Y Strategaeth a Ffefrir

Daeth i ben ar 7 Hydref 2024

11. Adolygiad o Bolisïau Rheoli Datblygu

I ddechrau, mae'r adran hon yn darparu adolygiad o'r Polisïau Rheoli Datblygu yn CDLl Mabwysiedig Powys (2011–2026) ac yn argymell sut y dylid dwyn y polisïau ymlaen i'r CDLl Newydd. Yn dilyn hyn, cynigiwyd meysydd polisi ychwanegol a newydd i'w cynnwys yn y CDLl Newydd Adnau.

Parhau heb lawer o newidiadau i eiriad polisïau

Diweddariadau manylach i bolisïau sydd eu hangen cyn cael eu dwyn ymlaen

Mae angen adolygu polisïau

Polisïau nad ydynt yn cael eu dwyn ymlaen

11.1 Polisïau Rheoli Datblygu

Cyfeirnod Polisi

Teitl

Trosolwg

Argymhelliad

DM1

Rhwymedigaethau Cynllunio

Mae'r polisi hwn yn gweithio'n effeithiol.

Dwyn ymlaen gyda chyn lleied o newidiadau â phosibl.

DM2

Yr Amgylchedd Naturiol

Ailystyried y polisi er mwyn adlewyrchu'r newid o Safleoedd Ewropeaidd i'r Rhwydwaith Safleoedd Cenedlaethol, y newidiadau i'r amcanion deddfwriaethol a pholisi cenedlaethol, ac yng nghyd-destun yr Asesiad Seilwaith Gwyrdd.

Diweddaru'r polisi er mwyn adlewyrchu'r newid o Safleoedd Ewropeaidd i'r Rhwydwaith Safleoedd Cenedlaethol, y newidiadau i'r amcanion deddfwriaethol a pholisi cenedlaethol, ac yng nghyd-destun newidiadau Polisi Cynllunio Cymru (Mantais Net i Fioamrywiaeth, dull Fesul Cam, Asesiad Seilwaith Gwyrdd, ac ati).

DM3

Mannau Agored Cyhoeddus

Ailystyried y polisi â chyfraniad Rheoli Datblygu er mwyn darparu eglurder, ynghyd â gofynion y Seilwaith Gwyrdd.

Mae angen diweddariad i ddarparu eglurder ynghylch nodi a gweithredu polisi, ynghyd â gofynion Seilwaith Gwyrdd.

DM4

Tirwedd

Adolygu'r polisi er mwyn adlewyrchu tystiolaeth yn yr Asesiad Cymeriad Tirwedd Lleol a pholisïau/canllawiau cynllunio cenedlaethol.

Diweddaru'r polisi i adlewyrchu tystiolaeth Asesiad Cymeriad Tirwedd Lleol ynghyd â'r polisi/canllawiau cynllunio cenedlaethol diweddaraf.

DM5

Datblygiad a Pherygl o Lifogydd

Ailystyried y polisi yng ngoleuni TAN 15 newydd a'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio.

Diweddaru'r polisi er mwyn ystyried TAN 15 newydd a'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio sydd ar ddod.

DM6

Mesurau Atal Llifogydd a Draenio Tir

Ailystyried y polisi yng ngoleuni TAN 15 newydd a'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio, ynghyd â gofynion Systemau Draenio Cynaliadwy.

Diweddaru'r polisi er mwyn ystyried TAN 15 newydd a'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio sydd ar ddod, ynghyd â gofynion Systemau Draenio Cynaliadwy.

DM7

Awyr Dywyll a Goleuadau Allanol

Defnyddir y polisi hwn yn bennaf i gefnogi amodau cynllunio sy'n ymwneud â chynlluniau goleuo allanol sydd â'r nod o osgoi effaith ar fywyd gwyllt nosol, yn hytrach nag asesu'r effaith ar lygredd golau a gwelededd awyr y nos. Ailystyried y polisi yng ngoleuni polisïau/canllawiau cynllunio cenedlaethol a thystiolaeth gysylltiedig.

Ailystyried y polisi yng ngoleuni polisïau/canllawiau cynllunio cenedlaethol a thystiolaeth gysylltiedig.

DM8

Diogelu Mwynau

Mae'r polisi hwn yn cefnogi gofynion mewn polisïau/canllawiau cynllunio cenedlaethol, ond nid yw'n cael ei ddefnyddio'n gyson. Bydd rhagor o hyfforddiant a mapio cyfyngiadau swyddogion yn helpu, ynghyd â geiriad diwygiedig

Dwyn ymlaen gyda newidiadau bach ychwanegol i hyfforddiant swyddogion a chyfyngiadau ar fapio a ddarperir.

DM9

Gwaith Mwynau Presennol

Mae'r polisi hwn yn gweithio'n effeithiol, fodd bynnag, dylid ychwanegu geiriad ychwanegol er mwyn adlewyrchu polisïau a chanllawiau cenedlaethol diweddaredig.

Diweddariad gyda diwygiadau i adlewyrchu newidiadau i bolisïau a chanllawiau cenedlaethol.

DM10

Tir Llygredig ac Ansefydlog

Mae'r polisi hwn yn gweithio'n effeithiol.

Adolygu geiriad y polisi i adlewyrchu ystyriaethau sy'n ymwneud â nodweddion ac adnoddau cloddio glo a darparu eglurder am y gwaith arolygu sy'n ofynnol yn ystod y cam cyflwyno cais.

DM11

Diogelu Cyfleusterau a Gwasanaethau Cymunedol
Presennol

Ailystyried y polisi er mwyn egluro sut i'w gymhwyso, a'i berthynas â pholisïau cysylltiedig eraill (e.e. polisïau R3 ac C1) a'r gofynion marchnata.

Adolygu ac egluro cwmpas a geiriad y polisi, ac i ddarparu diffiniadau cliriach o gyfleusterau a gwasanaethau cymunedol.

DM12

Datblygiadau mewn Cadarnleoedd y Gymraeg

Ailystyried y polisi yng ngoleuni'r dystiolaeth ddiweddaraf, ochr yn ochr ag Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg y dylid ei gynnal yn rhan o Arfarniad o Gynaliadwyedd y CDLl.

Diweddaru'r polisi i adlewyrchu'r Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg a'r dystiolaeth ddiweddaredig.

DM13

Dyluniad ac Adnoddau

Ailystyried y polisi a'r elfennau sydd ynddo yng ngoleuni polisïau/canllawiau cynllunio cenedlaethol, yn enwedig o ran cynaliadwyedd ac egwyddorion creu lleoedd.

Adolygu'r polisi sydd ei angen, yn enwedig mewn cysylltiad ag egwyddorion cynaliadwyedd a chreu lleoedd.

DM14

Rheoli Ansawdd Aer

Mae'r polisi hwn yn gweithio'n effeithiol, fodd bynnag, dylid ychwanegu geiriad ychwanegol.

Diweddaru'r polisi er mwyn ystyried y ddeddfwriaeth ddiweddaraf o ran egwyddorion dylunio cynaliadwy a chyngor ansawdd aer.

DM15

Gwastraff Mewn Datblygiadau

Ni chymhwysir y polisi hwn mor eang ag y bwriadwyd. Ymdrinnir â hyn drwy drafod â Rheoli Datblygu.

Mae angen diweddariad i ddarparu eglurder ynghylch gweithredu polisi.

DM16

Diogelu Safleoedd Cyflogaeth Presennol

Mae'r polisi hwn yn gweithio'n effeithiol, fodd bynnag, caiff y geiriad ei adolygu i sicrhau eglurder a chysondeb â'r gyfres o Bolisïau Cyflogaeth. Gweler Polisi E4 hefyd.

Adolygu geiriad y polisi er mwyn sicrhau eglurder a chysondeb â pholisïau Cyflogaeth, yn benodol, E4.

11.2 Polisïau yn Seiliedig ar Bwnc

Cyfeirnod Polisi

Teitl

Trosolwg

Argymhelliad

E1

Cynigion Cyflogaeth ar Safleoedd a Ddyrannwyd ar gyfer Cyflogaeth

Mae'r polisi hwn yn gweithio'n effeithiol. Bydd angen ei ailasesu yng ngoleuni unrhyw ddiwygiadau i'r Strategaeth Twf a'r Strategaeth Ofodol. Caiff y geiriad ei adolygu i sicrhau eglurder a chysondeb â'r gyfres o Bolisïau Cyflogaeth.

Ailasesu'r polisi yng ngoleuni diwygiadau i'r Strategaeth Twf a Gofodol ac adolygu'r geiriad er mwyn sicrhau eglurder a chysondeb â pholisïau Cyflogaeth.

E2

Cynigion Cyflogaeth ar Safleoedd Heb eu Dyrannu ar gyfer Cyflogaeth

Mae'r polisi hwn yn gweithio'n effeithiol. Bydd angen ei ailasesu yng ngoleuni unrhyw ddiwygiadau i'r Strategaeth Twf a'r Strategaeth Ofodol. Caiff y geiriad ei adolygu i sicrhau eglurder a chysondeb â'r gyfres o Bolisïau Cyflogaeth.

Ailasesu'r polisi yng ngoleuni diwygiadau i'r Strategaeth Twf a Gofodol ac adolygu'r geiriad er mwyn sicrhau eglurder a chysondeb â pholisïau Cyflogaeth.

E3

Cynigion Cyflogaeth ar Safleoedd Cyflogaeth Defnydd Cymysg a Ddyrannwyd

Mae'r polisi hwn yn gweithio'n effeithiol. Bydd angen ei ailasesu yng ngoleuni unrhyw ddiwygiadau i'r Strategaeth Twf a'r Strategaeth Ofodol. Caiff y geiriad ei adolygu i sicrhau eglurder a chysondeb â'r gyfres o Bolisïau Cyflogaeth.

Ailasesu'r polisi yng ngoleuni diwygiadau i'r Strategaeth Twf a Gofodol ac adolygu'r geiriad er mwyn sicrhau eglurder a chysondeb â pholisïau Cyflogaeth.

E4

Safleoedd Cyflogaeth a Ddiogelir

Mae'r polisi hwn yn gweithio'n effeithiol. Bydd yn cael ei ddiweddaru er mwyn sicrhau bod y rhestr o safleoedd a ddiogelir yn gyfredol ac yn gywir a bod y polisi'n parhau i gydymffurfio â pholisi cenedlaethol a thystiolaeth ddiweddaredig. Gweler Polisi DM16 hefyd.

Diweddaru'r polisi er mwyn sicrhau bod y rhestr o safleoedd a warchodir yn gyfredol ac yn gywir a bod y polisi'n parhau i gydymffurfio â pholisi cenedlaethol. Gweler Polisi DM16 hefyd.

E5

Parc Iechyd Bronllys

Ailystyried y polisi sydd ei angen yng ngoleuni'r materion a nodwyd wrth ei ddefnyddio, yn ogystal â'r angen i adolygu ei berthnasedd wrth symud ymlaen.

Ailystyried a yw polisi'n briodol neu a oes angen dull gweithredu amgen.

E6

Arallgyfeirio ar y Fferm

Ailystyried y polisi er mwyn ystyried arallgyfeirio ym maes amaethyddiaeth ochr yn ochr ag arallgyfeirio oddi wrth amaethyddiaeth, ochr yn ochr ag unrhyw newidiadau mewn polisïau cenedlaethol.

Ailystyried y polisi o'i gymharu â pholisïau cenedlaethol ac ystyried gwella eglurder geiriad y polisi, yn enwedig o ran amrywio ym maes amaethyddiaeth ochr yn ochr ag arallgyfeirio oddi wrth amaethyddiaeth.

E7

Gweithio Gartref

Disgwylir i'r polisi barhau i fod yn gefnogol ac yn hyblyg o ran gweithio gartref. Bydd y geiriad yn cael ei adolygu a'i ddiweddaru yn ôl yr angen, gan gynnwys cyfeirio at y newid mewn arferion gweithio yn sgil COVID-19.

Dwyn ymlaen gyda mân newidiadau.

T1

Teithio, Traffig a Seilwaith Trafnidiaeth

Ailystyried y polisi yn dilyn pwyslais ar deithio cynaliadwy yn PCC a Cymru'r Dyfodol.

Ailystyried y polisi yn dilyn pwyslais ar deithio cynaliadwy yn PCC a Cymru'r Dyfodol.

T2

Gwarchod Seilwaith Cludiant Nas Defnyddir

Ni ddefnyddiwyd y polisi. Dylid gwneud gwaith ymchwil i nodi'r rheilffyrdd nas defnyddir a'r seidins rheilffordd a seilwaith trafnidiaeth arall nas defnyddir neu segur, yn ardal y Cynllun, yn rhan o'r broses adolygu. Bydd yr ymchwil hon yn galluogi dealltwriaeth o'r dull polisi i'w ddatblygu a gallai arwain at nodi cyfleoedd Seilwaith Gwyrdd.

Ailystyried a yw polisi'n briodol neu a oes angen dull gweithredu amgen. Mae angen ymchwil i nodi'r rheilffyrdd nas defnyddir a seidins rheilffyrdd a seilwaith trafnidiaeth arall nas defnyddir neu segur i alluogi dealltwriaeth o'r dull polisi i'w gymryd wrth symud ymlaen a gallai arwain at nodi cyfleoedd Seilwaith Gwyrdd.

T3

Ffordd Osgoi'r Drenewydd

Nid oes angen y polisi mwyach. Mae Ffordd Osgoi'r Drenewydd wedi ei hadeiladu ac yn weithredol.

Dylid dileu'r polisi.

H1

Cynigion Datblygu Tai

Adolygu'r polisi i adlewyrchu yr ailystyriaeth a roddir i'r strategaeth ofodol a'r strategaeth twf.

Diweddaru'r polisi i adlewyrchu diwygiadau i'r Strategaeth Twf a Gofodol.

H2

Safleoedd Tai

Adolygu'r polisi i adlewyrchu yr ailystyriaeth a roddir i'r strategaeth ofodol a'r strategaeth twf.

Diweddaru'r polisi i adlewyrchu diwygiadau i'r Strategaeth Twf a Gofodol.

H3

Cyflawni Tai

Mae'r polisi hwn yn gweithio'n effeithiol; fodd bynnag, caiff ei ailystyried er mwyn adlewyrchu unrhyw newidiadau yn y dull o gyflawni tai a mynd i'r afael â'r angen am dai.

Ailystyried y polisi er mwyn adlewyrchu unrhyw newidiadau yn y dull o ddarparu tai a mynd i'r afael â'r angen am dai.

H4

Dwysedd Tai

Ailystyried y polisi yng ngoleuni polisïau/canllawiau cynllunio cenedlaethol ac ymchwil ychwanegol i lywio'r dull o ymdrin â dwysedd tai ar draws haenau aneddiadau a mathau o ddatblygiad.

Ailystyried y polisi yng ngoleuni polisïau/canllawiau cynllunio cenedlaethol ac ymgymryd ag ymchwil ychwanegol i lywio'r dull o ymdrin â dwysedd tai ar draws haenau aneddiadau a mathau o ddatblygiad.

H5

Cyfraniadau at Dai Fforddiadwy

Ailystyried y polisi, gan gynnwys targedau sy'n benodol i safleoedd, yng ngoleuni tystiolaeth ddiweddaredig o'r angen am dai a hyfywedd, ynghyd â pholisïau/canllawiau cynllunio cenedlaethol.

Ailystyried y polisi, gan gynnwys targedau sy'n benodol i safleoedd er mwyn adlewyrchu tystiolaeth Asesiad Hyfywedd Lefel Uchel ynghyd â'r polisi/canllawiau cynllunio cenedlaethol diweddaraf.

H6

Tai Fforddiadwy ar Safleoedd Eithriedig a Alluogwyd

Ailystyried y polisi yng ngoleuni polisïau/canllawiau cynllunio cenedlaethol. Bydd angen adlewyrchu diwygiadau i'r strategaeth, rhaglenni Landlord Cymdeithasol Cofrestredig/Awdurdod Tai Strategol, a thystiolaeth o fforddiadwyedd ac angen lleol yn y dull o ymdrin â safleoedd eithriedig.

Ailystyried y polisi yng ngoleuni polisïau/canllawiau cynllunio cenedlaethol. Bydd angen adlewyrchu diwygiadau i'r strategaeth, rhaglenni Landlord Cymdeithasol Cofrestredig/Awdurdod Tai Strategol, a thystiolaeth o fforddiadwyedd ac angen lleol yn y dull o ymdrin â safleoedd eithriedig.

H7

Datblygiadau gan Ddeiliaid Tai

Yn gyffredinol, ystyrir bod y polisi'n gweithio'n effeithiol, yn enwedig o ran datblygiadau atodol. Mae'n bosibl y bydd angen geiriad ychwanegol i adlewyrchu ystyriaethau ychwanegol.

Ystyried geiriad ychwanegol i ddarparu eglurder ar estyniadau ac anecsau, h.y. lwfansau ar raddfa gyffredinol.

H8

Adnewyddu Anheddau Gwag

Defnyddir y polisi hwn yn effeithiol ochr yn ochr â chanllawiau TAN 24 i sicrhau bod anheddau gwag yn cael eu hadnewyddu'n sympathetig a bod asesiadau archeolegol neu adeiladau yn cael eu cofnodi.

Dwyn ymlaen gyda mân newidiadau.

H9

Anheddau Newydd

Nodwyd materion wrth ddehongli'r polisi hwn, yn enwedig o ran nodi ac asesu adeiladau o gymeriad cynhenid lleol. Mae'n bosibl y bydd angen rhagor o eglurhad ynghylch polisïau i adlewyrchu gofynion asesu archeolegol.

Diweddaru'r polisi er mwyn darparu eglurder i adlewyrchu gofynion asesu archeolegol.

H10

Safleoedd a Charafanau Sipsiwn a Theithwyr

Disgwylir i'r polisi barhau i fod yn gefnogol ac yn hyblyg o ran darparu safleoedd pan fo hynny'n angenrheidiol. Bydd y geiriad yn cael ei adolygu i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn gyfredol ac yn berthnasol i'r gofynion polisi cyfredol a'r anghenion sy'n codi.

Dwyn ymlaen gyda mân newidiadau.

H11

Darpariaeth Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr

Bydd y polisi presennol yn dyddio wrth i anghenion gael eu diwallu. Bydd angen polisi newydd i adlewyrchu tystiolaeth ddiweddaredig.

Mae angen polisi newydd i adlewyrchu'r Asesiad diwygiedig o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr.

R1

Datblygiad Adwerthu Newydd

Adolygu'r polisi yn unol â chanfyddiadau'r Astudiaeth Adwerthu diweddaredig.

Diweddaru'r polisi i adlewyrchu diwygiadau i'r Strategaeth Ofodol a'r Astudiaeth Adwerthu.

R2

Dyraniadau Adwerthu

Adolygu'r Polisi yn dilyn canfyddiadau o'r Adroddiadau Monitro Blynyddol.

Dylid dileu'r Polisi yn sgil argymhellion o'r dystiolaeth Adwerthu nad oes gofyniad am ddyraniadau adwerthu yn y CDLl Newydd.

R3

Datblygiadau Mewn Canol Trefi

Adolygu'r Polisi i egluro ei ddefnydd, a'i berthynas â pholisïau cysylltiedig eraill, yng ngoleuni adferiad yn sgil COVID-19 hefyd a'r effaith ar y stryd fawr. Bydd yr hierarchaeth Adwerthu a'r ffryntiadau siopa yn cael eu hadolygu yn unol â'r strategaeth gofodol diwygiedig a'r dystiolaeth ddiweddaredig.

Adolygu'r polisi i ddarparu eglurder ar ei berthynas â pholisïau cysylltiedig eraill, sef DM11 ac C1.

R4

Siopau a Gwasanaethau Cymdogaeth a Phentref

Ailystyried y polisi fel ei fod yn parhau i fod yn gefnogol, yn gyfredol ac yn berthnasol i greu lleoedd cynaliadwy yn unol â'r broses o ailystyried y strategaeth twf a'r strategaeth ofodol. Dylid ymchwilio ymhellach i Gysylltiadau â Pholisïau C1 a DM11, er mwyn sicrhau dull cydlynol o gefnogi cymunedau cynaliadwy.

Adolygu'r polisi i ddarparu eglurder ar ei berthynas â pholisïau cysylltiedig eraill, sef DM11 ac C1.

TD1

Datblygu Twristiaeth

Adolygu'r Polisi yn dilyn canfyddiadau o'r Adroddiadau Monitro Blynyddol. Mae angen diwygio'r geiriad hefyd er mwyn darparu eglurder.

Adolygu geiriad y polisi er mwyn darparu eglurder. Ystyried polisïau newydd er mwyn rhoi eglurhad ar lety priodol i ymwelwyr.

TD2

Defnyddiau Eraill ar gyfer Datblygiadau Twristiaeth presennol

Mae'r polisi hwn yn gweithio'n effeithiol, fodd bynnag, dylid ystyried a oes angen egluro ystyr ardal wledig.

Adolygu geiriad y polisi er mwyn darparu eglurder.

TD3

Camlas Trefaldwyn a Datblygiadau Cysylltiedig

Dylid ailystyried y polisi o ystyried rôl Camlas Trefaldwyn ar draws sawl maes pwnc CDLl ac yng nghyd-destun y dynodiad Ardal Cadwraeth Arbennig, Seilwaith Gwyrdd a chreu lleoedd.

Ailystyried y polisi ynghylch a ddylai fod yn rhan o'r fframwaith polisi ar gyfer twristiaeth neu a yw polisi ardal yn fwy priodol.

W1

Lleoliad Datblygiadau Gwastraff

Mae'r polisi hwn yn gweithio'n effeithiol.

Dwyn ymlaen gyda chyn lleied o newidiadau â phosibl.

W2

Cynigion Rheoli Gwastraff

Mae'r polisi hwn yn gweithio'n effeithiol.

Dwyn ymlaen gyda chyn lleied o newidiadau â phosibl.

RE1

Ynni Adnewyddadwy

Ailystyried y polisi yng ngoleuni cyhoeddiad Cymru'r Dyfodol a newidiadau i'r drefn gydsynio.

Ailystyried polisi yng ngoleuni cyflwyniad Cymru'r Dyfodol a thystiolaeth.

M1

Safleoedd Mwynau Presennol

Mae'r polisi hwn yn gweithio'n effeithiol. Dylid asesu a diweddaru'r geiriad fel y bo'n briodol i adlewyrchu unrhyw dystiolaeth newydd.

Dwyn ymlaen gyda mân newidiadau.

M2

Safleoedd Mwynau Newydd

Mae'r polisi hwn yn gweithio'n effeithiol. Dylid asesu a diweddaru'r geiriad fel y bo'n briodol i adlewyrchu unrhyw dystiolaeth newydd.

Dwyn ymlaen gyda mân newidiadau.

M3

Gweithfeydd Mwynau Dros Dro

Ni chafwyd unrhyw geisiadau i brofi'r polisi hwn hyd yma. Mae'r polisi'n cyfeirio at bolisi cenedlaethol felly ni ddylai fod yn angenrheidiol ei ddiweddaru.

Dwyn ymlaen gyda chyn lleied o newidiadau â phosibl.

M4

Cynigion Mwynau

Defnyddir y polisi hwn yn effeithiol. Dylid asesu a diweddaru'r geiriad fel y bo'n briodol i adlewyrchu unrhyw dystiolaeth neu newidiadau newydd mewn polisi cenedlaethol ac i adlewyrchu newidiadau i bolisïau cysylltiedig eraill yn y CDLl (e.e., tirwedd a bioamrywiaeth).

Dwyn ymlaen gyda chyn lleied o newidiadau â phosibl.

M5

Gwaith Adfer ac Ôl-ofal

Mae'r polisi hwn yn gweithio'n effeithiol. Dylid asesu a diweddaru'r geiriad fel y bo'n briodol i adlewyrchu unrhyw dystiolaeth neu newidiadau newydd mewn polisi cenedlaethol.

Dwyn ymlaen gyda mân newidiadau.

C1

Cyfleusterau Cymunedol a Chyfleusterau Adloniant Dan Do

Mae'r polisi hwn yn gweithio'n effeithiol, fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd angen egluro ei berthynas â Pholisi DM11.

Adolygu ac egluro cwmpas a geiriad y polisi, ac i ddarparu diffiniadau cliriach o gyfleusterau a gwasanaethau cymunedol.

MD1

Cynigion datblygu gan y Weinyddiaeth Amddiffyn

Ni ddefnyddiwyd y polisi. Ystyried a ddylid cynnwys y polisi yn y CDLl Newydd yn ei fformat presennol ac a oes angen unrhyw newidiadau.

Ailystyried a yw polisi'n briodol neu a oes angen dull gweithredu amgen.

11.3 Meysydd Polisi Newydd i'w Hystyried

Teitl

Argymhelliad

Unedau Da Byw Dwys

Dylid ystyried hyn ymhellach.

Diogelu Mawn

Dylid ystyried hyn ymhellach.

Diogelu'r Tir Amaethyddol Gorau a Mwyaf Amlbwrpas

Dylid ystyried hyn ymhellach.

Asesiadau o'r Effaith ar Dreftadaeth

Dylid ystyried hyn ymhellach.

Tai Arbenigol

Dylid ystyried hyn ymhellach.

Ail Gartrefi a llety gwyliau tymor byr

Dylid ystyried hyn ymhellach.

Llety Gwyliau

Dylid ystyried hyn ymhellach.

Carafán Deithio, Gwersylla a Llety Gwersylla Arall nad yw'n Barhaol

Dylid ystyried hyn ymhellach.

Safleoedd Carafanau Statig a Chabanau Gwyliau a Llety Gwersylla Parhaol Arall

Dylid ystyried hyn ymhellach.

Anheddau Mentrau Gwledig Garddwriaethol

Dylid ystyried hyn ymhellach.

Ailwampio Adeiladau Gwledig

Dylid ystyried hyn ymhellach.

Tir a Ddatblygwyd yn Flaenorol

Dylid ystyried hyn ymhellach.

Y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd

Dylid ystyried hyn ymhellach.

Ystyriaeth Ymhellach 

Hoffem wybod beth yw eich safbwyntiau am yr effaith caiff y cynigion ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 

Pa effeithiau ydych chi’n meddwl fyddai yna?

Sut y gellid cynyddu effeithiau cadarnhaol, neu leihau effeithiau negyddol?

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig