n darparu eitemau hanfodol sydd eu hangen i ddiwallu anghenion o ddydd i ddydd; nodir mai Llanfyllin, Trefaldwyn, Llanfair Caereinion a Llanwrtyd yw'r trefi hyn.

Mae Cymru'r Dyfodol yn cydnabod yr angen er iechyd ac egni canol trefi i adlewyrchu eu natur amlswyddogaethol ac i fod yn ganolbwynt ar gyfer twf ac adfywiad. Bydd y Cynllun Adnau yn cynnwys mapiau sy'n dangos ffiniau Canol y Dref.

Mae'r mathau o ddefnyddiau eraill yr ystyrir eu bod yn ategu adwerthu ac felly'n briodol mewn canolfannau adwerthu a masnachol yn cynnwys:

  • Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol (A2).
  • Bwyd a diod (A3).
  • Swyddfeydd (B1).
  • Gwestai (C1).
  • Sefydliadau addysgol a sefydliadau amhreswyl eraill (D1).
  • Hamdden (D2).
  • Defnyddiau eraill megis golchdai a theatrau.

Gall canol trefi wynebu pwysau datblygu, boed o ddatblygiadau ymylol neu ddatblygiadau y tu allan i ganolfannau, neu newid defnydd a cholli gweithgarwch o'r stryd fawr. Mae gan ganolfannau o wahanol raddfa a swyddogaeth yn yr hierarchaeth raddfeydd gwahanol hefyd o ran cyfle gyda'r posibilrwydd o gefnogi eu hadfywiad, eu twf a'r dull 'rhoi canol trefi yn gyntaf'. Bydd yr ardaloedd pwysicaf yn y Canolfan Isranbarthol a'r Prif Drefi yn cael eu diogelu â pholisïau ardaloedd prif ffryntiadau siopa a ffryntiadau siopa eilaidd y manylir arnynt yn y Cynllun Adnau. Ceisir cyfleoedd i adfywio a gwella'r amgylchedd adwerthu ac i wella mynediad i Ganol Trefi ac mewn Canol Trefi gan ddefnyddio pob dull teithio, gan flaenoriaethu cerdded, beicio (teithio llesol) a thrafnidiaeth gyhoeddus.

9.8 Twristiaeth Gynaliadwy

Polisi Strategol SP10 - Twristiaeth Gynaliadwy

Mae'r CDLl Newydd yn cefnogi cynigion datblygu sy'n darparu a/neu'n gwella ffurfiau twristiaeth cynaliadwy pan:

  • Maent wedi eu lleoli yn gynaliadwy ac yn briodol.
  • Maent yn dangos egwyddorion dylunio a chreu lleoedd o ansawdd uchel.
  • Maent yn darparu seilwaith digonol ac yn cael eu gwasanaethu gan seilwaith digonol fel nad ydynt yn cael effaith andwyol annerbyniol ar gymunedau presennol.
  • Maent yn cyfrannu at ddiogelu a gwella'r amgylchedd naturiol.
  • Nad ydynt yn cael effeithiau andwyol annerbyniol ar dirwedd Powys.
  • Maent yn gwella'r economi ymwelwyr.
  • Maent yn darparu cyfleoedd cyflogaeth lleol neu'n cyfrannu at amrywiaeth wledig.

Ni chaniateir cynigion datblygu a fyddai'n cael effaith andwyol annerbyniol ar nodweddion twristiaeth presennol na'u lleoliadau.

Mae ansawdd uchel, harddwch ac amrywiaeth tirwedd Powys, ynghyd â'i hanes a'i diwylliant, yn creu ardal o apêl fawr sydd â photensial enfawr am dwristiaeth gwerth uchel. Mae'r CDLl Newydd yn ceisio cefnogi twristiaeth gynaliadwy, gan sicrhau ei fod yn gwarchod (gan gynnwys gofalu, gwella ac adfer) adnoddau ac asedau pwysig sy'n gysylltiedig â thwristiaeth, megis yr amgylchedd naturiol, adeiledig a hanesyddol, llwybrau cenedlaethol, hawliau tramwy cyhoeddus, y rhwydwaith beicio cenedlaethol, awyr dywyll, tirweddau unigryw a mannau agored.

Bydd y Cynllun Adnau yn darparu fframwaith polisi manwl sy'n cefnogi datblygiad twristiaeth, hamdden ac adloniant priodol, gan geisio diogelu a gwella cyfleusterau presennol, er budd preswylwyr, ymwelwyr a'r economi leol.

Mae presenoldeb ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr ym Mhowys yn tueddu i fod yn fwy cyffredin mewn nifer bach o gymunedau gwledig, yn hytrach na bod yn fater ledled y sir. Noda papur cefndir Ail Gartrefi a Llety Gwyliau Tymor Byr fannau problemus posibl lle mae cyfran yr eiddo a ddefnyddir fel ail gartrefi neu lety gwyliau tymor byr yn fwy na throthwy o 10%. Bydd y Cynllun Adnau yn cynnwys polisi sy'n cyfyngu ar y defnydd o anheddau newydd fel prif breswylfeydd drwy ddefnyddio amodau cynllunio.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig